Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau gweithredu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Medi 2026

Rhagair a chyflwyniad

Gweinidogion y Cabinet a’r Dirprwy Weinidogion

  • Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
  • Sioned Williams AS, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
  • Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
  • Heledd Fychan AS, Y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
  • Adam Price AS, Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
  • Anna Brychan AS, Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
  • Dafydd Trystan  Davies AS, Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
  • Mabon ap Gwynfor AS, Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
  • Llyr Gruffydd AS, Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
  • Siân Gwenllian AS, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd, Y Cwnsler Cyffredinol
  • Delyth Jewell AS, Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
  • Mark Hooper AS, Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
  • Cefin Campbell AS, Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
  • Nerys Evans AS, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Rhagair

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi cadw ei haddewid i bobl Cymru.

Yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, fe wnaethom fwrw iddi’n syth, gan sicrhau dechrau cadarn a gweithredu ar y materion sydd bwysicaf i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Roedd y misoedd cyntaf hynny’n ymwneud â gosod y sylfeini ar gyfer newid a dangos y gall llywodraeth symud yn gyflym pan fydd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir.

Bydd y Rhaglen Lywodraethu hon yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw dros y pedair blynedd nesaf.

Ein ffocws nawr yw troi gweithredu cynnar yn ganlyniadau parhaol drwy leihau rhestrau aros, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i’r afael â thlodi plant a sefyll dros ein cenedl.

Cawsom ein hethol i symud Cymru yn ei blaen ar ôl blynyddoedd o ddiffyg cyfeiriad a diffyg twf. Dyna yw ein cenhadaeth o hyd.

Drwy adeiladu ar fomentwm ein 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn parhau i ad-dalu’r ymddiriedaeth y mae pobl wedi’i rhoi ynom a chyflawni’r gwelliannau ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.

Byddwn yn ddigyfaddawd wrth sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan. Mae hynny’n golygu dadlau dros rymuso’r Senedd â’r adnoddau a fydd yn ein galluogi i fod yn fwy beiddgar a radical wrth newid bywydau ein dinasyddion er gwell, a chael pobl i ddod gyda ni ar gamau nesaf taith gyfansoddiadol ein cenedl.

Bydd y llywodraeth hon bob amser yn llais cryf dros ein cenedl, gan frwydro dros fargen deg ar gyllid, buddsoddiad a chyfleoedd, a sicrhau bod Cymru’n  cael ei thrin fel partner cyfartal heb eithriad.

Lle bo tir cyffredin, byddwn yn gweithio’n adeiladol ar draws y Senedd i gyflawni dros bobl Cymru.

Am gyfnod rhy hir, mae gweithio ar wahân neu’n ynysig wedi rhwystro cynnydd. Mae’r llywodraeth newydd hon yn mynd ati mewn ffordd wahanol. Drwy ddefnyddio dychymyg ac arloesedd wrth wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethau, byddwn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth – nid oddi mewn iddynt yn unig – i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.

Mae’n ddyletswydd ar y llywodraeth i fynd i’r afael â’r heriau hirdymor hyn, i osod y sylfeini ar gyfer poblogaeth iach am ddegawdau, i fuddsoddi yn y seilwaith ar gyfer economi ffyniannus ac i amddiffyn ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Y Gwir Anrhydeddus Rhun ap Iorwerth AS 
Prif Weinidog Cymru

Cyflwyniad: Uchelgais newydd i Gymru

Dyma ein glasbrint ar gyfer newid i wireddu ein gweledigaeth o genedl fodern, ffyniannus, uchelgeisiol a hyderus. Mae’n nodi dechrau pennod newydd i Gymru ac yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer gwlad lle gall ei phobl ddisgwyl canlyniadau gwell drwy lywodraeth fwy effeithiol a gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Byddwn yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau allweddol; lleihau rhestrau aros, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da sy’n talu’n dda, codi safonau addysgol, mynd i’r afael â thlodi plant, ac ym mhopeth a wnawn, byddwn bob amser yn sefyll dros Gymru.

Nid oes unrhyw beth yn anochel am yr heriau sy’n wynebu ein cenedl. Drwy ddefnyddio dull newydd o lywodraethu, byddwn yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd, tlodi a thwf economaidd gwan. Bydd y nodau hyn yn llinyn cyffredin ar draws holl waith y llywodraeth – dim mwy o weithio ar wahân neu’n ynysig, llunio polisïau mewn ffordd anghydlynol, neu atebion dros dro sy’n arwain at ddiffyg twf neu’n waeth byth, dirywiad. Rydym eisiau creu cenedl sy’n hyderus yn ei hunaniaeth ei hun, ei diwylliant a’i hieithoedd – a rôl y rhain wrth hybu llesiant ein pobl.

