Rhaglen hwyluso mynediad i’r farchnad
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11558 - cynllun i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n gweithredu yng Nghymru i ddatblygu a thyfu marchnadoedd allforio rhyngwladol.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Rhaglen Hwyluso Mynediad i’r Farchnad
3. Y sail gyfreithiol
- Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
- Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7)f o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan y cynllun yw cynyddu gwelededd rhyngwladol, cystadleurwydd a gallu allforio busnesau bwyd a diod Cymru drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgarwch masnach ryngwladol strwythuredig drwy Gyfleoedd Masnach Ryngwladol (ITO), Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD), Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (OBDV) a chyfleoedd i fod yn bresennol mewn digwyddiadau rhyngwladol. Bwriad y fenter hon yw cynyddu gallu busnesau i gymryd rhan mewn marchnadoedd byd-eang allweddol ar gost sylweddol is, gan alluogi Cymru i gystadlu’n effeithiol â gwledydd eraill y DU a chyrchfannau rhyngwladol sydd hefyd yn gweithredu o dan ddulliau gweithredu cenedlaethol cydgysylltiedig ac yn darparu lefelau tebyg o gymorth i’w busnesau. Cenhadaeth y cynllun yw dangos, dros oes y rhaglen, bod dull gweithredu parhaus a chydgysylltiedig Cymru yn cynyddu gwelededd rhyngwladol, yn cryfhau cysylltiadau busnes hirdymor ac yn cyflawni canlyniadau economaidd mesuradwy. Mae’r cymhorthdal yn cefnogi amcan polisi clir o hyrwyddo masnach ryngwladol, twf allforio, a datblygu economaidd yn y sector bwyd a diod. Mae’n cyfrannu at fwy o gynhyrchiant, arallgyfeirio’r farchnad, a gwydnwch, gan gysoni â blaenoriaethau economaidd ehangach i gryfhau cystadleurwydd byd-eang y sector ac ysgogi twf cynaliadwy.
5. Diben y cynllun
Mae’r cymhorthdal yn cefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n gweithredu yng Nghymru i ddatblygu a thyfu marchnadoedd allforio rhyngwladol, yn unol â Chynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru a’r Weledigaeth Strategol ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod.
Mae presenoldeb mewn marchnadoedd rhyngwladol yn hanfodol gan ei fod yn galluogi busnesau i greu a meithrin cysylltiadau â phrynwyr, partneriaid a chyfryngwyr allweddol, gan felly sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â chenhedloedd eraill y DU a chyrchfannau rhyngwladol.
Mae’r Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor yn galluogi busnesau bwyd a diod Cymru sy’n barod i allforio i gymryd rhan mewn arddangosfeydd a theithiau masnach ryngwladol a ddewisir yn strategol, a gyflawnir o dan bafiliwn bwyd a diod brand Cymru/Wales, er mwyn hybu’r gwaith o sefydlu presenoldeb yn y farchnad a datblygu llwybrau cynaliadwy i’r farchnad. Bydd y gweithgarwch hwn yn cynnwys cymryd rhan mewn teithiau masnach ryngwladol strwythuredig, rhaglenni cyflawni yn y farchnad ac Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor ar draws marchnadoedd rhyngwladol allweddol.
Mae’r Cyfleoedd Masnach Ryngwladol a Datblygu Masnach Ryngwladol yn helpu busnesau bwyd a diod Cymru drwy ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i wrthbwyso’r costau uchel ymlaen llaw sy’n gysylltiedig ag ymchwil i’r farchnad, a chynrychiolaeth yn y farchnad, a all fel arall fod yn rhwystrau sylweddol i fynediad. Heb y gallu i fanteisio ar y cymorth hwn, byddai busnesau cymwys o dan anfantais.
Mae dull gweithredu cydgysylltiedig Cymru yn sicrhau presenoldeb cenedlaethol cryfach ac unedig mewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol iawn, gan hyrwyddo cryfderau sectorol, gallu busnesau a chynnig allforio Cymru, gan hefyd arddangos cyflenwyr sy’n gallu diwallu anghenion a galw prynwyr rhyngwladol.
Mae presenoldeb mewn marchnadoedd rhyngwladol yn hanfodol gan ei fod yn galluogi busnesau i greu a meithrin cysylltiadau â phrynwyr, partneriaid a chyfryngwyr allweddol, gan sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â chenhedloedd eraill y DU a chyrchfannau rhyngwladol.
Mae’r fenter hon yn hwyluso cymryd rhan mewn marchnadoedd byd-eang allweddol am gost sylweddol is, gan alluogi Cymru i gystadlu’n effeithiol â gwledydd eraill y DU a chyrchfannau rhyngwladol sydd hefyd yn gweithredu o dan ddulliau gweithredu cenedlaethol cydgysylltiedig ac yn darparu lefelau tebyg o gymorth i’w busnesau.
Cenhadaeth y cynllun yw dangos, dros oes y rhaglen, bod dull gweithredu parhaus a chydgysylltiedig Cymru yn cynyddu gwelededd rhyngwladol, yn cryfhau cysylltiadau busnes hirdymor ac yn cyflawni canlyniadau economaidd mesuradwy, gan gynnwys mwy o allforio a mewnfuddsoddi.
Mae’r cymhorthdal yn cefnogi amcan polisi clir o hyrwyddo masnach ryngwladol, twf allforio, a datblygu economaidd yn y sector bwyd a diod. Mae’n cyfrannu at fwy o gynhyrchiant, arallgyfeirio’r farchnad, a gwydnwch, gan gysoni â blaenoriaethau economaidd ehangach i gryfhau cystadleurwydd byd-eang y sector ac ysgogi twf cynaliadwy.
Nid yw’r cymorth hwn yn ddibynnol ar berfformiad allforio.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categorïau o fentrau cymwys
Rhaid i’r busnes bwyd a diod fod yn weithredol yng Nghymru yn ogystal â dangos ei fod yn addas yn strategol i’r gweithgarwch rhyngwladol y cynigir cymorth ar ei gyfer.
8. Sectorau i’w cefnogi
Gweithgarwch llety a gwasanaethau bwyd
9. Hyd cyfnod y cynllun
Rhwng 7 Gorffennaf 2026 a 30 Rhagfyr 2030.
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£3,000,000
11. Ffurf y cymorth
Grant uniongyrchol
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae’r cymhorthdal yn cefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n gweithredu yng Nghymru i ddatblygu a thyfu marchnadoedd allforio rhyngwladol, yn unol â Chynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru a’r Weledigaeth Strategol ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod. Caiff ceisiadau eu hasesu gan ddefnyddio meini prawf cymhwystra a thelerau ac amodau manwl sydd wedi’u cymeradwyo gan Wasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn gydnaws ag amcanion polisi a defnydd priodol o arian cyhoeddus.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mewn rhai amgylchiadau, bydd hyd at 100% o lefelau cymorth fesul eitem ar gael.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£95,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â’r Is-adran Fwyd: FoodDivisionalBusiness@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â’r:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
