Mae rhaglen gyfnewid ryngwladol unigryw yng Nghymru, sydd wedi dyfarnu cyllid i ganiatáu i dros 15,000 o bobl ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd, wedi'i hymestyn tan 2028.
Mae rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2022, yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr a staff brofi diwylliannau amrywiol ac i ddeall pwysigrwydd cydweithio ar faterion byd-eang.
Mae ysgolion, ieuenctid a grwpiau addysg bellach, uwch ac oedolion i gyd yn gallu gwneud cais am gyllid Taith. Mae Taith wedi ymrwymo'n arbennig i gyrraedd unigolion a sefydliadau a allai wynebu rhwystrau ychwanegol i gyfleoedd dysgu rhyngwladol, gan gynnwys pobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ochr yn ochr â'r estyniad, mae Taith wedi mabwysiadu proses ymgeisio gyfrannol newydd yn ddiweddar, er mwyn ei gwneud hi'n haws i sefydliadau llai, fel ysgolion, wneud cais. Mae'r dull newydd wedi arwain at y nifer fwyaf erioed o geisiadau yn y rownd ariannu ddiweddar, sef 145, gan ragori ar y nifer uchaf blaenorol o 87.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae cydweithio rhyngwladol mewn addysg yn bwysicach nag erioed. Mae Taith yn enghraifft wych o sut mae Cymru yn buddsoddi mewn pobl ifanc ac yn cryfhau ein presenoldeb byd-eang trwy gyfnewid ystyrlon.
Fel llywodraeth, rydym yn canolbwyntio ar chwalu rhwystrau i gyfleoedd gan sicrhau bod pob person ifanc, waeth beth fo'i gefndir, yn gallu cael mynediad at brofiadau sy'n ehangu ei orwelion ac yn adeiladu ei ddyfodol.
Ers ei lansio, mae Taith wedi darparu cyfleoedd sy'n newid bywydau i filoedd o ddysgwyr, sydd wedi ymweld â dros 90 o wledydd ledled y byd. Rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â llawer o ddysgwyr sydd wedi dychwelyd gyda hyder, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau iaith a fydd o fudd iddynt trwy gydol eu bywydau. Mae'r straeon gan y rhai nad oeddent erioed wedi mentro y tu hwnt i'w cymunedau lleol o'r blaen yn arbennig o deimladwy. I rai, Taith oedd eu taith gyntaf y tu allan i Gymru.
Trwy'r rhaglen hon, rydym nid yn unig wedi sefydlu partneriaethau addysgol ond wedi cryfhau enw da rhyngwladol Cymru, gyda'n dysgwyr yn dod yn llysgenhadon ar gyfer ein cenedl.
Daw’r penderfyniad i ymestyn rhaglen Taith yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am barhad y cyllid ar gyfer Cymru Fyd-eang. Mae Cymru'n Fyd-eang yn helpu i hyrwyddo a chefnogi prifysgolion Cymru, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.