Byddwn yn adeiladu ar gam cyntaf datganoli ac yn manteisio ar y cyfleoedd i adeiladu’r genedl sydd o’n blaenau. Byddwn yn sefyll dros Gymru a’i phobl yn wyneb anghyfiawnderau blaenorol, i wneud yn siŵr bod gennym y cyllid a’r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl ym mhob cymuned. Mae hynny’n golygu gwthio’r achos i Gymru gael yr un pwerau â’r Alban yn y man lleiaf, a fformiwla ariannu decach i’n helpu i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy gwydn.

Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn gymhleth ac yn rhyng-gysylltiedig ond nid ydynt yn amhosibl eu goresgyn. Gan adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod y 100 Diwrnod Cyntaf, byddwn yn awr yn symud ymlaen i’r cam nesaf o adeiladu Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus.

Pennod 1: Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros

Cyflwyniad

Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi dechrau symud adnoddau at wasanaethau gofal sylfaenol, ac at ymgorffori dull trawslywodraethol o ymdrin ag atal.

Poblogaeth iach yw sylfaen cenedl ffyniannus, ac mae’r Llywodraeth hon yn cymryd o ddifrif yr angen i ailddosbarthu adnoddau tuag at atal afiechyd, mynediad gwell at wasanaethau, a gofal cymdeithasol llawer gwell. Am gyfnod rhy hir, mae pobl yng Nghymru wedi treulio gormod o amser mewn iechyd gwael, ac mae gwasanaethau’n cael mwy a mwy o drafferth i ymdopi â chyflyrau iechyd yr 21ain ganrif a gofynion gofal cymdeithasol.

Mae dyfodol gwahanol yn bosibl; lle rhoddir yr un flaenoriaeth i atal afiechyd â thrin salwch, lle mae gwasanaethau’n cael eu llunio yn seiliedig ar bobl a chymunedau, a lle mae pob rhan o’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd a llesiant.

Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, rydym wedi dechrau symud adnoddau at wasanaethau gofal sylfaenol, ac at ymgorffori dull trawslywodraethol o ymdrin ag atal. Bydd hyn yn helpu i gadw pobl yn iachach yn hirach, gan leihau’r galw am wasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol drwy sicrhau camau cydgysylltiedig ym mhob portffolio Gweinidogol.

Mae hwn yn nod hirdymor, ac wrth inni wneud y newid mawr hwn, byddwn yn parhau i drin pobl pan fydd angen triniaeth arnynt, drwy ddatblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer heddiw ac sy’n ymateb i newidiadau yfory. Mae ymrwymiad i egwyddorion sylfaenol GIG Cymru yn sail i’n dull gweithredu: sef darparu gofal iechyd o ansawdd uchel sy’n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, yn seiliedig ar angen clinigol yn hytrach na’r gallu i dalu, a chynnal mynediad cyffredinol at wasanaethau, gan gynnwys presgripsiynau GIG Cymru am ddim. Bydd gwasanaethau ar gael fwyfwy yn Gymraeg a Saesneg yn ôl dewis.

Bydd ymchwil a datblygu, arloesi a gwelliant parhaus yn hanfodol i ddatblygu system iechyd a gofal sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Drwy gryfhau cydweithio rhwng GIG Cymru, gofal cymdeithasol, prifysgolion, diwydiant a chymunedau, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau a thriniaethau’n cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, a’u bod yn mabwysiadu ac yn ehangu’r defnydd o arloesedd profedig yn gyflym. Byddwn yn creu diwylliant lle mae staff rheng flaen yn cael eu grymuso i fod yn rhan o ymchwil ac yn gallu gwerthuso ac arloesi; gan helpu i wella canlyniadau, lleihau anghydraddoldebau, darparu gwasanaethau mwy cynaliadwy ac ysgogi mewnfuddsoddi a ffyniant economaidd.

Ymhellach, drwy gryfhau cydweithredu ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, byddwn yn gwella pontio rhwng gwasanaethau, yn cefnogi rhyddhau amserol pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty, ac yn helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y camau hyn yn gwella llif cleifion ar draws y system iechyd a gofal, gan leihau oedi a sicrhau bod pobl yn cael gofal yn y lleoliad cywir, gan roi terfyn ar ofal coridor yng Nghymru yn y pen draw.

