Ers 2014, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi elwa ar fuddsoddiad enfawr mewn adeiladau newydd ar gyfer ysgolion a cholegau, gyda £3.7bn wedi'i fuddsoddi mewn dros 330 o brosiectau.
Mae'r rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn darparu adeiladau modern, addas i'r diben, wedi'u cynllunio i addysgu'r genhedlaeth ddigidol.
Ar ymweliad ag Ysgol Llyn y Forwyn, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, â dysgwyr a staff yn eu hysgol newydd sbon, sydd wedi'i lleoli ar hen safle Ffatri Chubb yng Nglynrhedynog, Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ysgol gynradd newydd, a agorodd yn gynharach eleni, yn elwa ar feithrinfa Cylch Meithrin â lle i 30, ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, meysydd parcio ac ardaloedd pwrpasol i'r rhai sy'n cyrraedd yr ysgol ar droed neu ar feic.
Dywedodd Reevah, sy’n 10 oed ac yn ddisgybl blwyddyn 6 yn yr ysgol:
Gan fod cymaint o le, mae dysgu yma’n well o lawer. Mae’r iard wedi bod o fudd i ni, rydym yn gallu chwarae llawer mwy o gemau.
Mae pobl i weld yn llawer hapusach ac mae pawb yn sicr yn fwy positif am ddysgu
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle:
Rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae'r buddsoddiad hwn o £3.7 biliwn yn trawsnewid addysg ym mhob cwr o Gymru. Mae'r adeiladau modern, cynaliadwy hyn nid yn unig yn codi safonau ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad - maen nhw'n creu seilwaith addysg sy'n wirioneddol o'r radd flaenaf ac yn destun balchder cenedlaethol.
Mae ysgolion wrth wraidd ein cymunedau. Rydym yn uchelgeisiol yng Nghymru o ran sut rydym yn mynd i'r afael â chodi adeiladau newydd newydd ac ailwampio eraill, gan ei gwneud yn bosibl i'r ffordd y maen nhw wedi'u dylunio wneud cyfraniad cadarnhaol at ddysgwyr a staff, cymunedau lleol a'r amgylchedd naturiol.
Mae'r buddsoddiad hwn mewn ysgolion a cholegau hefyd o fudd i'r gymuned ehangach drwy ddarparu swyddi a phrentisiaethau a rhoi hwb i economi Cymru, yn enwedig yn y sector adeiladu.
Mae cynaliadwyedd wedi bod yn ffocws ers i'r rhaglen ddechrau yn 2014. Yn 2022, arweiniodd y ffordd trwy orfodi pob prosiect mawr i gydymffurfio â charbon sero net.
Mae'r cyllid yn parhau dros y naw mlynedd nesaf gyda 316 o brosiectau adeiladu newydd yn cael eu datblygu, sy'n cynrychioli cyfanswm o £5.4 biliwn o fuddsoddiad (gan gynnwys cyfraniadau partneriaid cyflenwi).
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Yn 2022 Ysgol Gynradd South Point ger y Barri oedd yr ysgol Carbon Sero Net gyntaf i agor yng Nghymru.
- Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr oedd yr ysgol Carbon Sero Net gyntaf i gyflenwi trydan dros ben i ysbyty cyfagos (Ysbyty'r Tywysog Siarl).
- Gwthiodd yr Her Ysgolion Cynaliadwy ffiniau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys rhoi cyfle i ddisgyblion ddylunio'u hadeiladau ysgol newydd. Yr ysgolion buddugol oedd Ysgol a Chanolfan Gymunedol y Bontnewydd yng Ngwynedd, Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan ym Mhort Talbot ac ysgol gymunedol Glyn-Coch yn Rhondda Cynon Taf.
- Mae £60 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn 800 o brosiectau i gefnogi mynediad at addysg i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gyda £750 miliwn arall wedi'i nodi ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
- Mae £58 miliwn wedi darparu 128 o brosiectau Ysgolion Bro dros y tair blynedd diwethaf, gyda £20 miliwn arall ar y gweill ar gyfer 2025 i 2026.
- Buddsoddwyd £67 miliwn hyd yma mewn 49 o brosiectau ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan gefnogi'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.