Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru 2026 i 2030: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer 2il raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Ar y dudalen hon
A. Y Cynnig
1. Teitl y cynnig
Ail raglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru
2. Beth mae eich cynnig yn ceisio ei gyflawni?
Fel sy'n ofynnol o dan adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sefydlu rhaglen â'r nod o wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Diffinnir 'hygyrchedd' yn adran 1(2) o Ddeddf 2019 ac mae'n golygu bod y gyfraith ar gael yn hwylus i aelodau'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg; wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith; wedi’i threfnu'n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau); ac yn hawdd ei deall ac yn sicr yn ei heffaith.
3. Pryd dechreuodd y gwaith ar y cynnig?
26 Ionawr 2026
4. Ar ba sefydliadau, grwpiau neu gymunedau y mae’n debygol o effeithio?
Mae cyfraith Cymru yn effeithio ar bob sefydliad, grŵp neu gymuned ond mae'r graddau yr effeithir arnynt yn dibynnu ar y deddfiadau unigol. Felly, mae gan y rhaglen y potensial i effeithio ar unrhyw un sydd angen cael mynediad at y gyfraith a'i ddeall. Gall hyn gynnwys y cyhoedd yn gyffredinol yn ogystal â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, sylwebwyr cyfreithiol, myfyrwyr a darlithwyr y gyfraith ac eraill yn y gymuned academaidd, swyddogion polisi a gweision cyhoeddus ac Aelodau'r Senedd.
5. A ydych chi wedi cofrestru eich Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar iShare?
Ydw
B. Effaith ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig ac ymgysylltu â nhw
Ar ôl adolygu'r canllawiau ac ystyried y gweithgareddau y disgwylir iddynt gael eu cynnal fel rhan o'r cynnig, rydym yn fodlon bod y cynnig:
- yn annhebygol o gael effeithiau gwahanol ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig, a
- nad oes ganddo botensial i wahaniaethu yn erbyn pobl (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) mewn grŵp gwarchodedig.
Mae hyn oherwydd, pan fo gweithgareddau arfaethedig i gydgrynhoi a chodio cyfraith Cymru, nad oes unrhyw ddeddfwriaeth y disgwylir ymdrin â hi yn gwneud darpariaeth benodol (hyd y gallwn ddweud ar hyn o bryd) mewn perthynas ag unrhyw un o'r grwpiau gwarchodedig. Pan fo gweithgareddau y bwriedir iddynt hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg neu gywiro gwallau neu ddatrys amwysedd, nid yw'r gweithgareddau hyn wedi'u cyfyngu i agweddau penodol ar gyfraith Cymru.
Mae’n fwriad o dan y rhaglen i greu cod cyfraith Tribiwnlysoedd, a chefnogi gweithgareddau a allai helpu i hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg mewn perthynas â thribiwnlysoedd Cymru. Mae o leiaf un o dribiwnlysoedd Cymru yn cyffwrdd â phobl mewn un neu fwy o grwpiau gwarchodedig (yn enwedig oedran ac anabledd). Fodd bynnag, mae rhaglen waith ar wahân mewn perthynas â'r Bil Tribiwnlysoedd a'i weithrediad dilynol, ac mae hyn yn ddarostyngedig i Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar wahân. Bydd gweithgareddau a gynhelir yn y cynnig i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn rhan o'r rhaglen weithredu ehangach honno ac felly mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â rhaglen waith y Tribiwnlysoedd yn gyfrwng mwy priodol i gynnal yr asesiad llawnach hwnnw.
Mewn perthynas â'r gweithgareddau o fewn y rhaglen sydd â'r nod o hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, eto ystyrir bod y rhain yn annhebygol o gael effeithiau gwahanol ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig, ac nad oes potensial y gallent wahaniaethu yn eu herbyn. Fodd bynnag, bwriad un gweithgaredd arfaethedig yw gweld sut y gellid cefnogi anghenion amrywiol defnyddwyr deddfwriaeth i gael mynediad at y ddeddfwriaeth honno'n well. Gan nad yw'r gwaith hwn wedi'i gwmpasu eto, nid oes modd penderfynu beth fyddai’r effaith ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig, na hyd yn oed a fyddai unrhyw effaith arnynt. Felly, rydym yn bwriadu adolygu'r mater hwn yn barhaus wrth inni ddechrau'r gwaith hwnnw. Mae un o'n partneriaid yn y rhaglen hon, yr Archifau Gwladol, wedi cynnal eu hasesiadau eu hunain o’r effaith ar gydraddoldeb mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth y mae Argraffydd y Brenin yn gyfrifol amdani, ac maent yn adolygu'r asesiadau yn barhaus. Yn ogystal, mae'r datganiad hygyrchedd ar gyfer legislation.gov.uk ar y wefan (Hygyrchedd) yn rhoi gwybodaeth am hyn, er enghraifft cais am gopïau o ddeddfwriaeth mewn print bras a braille.
Felly, nid ydym o'r farn bod angen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â'r cynnig i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
C. Cyhoeddi a monitro
1. A yw'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn barod i'w gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru?
Ydy
2. Os na allwch gyhoeddi'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, esboniwch pam.
Amherthnasol
3. A yw'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn yn ddiweddariad o fersiwn a gyhoeddwyd yn flaenorol?
Nac ydy
4. Sut byddwch chi’n monitro ac yn gwerthuso cynnydd o ran y materion cydraddoldeb a nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb?
Gan nad oes Asesiad llawn o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gynnal, nid oes angen monitro a gwerthuso pellach. Fodd bynnag, os bydd unrhyw faterion yn codi yn ystod gweithredu'r cynnig sy'n nodi y dylid ailystyried y penderfyniad i beidio â chynnal asesiad llawn, bydd hyn yn cael ei drafod bryd hynny.
Byddwn hefyd yn cefnogi'r gwaith o fonitro a gwerthuso'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd ar gyfer cynigion eraill, lle y gallai’r cynigion hynny gyffwrdd â'n gwaith ni (er enghraifft, mewn perthynas â thribiwnlysoedd (gweler adran B uchod).
D. Awdurdodi
Datganiad gan y Uwch-swyddog Cyfrifol:
Rwy'n fodlon bod effaith y cynnig wedi'i hasesu a'i chofnodi'n briodol yn unol â'r canllawiau, a bod y gofyniad i gyhoeddi wedi'i ystyried yn briodol.
Llofnod: Dylan Hughes
Adran: Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
Dyddiad: 15 Hydref 2026