Bydd yr egwyddorion hyn yn parhau i lywio penderfyniadau ynghylch llunio, darparu a buddsoddi mewn gwasanaethau ar draws y system iechyd a gofal.

Lleihau rhestrau aros

Gall amseroedd aros llai arwain at ganlyniadau cadarnhaol, megis cyflyrau iechyd yn gwella a thriniaeth haws, ansawdd bywyd gwell, a llai o boen a straen a achosir gan ansicrwydd.

Nid yw rhestrau aros yn cael yr un effaith ym mhob rhan o Gymru, felly drwy eu lleihau, rydym hefyd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Drwy wella amseroedd aros, byddwn yn helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith ac i fod yn egnïol yn gyflymach, sy’n cefnogi ein cenhadaeth cynhyrchiant, ac yn lleihau’r galw am ofal cymdeithasol hirdymor.

Byddwn yn:

  • lleihau amseroedd aros ac yn gwella’r ffordd y mae gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu drwy drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau cleifion allanol, ehangu capasiti diagnostig a llawfeddygol a sefydlu hyd at 10 hwb llawfeddygol ledled Cymru.

Gwella canlyniadau drwy ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu mynediad at ofal o ansawdd uchel sy’n amserol, yn effeithiol ac yn seiliedig ar angen. Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau iechyd a phrofiadau pobl o ofal, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu llunio fel bod pobl yn gallu cael mynediad at y cymorth cywir, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn ac mor agos â phosibl at eu cartref. Byddwn yn mynd ati i adeiladu ar gynllun gweithredu Mwy na Geiriau – fel bod gwasanaethau iechyd a gofal ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cynnwys drwy wasanaethau digidol a theleiechyd.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo hawliau a llesiant pobl ag anableddau dysgu a phobl niwrowahanol, gan sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel, ynghyd â chyfleoedd i fyw bywydau annibynnol a gwerth chweil. Rydym yn cydnabod yr heriau sy’n gysylltiedig ag amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi gwelliannau.

Byddwn yn parhau â gwaith i roi blaenoriaeth i atal hunanladdiad a darparu cymorth i bobl sy’n hunan-niweidio drwy gryfhau ymyrraeth gynnar. Byddwn yn grymuso pobl i wrando a deall, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth amserol cyn cyrraedd pwynt argyfwng. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gynharaf bosibl, gyda chefnogaeth cyllid wedi’i ddiogelu. Yn ogystal, bydd ymgorffori ystyriaethau iechyd meddwl ar draws polisïau’r llywodraeth, prosesau gwneud penderfyniadau a gwasanaethau cyhoeddus yn helpu i greu dull mwy cydgysylltiedig o hyrwyddo llesiant. Bydd hyn yn gwella canlyniadau ac yn mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n cael yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl pobl sydd mewn perygl.

Drwy wneud defnydd gwell o ddata, ymchwil, arloesedd a lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd, byddwn yn gwella effeithiolrwydd gwasanaethau, yn lleihau amrywiadau diangen ac yn creu system fwy cysylltiedig sy’n darparu safonau gofal cyson uchel ledled Cymru.

Byddwn yn:

  • sicrhau bod gofal integredig yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref gyda gweithgarwch ataliol yn ganolog iddo i gefnogi diagnosis cynharach, lleihau derbyniadau i’r ysbyty ac oedi cyn rhyddhau cleifion.
  • cryfhau llwybrau clinigol cenedlaethol ar gyfer pob grŵp oedran, gan ganolbwyntio’n benodol ar iechyd meddwl, strôc, diabetes, offthalmoleg a gofal cardiofasgwlaidd, er mwyn sicrhau gofal diogel, teg ac o ansawdd uchel ledled Cymru, gan ymgorffori hawliau cleifion a lleihau amrywiadau rhanbarthol. Bydd yr uchelgais ar gyfer GIG Cymru yn cael ei hamlinellu drwy Gynllun Gwasanaethau Clinigol Cenedlaethol.
  • cyflwyno Strategaeth Ganser Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar atal, diagnosis cynharach, ymchwil ac arloesi, mynediad teg at wasanaethau, a gofal canser sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn.
  • gwella canlyniadau a phrofiadau iechyd a gofal i fenywod a merched gan gynnwys drwy Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru wedi’i atgyfnerthu, gan sicrhau bod menywod yn cael eu clywed, bod pobl yn gwrando arnynt a’u bod yn cael eu cynnwys wrth lunio’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio ac yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gofal. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu canlyniadau gwell i fenywod, teuluoedd a babanod drwy ein mentrau gofal mamolaeth a newyddenedigol ehangach.
  • gwella canlyniadau i bobl sy’n byw gyda dementia drwy ddiagnosis cynharach, mynediad amserol at asesiadau a thriniaeth, gan gynnwys cryfhau’r cymorth a’r gweithgarwch ataliol, yn ogystal â thrwy gyhoeddi Strategaeth Ddementia.
  • gweithio i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
  • gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl gan gynnwys llwybrau mynediad ar yr un diwrnod a chryfhau’r dull ‘dim drws anghywir’.
  • ymgorffori ffordd o ymdrin ag iechyd a gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan ddefnyddio tystiolaeth, data a phrofiadau cleifion i lunio, darparu a gwella gwasanaethau sy’n cyflawni canlyniadau gwell o ran iechyd i bobl Cymru.

