Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

3. Sail gyfreithiol y DU

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn benodol adrannau 58A a 60.

4. Amcanion y Cynllun

Prif amcanion Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yw sicrhau bod y sector gofal plant yng Nghymru yn cael ei gryfhau a'i gefnogi. Mae'r cyllid hwn hefyd yn helpu i gefnogi ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i wneud y canlynol:

  • ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith
  • mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg
  • parhau i gefnogi ein rhaglen Dechrau’n Deg flaenllaw.

5. Awdurdod/awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi/wedi’u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

6. Categori/categorïau mentrau cymwys

Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant cofrestredig a'r rhai sy'n gweithio tuag at gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

7. Sector(au) a gefnogir

  • Addysg
  • Gweithgareddau gwasanaethau eraill (gan gynnwys Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar)

8. Hyd y Cynllun

1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2025

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£42,000,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdaliadau a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw. Bydd modd rhoi cymorth ar ffurf grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Bydd yr Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant a gwblheir gan awdurdodau lleol yn nodi bylchau lle mae angen darpariaeth gofal plant ac felly cyllid cyfalaf. Bydd Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant sydd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu sydd wrthi’n cofrestru yn gymwys i wneud cais am gyllid cyfalaf drwy'r awdurdod lleol perthnasol.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Rydym yn cynnig defnyddio’r 4 ‘diffiniad’ yn atodlen 1 o’r Canllawiau Statudol Gofal Plant, sef:

  • Lleoliad cyfrwng Cymraeg - Cymraeg yw prif iaith dydd i ddydd y lleoliad. Cymraeg yw iaith yr holl weithgareddau, a’r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â phlant a phobl ifanc. Mae hefyd yn iaith gweinyddiaeth y lleoliad. Mae'r lleoliad yn cyfathrebu gyda rhieni naill ai yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg yn unol â dewis y rhieni. Croesawir plant o bob cefndir iaith i’r ddarpariaeth.
  • Lleoliad cyfrwng Cymraeg a Saesneg - Mae’r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio ochr yn ochr fel ieithoedd o fewn y lleoliad ac mae elfennau dwyieithog llawn. Defnyddir Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd cyfathrebu gyda’r plant a phobl ifanc, a defnyddir y ddwy iaith ar gyfer gweithgareddau. Defnyddir y ddwy iaith ar gyfer gweinyddiaeth y lleoliad. Mae'r lleoliad yn cyfathrebu gyda rhieni naill ai yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg yn unol â dewis y rhieni.

Dyma’r meini prawf ar gyfer pwysoli.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd amlygu a chefnogi ysgogwyr polisi. Rydym felly’n cynnig bod ceisiadau am y Grant Cyfalaf ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn cael eu pwysoli yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg  – Pan fo cynllun yn cefnogi ehangu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn uniongyrchol, byddai'n cael ei bwysoli 30% ar gyfer darpariaeth drochi, ac 20% ar gyfer darpariaeth ddwyieithog.
  • Cydleoli – er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn Hybiau Cymunedol neu Iechyd – Pan fo cynllun yn cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, byddai'n cael ei bwysoli 25%.
  • Ehangu’r Cynnig Gofal Plant, Dechrau'n Deg neu Feithrinfeydd Cyfnod Sylfaen mewn lleoliad gofal plant – Byddai cynllun yn cael ei bwysoli 10% ar gyfer pob agwedd a fyddai'n cael ei darparu mewn cais. Felly, byddai cynllun sy'n cynnig cyfnod sylfaen mewn lleoliad Dechrau'n Deg ac yn derbyn plant o dan y Cynnig Gofal Plant yn cael ei bwysoli 30%. Byddai lleoliadau gofal plant sy'n darparu'r Cynnig Gofal Plant ond dim byd arall yn cael eu pwysoli 10%.
  • Ehangu lleoedd – Byddai'n rhaid i'r achos busnes ar gyfer cynllun nodi'n glir faint y byddai’r ddarpariaeth bresennol yn cael ei hehangu, er enghraifft byddai buddsoddiad cyfalaf yn arwain at gynyddu capasiti'r lleoliad o X i Y. Byddai'r pwysoli'n cynyddu yn unol â'r cynnydd yn y ddarpariaeth, hyd at uchafswm o 15%.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

Nid oes uchafswm gan y bydd pob prosiect yn wahanol a bydd y swm yn dibynnu ar angen. Er hynny, yn seiliedig ar brofiad a gwerth blaenorol, ni fydd yn fwy na £2m.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig.

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image