Neidio i'r prif gynnwy

Creu natur ar garreg eich drws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Sefydlwyd 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' yn 2020 i greu 'natur ar garreg eich drws'. Y syniad oedd: 

  • creu ardaloedd sy'n cefnogi natur o fewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac o gwmpas trefi
  • annog mwy o werthfawrogiad a gwerth o natur
  • creu mwy o fannau gwyrdd, gan anrhydeddu ein hymrwymiad i wneud hynny
  • cefnogi amcanion bioamrywiaeth ehangach

Nid yw lleoedd lleol ar gyfer natur yn penodi yr hyn y mae'n ei gefnogi. Mae'n hyrwyddo dull o'r gwaelod i fyny lle arweinir gweithgaredd gan y gymuned. 

Cynlluniau

Bellach yn ei bedwaredd blwyddyn, mae'r rhaglen LPfN yn cael ei chyflwyno trwy bum cynllun unigol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol: 

  1. Cynllun Pecynnau Cymunedol a ddarperir gan Cadwch Gymru'n Daclus (KWT)

    Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (ar keepwalestidy.cymru)

    Pecynnau gardd rhagdaledig i grwpiau cymunedol bach i greu gerddi natur. Mae hefyd yn cynnig pecynnau datblygu mwy i sefydliadau o fewn yr un rhaglen.

  2. Cynllun Partneriaethau Natur Lleol (LNP) a ddarperir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

    Partneriaethau Natur Lleol Cymru (ar lnp.cymru)

    Cyflwynir drwy Bartneriaethau Natur Lleol ym mhob Awdurdod Lleol a'r tri Parc Cenedlaethol. Mae 3 elfen i'r cynllun hwn:

    • cyllid refeniw  
    • cyllid cyfalaf, a 
    • cyllid grant cystadleuol (cronfa her)  
       
  3. Cynllun Adeiladu Capasiti Arfordirol a ddarperir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

    Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol (CGGC) (ar wcva.cymru)

    Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2022/23 mae hwn yn gynllun newydd ar gyfer 2023/24. Mae'n creu rhwydweithiau mewn rhanbarthau arfordirol i:

    • wella natur 
    • creu cadernid economaidd a chymdeithasol
       
  4. Cynllun Grant Cyfalaf Mynediad Agored a ddarperir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

    Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Cyfalaf Natur (ar heritagefund.org.uk)

    Cynllun grant cystadleuol ar gyfer sefydliadau nid-er-elw. Darparu prosiectau cyfalaf mewn ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig at natur.

  5. Cynllun Chwalu Rhwystrau a ddarperir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

    Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau (ar heritagefund.org.uk)

    Cynllun ar gyfer cymunedau sydd wedi'u heithrio ac ar y cyrion. Bydd y cynllun yn nodi ac yn   cael gwared ar rwystrau i gyfranogiad cymunedol ym myd natur.