Gwella cynaliadwyedd y gweithlu a seilwaith y system

Mae system iechyd a gofal gynaliadwy yn dibynnu ar y bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r seilwaith sy’n eu cefnogi. Ein gweithlu yw ein hased gorau, a byddwn yn cefnogi ein proffesiynau iechyd a gofal, gan eu harfogi i ddiwallu anghenion ein poblogaeth.

Bydd pobl ledled Cymru yn elwa ar ofal diogel a chydgysylltiedig o ansawdd uchel gan dimau sy’n cael eu cefnogi’n dda, sydd â’r sgiliau priodol ac sydd â’r gallu i addasu wrth i anghenion newid.

Byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd i wneud GIG Cymru yn fan lle gall pobl wneud eu gwaith gorau, lle mae gan staff lais i ddylanwadu ar wella gwasanaethau a lle mae penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gweithlu yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o anghenion cleifion, profiadau staff, ansawdd, fforddiadwyedd a chanlyniadau.

Bydd buddsoddi yn ein gweithlu, moderneiddio ein hystad, croesawu trawsnewid digidol a chryfhau cynllunio system gyfan yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn ymatebol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Byddwn yn:

  • datblygu gweithlu cynaliadwy a medrus drwy gyflwyno strategaeth gweithlu hirdymor sy’n sicrhau cynnydd o hyd at 100 yn niferoedd y meddygon teulu, gan wella mynediad at ofal y tu allan i oriau, lleihau’r pwysau ar ysbytai ac adrannau damweiniau ac achosion brys, a chefnogi gweithio hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus.
  • gwella mynediad at wasanaethau deintyddol, gan gynnwys ystyried opsiynau i sefydlu ysgol ddeintyddol newydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor, a sicrhau bod byrddau iechyd yn asesu anghenion deintyddiaeth lleol ac yn cymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth ddeintyddol ddigonol i’w poblogaethau.
  • adolygu strwythurau sefydliadol a llywodraethiant, a’u cryfhau neu eu newid pan fo angen, i wella effeithiolrwydd ac atebolrwydd y system.
  • datblygu rhaglen Cyfleusterau Iechyd a Gofal Cynaliadwy, gan flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw risg uchel ac atgyweiriadau brys, moderneiddio a defnydd mwy effeithlon o’r ystad.
  • gweithredu Strategaeth Ddigidol 10 mlynedd sy’n hyrwyddo arloesi a defnydd strategol o AI a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru, yn gwella llythrennedd iechyd, ac yn cryfhau’r defnydd o ddata i wella canlyniadau cleifion, yn llywio penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau mwy effeithiol.

Cryfhau gofal cymdeithasol

Mae’r rhaniad hirsefydlog rhwng y  systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn aneffeithlon ac anghynaliadwy 
ac nid yw’n adlewyrchu gwir anghenion pobl. Byddwn yn datblygu system gofal cymdeithasol gryfach sy’n grymuso pobl i fyw’n dda, cynnal eu hannibyniaeth a chadw mewn cysylltiad â’u cymunedau. Drwy weithlu medrus sy’n cael ei werthfawrogi, cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ffocws ar atal, a gweithio mewn partneriaeth agosach, byddwn yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn gyson, yn gynaliadwy ac yn gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru.

