Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun yw cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i gydweithredu â’i gilydd.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae dwy rownd ariannu (2017-2019) o’r cynllun grant Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW), sy’n cael ei hyrwyddo gan Ystadau Cymru, eisoes wedi’u cynnal i gefnogi cydweithredu a gwelliannau wrth reoli asedau ar draws yr ystâd gyhoeddus yng Nghymru.  

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn falch o gael lansio trydydd cam ACPW, o'r enw Rhaglen Gydweithredu 3 Cymru ar Asedau 3 (ACPW3).

Cymhwysedd

Rhaid i brosiectau o dan ACPW3 ymdrin ag eiddo neu asedau tir y sector cyhoeddus, a'r blaenoriaethau allweddol yw:

  • gwneud ystâd gyhoeddus Cymru yn fwy cynaliadwy, drwy helpu i ddatblygu sgiliau a datgarboneiddio ar lefel strategol;
  • chwalu’r ffactorau sy’n rhwystro cydweithredu.

Rhaid i bob prosiect arwain at gydweithredu go iawn ag o leiaf un corff sector cyhoeddus arall (gyda chyrff y trydydd sector yn gyd-bartneriaid yn unig).

Blaenoriaethu

Bydd prosiectau sy'n cyfrannu at yr isod o dan ACPW3 yn cael blaenoriaeth:

  • Datgarboneiddio adeiladau ac asedau cyhoeddus eraill
  • Gwella bioamrywiaeth gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Gwella cynaliadwyedd amgylcheddol gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Creu neu gefnogi twf neu gydnerthedd yr economi gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Creu gwerth cymdeithasol gan ddefnyddio asedau cyhoeddus
  • Arloesi gan ddefnyddio asedau cyhoeddus

Cyllid

Bydd cynllun grant ACPW3 yn para o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 ac yn cynnig grantiau o rhwng £10,000 a £75,000 o refeniw a hyd at £250,000 o gyfalaf i sefydliadau'r sector cyhoeddus i gefnogi prosiectau cydweithredol.

Disgwylir cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ond cysylltwch â ni os oes gennych brosiect mewn golwg, i drafod YstadauCymru@llyw.cymru.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am ACPW3, darllenwch ganllawiau'r cynllun i ymgeiswyr.