Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gwerth £56 miliwn i wella amddiffynfeydd llifogydd ac erydu arfordirol a chefnogi gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi'i blaenoriaethu ar sail risg, gan ystyried ffactorau fel tebygolrwydd ac effaith llifogydd, digwyddiadau blaenorol, nifer yr eiddo a fydd yn elwa ar y gwaith a manteision ehangach y cynllun. 

O safbwynt y cam adeiladu'n unig, mae disgwyl i dros 6,500 o eiddo elwa ar y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer 2018-19. 

Bydd awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn cyllid ar gyfer cyflwyno cynlluniau rheoli perygl llifogydd er mwyn gwarchod pobl, eiddo a busnesau. Bydd manteision ehangach hefyd ynghlwm wrth lawer o'r cynlluniau gan gynnwys gwelliannau i gynefinoedd, manteision o ran hamdden a lleihau perygl i'r seilwaith. 

Caiff y cyllid ei ddefnyddio ar gyfer cwblhau gwaith adeiladu prosiectau newydd a phrosiectau presennol, yn ogystal â chwmpasu a chynllunio cynlluniau at y dyfodol.  Cafodd y rhaglen newydd ei datblygu ar y cyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr awdurdodau lleol, Dŵr Cymru a'r Sefydliad Peirianwyr Sifil.

Ymysg y cynlluniau newydd ar raddfa fawr a fydd yn cychwyn mae: 

  • Amddiffynfeydd llifogydd Machynys yn Llanelli 
  • Lecwydd yng Nghaerdydd
  • Gwaith ar lanw'r Afon Cadoxton 
  • Llansannan a Mochdre yng Nghonwy
  • Llanberis yng Ngwynedd 
  • Llanmaes ym Mro Morgannwg 
  • Parc yr Onnen yn Aberystwyth 
  • Cronfa Ddŵr Llyn Tegid, Gwynedd
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf hefyd gynlluniau ar gyfer Canolfan Monitro Arfordirol Cymru a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau ynghylch cynlluniau addasu arfordirol a chynlluniau posibl ar lefel genedlaethol. 

Gydol tymor y Cynulliad hwn mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu neilltuo gwerth £151 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol. Ar y cyd â'r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol, mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad posibl o dros £263 miliwn mewn cynlluniau llifogydd ac arfordirol gydol cyfnod y Llywodraeth hon.
Dywedodd y Gweinidog:
"Gall llifogydd gael effaith ddifrifol ar fywydau pobl. Mae'r cyllid hwn yn tystio ymhellach i'n hymrwymiad i leihau perygl a sicrhau cydnerthedd o safbwynt llifogydd ac erydu arfordirol. "Rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr ar draws Cymru. Rwyf hefyd wedi gwarchod cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd dros y flwyddyn ariannol nesaf, ac wedi ymrwymo i gyllido Canolfan Monitro Arfordirol newydd Cymru a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o brosesau arfordirol ac yn cyfrannu at well penderfyniadau. "Mae'n bleser gen i gyhoeddi'r rhaglen uchelgeisiol hon a fydd yn cefnogi cymunedau ac ardaloedd ar draws Cymru sy'n wynebu'r peryglon mwyaf o safbwynt llifogydd ac erydu arfordirol."