Mae mwy na 300,000 o bobl yn darparu gofal a chefnogaeth amhrisiadwy i aelodau o’r teulu a ffrindiau ledled Cymru, gan wneud cyfraniad eithriadol at gymdeithas a’r economi, ac arbed biliynau o bunnoedd i’n gwasanaethau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae eu hymroddiad yn cael effaith ddofn ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd y rhai y maent yn gofalu amdanynt. Wrth inni barhau i gefnogi gofalwyr di-dâl i gael y gydnabyddiaeth, y gefnogaeth a’r cymorth ymarferol y maent yn eu haeddu, mae’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl ar y gweill, a bydd yn helpu i lunio cymorth i ofalwyr yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru lle mae gofalu yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi’n briodol, lle mae atal a chymorth cymunedol yn cael eu blaenoriaethu, a lle mae gofalwyr di-dâl yn cael y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i reoli eu rôl gofalu. Rydym am i ofalwyr di-dâl gael eu trin gydag urddas a pharch a pheidio â bod dan anfantais oherwydd y gofal y maen nhw’n ei ddarparu.

Byddwn yn:

  • symud tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol drwy gryfhau gofal cymdeithasol drwy Raglen Gwasanaeth Cenedlaethol a fydd yn sicrhau safonau cyson, dulliau casglu data gwell a gweithlu sy’n cael ei gefnogi’n well.
  • sicrhau pontio didrafferth rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal sy’n fwy cydgysylltiedig a chynaliadwy ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Diogelu plant ac oedolion

Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed drwy gydol eu bywydau yn gyfrifoldeb pwysig i’r llywodraeth, ac mae’n gweithredu fel rhwyd ddiogelwch hanfodol. Byddwn yn atgyfnerthu’r trefniadau diogelu ledled Cymru er mwyn bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn yn gyson ac yn effeithiol ni waeth ble maen nhw’n byw na pha wasanaethau y maen nhw’n eu defnyddio.

Drwy’r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel, byddwn yn cryfhau arweinyddiaeth, goruchwyliaeth ac atebolrwydd cenedlaethol, yn gwella dysgu a gwelliant parhaus, ac yn cefnogi arferion diogelu amlasiantaeth mwy cyson. Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i sicrhau bod y trefniadau diogelu yn fwy parod i ymateb i risgiau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan gadw lleisiau a phrofiadau plant ac oedolion yn rhan ganolog o’r broses o wneud penderfyniadau.

Byddwn yn:

  • diwygio’r maes diogelu i gryfhau’r ffordd y mae plant ac oedolion yn cael eu hamddiffyn drwy atebolrwydd cliriach, arweinyddiaeth gryfach a defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i ysgogi gwelliant parhaus yn ymarferol.

Pennod 2: Helpu aelwydydd â chostau byw

Cyflwyniad

Drwy gydol y Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol hon, byddwn yn cymryd camau i leihau’r pwysau ariannol sy’n wynebu teuluoedd.

Mae teuluoedd a busnesau yn teimlo effaith ariannol penderfyniadau a wnaed yn San Steffan a chanlyniadau digwyddiadau ledled y byd sydd wedi peri ansefydlogrwydd. Gan ddefnyddio’r dulliau cyfyngedig sydd gennym ar hyn o bryd, byddwn yn cymryd camau i liniaru’r effaith ar Gymru, drwy dyfu ein heconomi a chreu’r amodau i gyflawni ein potensial. Byddwn hefyd yn cymryd camau ar unwaith i leddfu’r pwysau costau byw y mae cymaint o ddinasyddion yn eu profi ac yn rhoi cymorth hanfodol iddynt i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn a thu hwnt.

Ar adeg pan mae llawer o deuluoedd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, bydd gofal plant fforddiadwy yn lleihau’r pwysau ar gyllidebau aelwydydd ac yn gwneud cyfraniad pwysig at fynd i’r afael â thlodi plant. Bydd ein Cynnig Gofal Plant newydd yn trawsnewid mynediad at ofal plant, gan helpu mwy o deuluoedd i gael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel, gwella cyfleoedd i blant, a chefnogi rhieni a gofalwyr i gyflawni eu huchelgeisiau.

Mae’r buddion yn ymestyn y tu hwnt i deuluoedd unigol. Mae cymunedau a chymdeithas ehangach 
yn elwa ar deuluoedd sefydlog a hapus. Bydd ein cenhadaeth cynhyrchiant yn elwa ar yr enillion economaidd o fuddsoddiad rhieni mewn sgiliau, hyfforddiant a phrofiad, y byddant yn gallu manteisio’n llawn arnynt mewn cyflogaeth neu entrepreneuriaeth.

