Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru 2026 i 2030: asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant ar gyfer 2il raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Ar y dudalen hon
1. Amcanion polisi
Fel sy'n ofynnol o dan adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru yn llunio rhaglen sydd â'r nod o wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Diffinnir 'hygyrchedd' yn adran 1(2) o Ddeddf 2019 ac mae'n golygu bod y gyfraith ar gael yn hwylus i aelodau'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg; wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith; wedi'i threfnu'n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau); ac yn hawdd ei deall ac yn sicr yn ei heffaith.
Disgwylir y bydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus, cyfreithwyr ac asiantaethau sy'n gweithredu ar ran plant a phobl ifanc, drwy gyflymu'r broses o ddod o hyd i'r gyfraith a gwella dibynadwyedd y deunyddiau a ganfyddir. Bydd hyn yn eu galluogi i roi cyngor cyfreithiol cyflymach a mwy dibynadwy i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi, gan gael effaith anuniongyrchol gadarnhaol ar blant a phobl ifanc felly.
Gall prosiectau unigol o fewn y rhaglen i hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru hefyd gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc. Caiff hyn ei asesu'n llawnach pan fydd cynlluniau manwl yn cael eu llunio ar gyfer y ffrydiau gwaith hynny, gan roi sylw penodol i anghenion pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd â'r hawl i bleidleisio.
2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
O ystyried natur y rhaglen, barnwyd ei bod yn annhebygol y byddai cynnwys plant a phobl ifanc yn uniongyrchol wrth ddatblygu'r rhaglen ei hun yn gymesur nac yn angenrheidiol. Fframwaith technegol ar gyfer gwella hygyrchedd y gyfraith yw'r rhaglen, yn hytrach na menter bolisi sydd wedi'i hanelu'n benodol at blant.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant, sy'n rhan o'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ymgymryd â rhaglen waith i egluro i blant sut mae cyfraith Cymru yn effeithio arnynt. Byddwn yn ystyried sut y gallwn weithio gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant a rhanddeiliaid allweddol eraill mewn perthynas â gweithgareddau unigol o fewn y rhaglen wrth i'r rhain fynd rhagddynt.
3. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
Rhoddwyd ystyriaeth i'r canlynol:
- gofynion Rhan 1 o Ddeddf 2019
- cynnwys drafft y rhaglen ar gyfer 2026 i 2030
- profiad o'r rhaglen hygyrchedd gyntaf
- gwaith Comisiwn y Gyfraith a'r Senedd mewn perthynas â hygyrchedd y gyfraith, a
- gwaith a wnaed fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig drafft ehangach.
Ni nodwyd unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu y byddai'r rhaglen yn cael effeithiau andwyol ar hawliau plant neu bobl ifanc.
Mae'r effeithiau cadarnhaol posibl yn cynnwys:
- bod gwybodaeth gyfreithiol ar gael yn well
- deunydd esboniadol cliriach
- gwell mynediad ar-lein at ddeddfwriaeth
- deunydd cyfreithiol Cymraeg sy'n fwy hygyrch
- gwell dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau ymhlith y rhai sy'n cefnogi plant
- gwell tryloywder a hygyrchedd o ran prosesau gwneud penderfyniadau cyhoeddus.
Mae'r effeithiau hyn yn anuniongyrchol ond gallant fod yn fuddiol.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol. Mae'r risgiau posibl yn gyfyngedig ac yn ymwneud yn bennaf â gweithredu, sef:
- allgáu digidol
- rhwystrau hygyrchedd i rai defnyddwyr
- gwybodaeth gyfreithiol yn parhau i fod yn rhy dechnegol
- mynediad anghyfartal at wasanaethau digidol.
Mae'r risgiau hyn yn effeithio ar bob defnyddiwr yn hytrach nag ar blant yn benodol.
Gall fod effeithiau gwahaniaethol gan y gallai rhai grwpiau o blant elwa mwy nag eraill, gan gynnwys:
- plant sy'n siarad Cymraeg
- plant anabl
- plant y mae arnynt angen cymorth cyfreithiol, cymorth addysg neu gymorth gofal cymdeithasol
- plant sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd neu brosesau gweinyddol.
Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod unrhyw grŵp o blant yn debygol o gael ei effeithio'n andwyol gan y rhaglen.
Disgwylir y bydd y gweithgareddau a gynhelir o dan y rhaglen, o'u hystyried gyda'i gilydd, yn cael effaith gadarnhaol ar hawliau plant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu eu gwarcheidwaid, a'r cyrff cyhoeddus a'r asiantaethau cynghori sy'n eu cynrychioli. Ar ôl adolygu erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), yr erthyglau mwyaf perthnasol sy'n debygol o fod yn gymwys yw:
Erthygl 3 (Lles pennaf y plentyn)
Gall corff mwy hygyrch o gyfraith Cymru helpu awdurdodau cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol i ddeall a chymhwyso'n gywir ddyletswyddau cyfreithiol sy'n effeithio ar blant.
Erthygl 12 (Parchu safbwyntiau'r plentyn)
Gall esboniadau cliriach o brosesau deddfu, deddfwriaeth a deunyddiau esboniadol helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan ar sail gwybodaeth mewn materion sy'n effeithio arnynt.
Erthygl 13 (Rhyddid mynegiant)
Gall gwella hygyrchedd gwybodaeth gyfreithiol helpu plant i arfer eu gallu i geisio a chael gwybodaeth.
Erthygl 17 (Mynediad at wybodaeth)
Mae'n debyg mai hon yw'r Erthygl sydd fwyaf uniongyrchol berthnasol. Mae'r rhaglen yn cynnwys prosiectau sydd â'r nod o wella'r ffordd y caiff cyfraith Cymru ei chyhoeddi, ei hygyrchedd a'r ddealltwriaeth ohoni. Gall gwell gwybodaeth gyfreithiol helpu i sicrhau mynediad at wybodaeth sy'n bwysig i blant ac i'r rhai sy'n gweithredu ar eu rhan.
Erthygl 29 (Addysg a datblygiad)
Er nad yw'r rhaglen yn addysgol ei natur, gall gwell mynediad at wybodaeth gyfreithiol helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o faterion dinesig a chyfansoddiadol.
Erthygl 42 (Gwybodaeth am hawliau plant)
Dim ond os gall pobl ddod o hyd i'r fframwaith cyfreithiol sy'n sail i hawliau plant a'i ddeall y mae'r hawliau hynny'n ystyrlon. Gall y rhaglen gyfrannu'n anuniongyrchol at ymwybyddiaeth o hawliau drwy wella mynediad at ddeddfwriaeth a deunyddiau esboniadol.
4. Cyfathrebu â Phlant a Phobl Ifanc
Nid yw'n berthnasol, er y cedwir hyn dan adolygiad wrth i'r gwaith ar y rhaglen fynd rhagddo.
5. Monitro'r polisi ac adolygu'r effaith
Er na ddisgwylir ar hyn o bryd i unrhyw un o'r prosiectau arfaethedig yn y rhaglen effeithio'n uniongyrchol ar blant neu bobl ifanc, dylai'r timau perthnasol (er enghraifft, y rhai sy'n gweithio ar ddatblygu adnoddau deallusrwydd artiffisial newydd) roi ystyriaeth serch hynny i'r canlynol:
- ymgysylltu â phobl ifanc
- ymgynghori â sefydliadau cynrychioladol
- ymgysylltu â Chanolfan Gyfreithiol y Plant a grwpiau cynghori eraill ar hawliau plant (fel y bo'n berthnasol)
- cyngor arbenigol ar hawliau, ac
- Asesiad llawn o'r Effaith ar Hawliau Plant sy'n benodol i'r prosiect.
Cydnabyddir hefyd y gallai gwella hygyrchedd ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ddod o hyd i'r gyfraith sy'n gymwys iddynt a'i deall.
Caiff y ddogfen hon ei diwygio a'i diweddaru wrth i'r rhaglen gael ei rhoi ar waith a'i hadolygu.