Mae gofal plant fforddiadwy yn rhan ganolog o’n dull gweithredu, ond nid dyma’r unig ffordd y byddwn yn helpu i leddfu’r pwysau ar gyllidebau aelwydydd. Drwy gydol y Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol hon, byddwn yn cymryd camau i leihau’r pwysau ariannol sy’n wynebu teuluoedd. Presgripsiynau am ddim, parhau â thocynnau bws rhatach a mynediad am ddim i amgueddfeydd yw rhai o’r ffyrdd y gallwn helpu â chostau bywyd bob dydd.

Cynnig Gofal Plant newydd

Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd, ac ni ddylai unrhyw deulu gael ei ddal yn ôl gan gost gofal plant. Mae mynediad at ofal plant fforddiadwy, o ansawdd uchel yn datgloi cyfleoedd i rieni, plant a theuluoedd, ac i’n cymuned a’n heconomi yn ehangach.

Gall plant chwarae, cymdeithasu a dysgu mewn lleoliadau proffesiynol a chefnogol. Mae gan rieni fwy o gyfleoedd i weithio, astudio neu gynyddu eu horiau, sy’n cefnogi cyllid teuluol ac uchelgeisiau gyrfa. Yn y cyfamser, mae cymunedau a chymdeithas yn ehangach yn elwa ar fwy o gyfranogiad yn y gweithlu ac economi gryfach sy’n gwneud y gorau o sgiliau a thalentau pawb.

Byddwn yn:

  • darparu Cynnig Gofal Plant trawsnewidiol a chyffredinol newydd i blant rhwng 9 mis a 4 oed, gan adeiladu’n raddol i 20 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, a chynnal y cynnig 30 awr presennol ar gyfer plant 3 a 4 oed cymwys.
  • cyflwyno un system ymgeisio symlach fel y gall teuluoedd gael mynediad hawdd at ofal plant a ariennir.
  • ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar drwy ein Cynnig Gofal Plant newydd.
  • gweithio’n agos gyda darparwyr gofal plant i adeiladu capasiti ar draws y sector a thyfu’r gweithlu er mwyn cefnogi’r ehangu.

Datblygu system les i Gymru

Mae’r system nawdd cymdeithasol yn darparu cymorth hanfodol i bobl pan fyddant ei angen fwyaf. Rydym eisiau system les decach a mwy ystyriol sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd Cymru, ac sy’n darparu cymorth effeithiol i unigolion a theuluoedd.

Mae ein gwaith o dreialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, yn gam cynnar tuag at gyflawni’r uchelgais honno, gan ddangos yr hyn y gellid ei gyflawni wrth ei gyflwyno’n llawn pan fo hynny’n bosibl. Byddwn yn parhau i ddadlau dros roi rheolaeth i Gymru dros nawdd cymdeithasol fel y gellir gwneud mwy a mwy o benderfyniadau am gymorth yma yng Nghymru. Wrth inni weithio tuag at y nod hwnnw, byddwn hefyd yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo drwy’r system bresennol.

Byddwn yn:

  • gweithio i wella System Budd-daliadau Cymru er mwyn gwneud cymorth yn addas i’r diben ac yn haws ei hawlio.
  • pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli nawdd cymdeithasol fel y gallwn gynllunio a darparu amddiffyniadau cymdeithasol a wnaed yng Nghymru, sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein pobl a’n cymunedau yn well.

Tai

Boed hynny wrth rentu neu dalu morgais, mae costau tai yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau aelwydydd. Mae cael cartref diogel a sefydlog yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da a chefnogi ein huchelgais ar gyfer poblogaeth iachach.

Gall tai o ansawdd uchel hefyd leihau gwariant misol, yn ogystal â dod â manteision amgylcheddol. Byddwn yn lleddfu rhywfaint o’r pwysau ar gyllidebau aelwydydd drwy ein hymgyrch i wella cyflwr a sicrwydd tai. Byddwn yn gwneud tai yn fwy fforddiadwy, yn lleihau bregusrwydd i rentwyr, ac yn sicrhau bod costau tai yn adlewyrchu incwm lleol yn well. 

Byddwn yn:

  • cyflwyno mesurau newydd i gryfhau hawliau ac amddiffyniadau rhentwyr, gan gynnwys rhenti teg, a byddwn yn gwella ansawdd cyffredinol eiddo rhent.
  • gweithio tuag at wireddu hawl i gartref digonol yng Nghymru.
  • darparu mwy o dai cymdeithasol – o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030 – a chefnogi tai a arweinir gan y gymuned sy’n diwallu anghenion lleol.
  • sefydlu Unnos fel y gellir darparu mwy o gartrefi dan berchnogaeth gyhoeddus sy’n effeithlon o ran ynni.
  • ehangu mynediad at y rhaglen ôl-osod drwy fabwysiadu dull ar sail ardal sy’n niwtral o ran deiliadaeth, gan gadw cynlluniau effeithlonrwydd ynni presennol ar gyfer aelwydydd incwm isel.
  • canolbwyntio ar gyflymder gwaith cyweirio eiddo sydd â diffygion diogelwch tân.

Trethi teg

Mae system dreth deg yn rhan o gompact a wneir rhwng llywodraeth, unigolion a busnesau. Mae refeniw trethi yn ariannu’r gwasanaethau yr ydym oll yn dibynnu arnynt wrth fyw ein bywydau bob dydd a thanio ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Fel Llywodraeth, ni fyddwn byth yn cymryd yn ganiataol yr ymddiriedaeth sy’n cael ei rhoi ynom ni pan ddaw i wneud penderfyniadau trethiant. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod refeniw yn cael ei godi yn deg ac yn syml, a bod trethi gan ein trigolion a’n busnesau yn cael eu gwario’n ofalus er mwyn cyflawni i bob un ohonom. Nid yw’r egwyddor honno byth yn bwysicach nag ar adegau fel hyn pan fyddwn wedi gweld gwasgfa gyson ar incwm teuluoedd a busnesau.

Byddwn yn:

  • archwilio ffyrdd o wneud y Dreth Gyngor yn decach.
  • defnyddio ein dulliau trethi datganoledig i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac yn cynllunio ein trethi i gefnogi ein nodau, gan gynnwys helpu i brynu cartrefi, a lleihau gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.

Pennod 3: Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda

Cyflwyniad

Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfoeth a’i gadw o fewn ein cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.

Mae ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru yn dibynnu ar economi ffyniannus sy’n gyrru ein gwasanaethau cyhoeddus, yn creu swyddi gwerth chweil sy’n rhoi boddhad, ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dyfodol cryfach.

Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfoeth a’i gadw o fewn ein cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol. Mae twf economaidd yn cynyddu cyllid, drwy dderbyniadau trethi datganoledig, ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn dibynnu arnynt ac yn helpu’r llywodraeth i fuddsoddi mewn camau hirdymor ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi gweld digon o uchelgeisiau economaidd yn y gorffennol, ond heb y camau gweithredu sydd eu hangen i helpu ein heconomi i dyfu. Fel cymdeithas, rydym i gyd yn dibynnu ar economi gref. Byddwn yn tynnu ar dystiolaeth ryngwladol o’r hyn sy’n gweithio er mwyn buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru, gan eu helpu i dyfu a ffynnu. Byddwn yn defnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod seilwaith ategol sy’n eu meithrin, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i gefnogi gweithlu iach a medrus. Yn gyfnewid, gall busnesau ein helpu i fuddsoddi yng ngwasanaethau ac economi’r dyfodol.

Cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant

Mae cynyddu cynhyrchiant wrth wraidd ein cynlluniau economaidd – gan roi terfyn ar genedlaethau o gynhyrchiant isel a haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd.

Mae economi sy’n elwa ar dwf cynhyrchiant iach yn creu mwy o werth o’r sgiliau, yr amser a’r adnoddau sydd ar gael iddi. Mae hyn yn helpu busnesau i dyfu, buddsoddi a chystadlu. Mae’n helpu i greu swyddi, cynyddu cyflogau a gwella safonau byw. Gall hefyd arwain at lefelau uwch o arloesi, entrepreneuriaeth a thwf busnes a all ddenu buddsoddiad preifat ar gyfer seilwaith lleol, cenedlaethol a digidol hanfodol.

Byddwn yn:

  • datblygu ein cenhadaeth cynhyrchiant, a fydd yn ystyried holl weithgarwch y llywodraeth yng nghyd-destun cynyddu cynhyrchiant.
  • sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol newydd i’n helpu i osod targedau, casglu data perthnasol a mesur cynnydd i wneud y llywodraeth yn fwy atebol dros ei phenderfyniadau economaidd.

Cefnogi busnesau Cymru

Mae gennym lawer o fusnesau yng Nghymru sydd eisoes yn rhagori ar y disgwyliadau, ond rydym yn gwybod bod ein heconomi yn llawn potensial nad ydym wedi manteisio arno eto.

Busnesau canolig (y rhai sy’n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl) yw asgwrn cefn ein cymunedau. Byddwn yn ceisio cynyddu nifer y busnesau hyn yng Nghymru mewn modd cynaliadwy. Byddwn yn creu’r amodau i ddatgloi’r potensial presennol a datblygu economi fwy cynaliadwy sy’n rhoi arian ym mhocedi pobl.

Byddwn yn:

  • creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd, dan arweiniad byd busnes, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, i helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a masnachu’n rhyngwladol, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chynyddu nifer y swyddi o ansawdd da, sy’n talu’n dda ac sy’n gynaliadwy. Bydd yr asiantaeth yn gweithio i bobl ledled y wlad ac ar draws yr economi.
  • diwygio Banc Datblygu Cymru a’r cynhyrchion ariannol y mae’n eu cynnig er mwyn helpu busnesau canolig i dyfu a sicrhau bod ei gyllid yn hyrwyddo ac yn ymgorffori gwaith teg a chyflog byw gwirioneddol.

Ailfuddsoddi yng Nghymru

Mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario mwy nag £11 biliwn bob blwyddyn yn caffael nwyddau a gwasanaethau.

Rydym am weld cymaint o’r arian hwn â phosibl yn cael ei wario gyda busnesau Cymru, gan danio ein cymunedau a thrawsnewid economïau rhanbarthol. Mae’n ffordd effeithiol inni fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru, gan gynyddu cystadleurwydd a chynaliadwyedd busnesau bach a chanolig a chefnogi’r gwaith o greu degau o filoedd o swyddi sy’n talu’n dda. Gall hefyd gyfrannu at ein nodau ehangach o degwch a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Byddwn yn:

  • anelu at gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd. Byddwn yn cyflwyno mesur newydd o’r gwerth economaidd y mae Cymru’n ei gael o gaffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn rhoi’r budd economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i’r wlad.
  • datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren Cymru, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi’r galw, a hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sector, gan gynyddu gwydnwch a chydweithio â’r sector i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru ar  gyfer Pren.
  • mabwysiadu dull Gwaith Teg yn Gyntaf o ran dyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau’r sector cyhoeddus.

Cefnogi busnesau bach a’r stryd fawr i ffynnu

Yng nghanol ein trefi mae busnesau llwyddiannus sy’n gwneud ein strydoedd mawr yn lleoedd bywiog i weithio a chymdeithasu.

Rhaid i ganol trefi a dinasoedd fod yn groesawgar, yn ffyniannus ac yn lleoedd da i fyw, a dim ond drwy ddefnyddio dull cyfannol ac integredig o ran cynllunio, polisi a chyllid y gellir cyflawni hyn.

Byddwn yn:

  • diwygio ac yn ailgydbwyso ardrethi busnes i roi mwy o gefnogaeth i fusnesau’r stryd fawr ym maes lletygarwch, hamdden a manwerthu.
  • defnyddio’r Tasglu Canol Trefi i archwilio’r opsiynau ynghylch adfywio canol ein trefi, gan gynnwys ailddefnyddio eiddo gwag fel tai cymdeithasol.

Creu mwy o gyfoeth cymunedol

Mae cymunedau ledled Cymru yn cymryd rheolaeth dros eu dyfodol economaidd eu hunain drwy sefydlu mentrau cymdeithasol, mentrau cymunedol a chwmnïau cydweithredol.

Ein huchelgais yw ei gwneud hi’n haws i asedau gwerthfawr lleol ddod yn eiddo i’r gymuned.

Byddwn yn:

  • deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu, i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau lleol.
  • darparu mwy o gymorth arbenigol i greu, tyfu a chynnal busnesau newydd – busnesau cydweithredol, cymdeithasol, a rhai sy’n eiddo i weithwyr – a’i gwneud yn haws iddynt gael mynediad at gyllid drwy Fanc Datblygu Cymru.

Y sgiliau sydd eu hangen ar Gymru

Mae system sgiliau effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth glir o’n gofynion sgiliau, gan sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant – gan gynnwys prentisiaethau – yn unol ag anghenion cyflogwyr a diwydiannau Cymru a’r rhai a fydd yn ein helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol gyda gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.

Gydag economi a chymdeithas sy’n newid yn gyflym, byddwn yn ddigon hyblyg i addasu’n sydyn i gyfleoedd ac anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Byddwn yn egluro i’n prifysgolion a’n colegau, conglfeini’r system sgiliau, beth yw’r anghenion hynny. Mae hefyd yn hanfodol bod gennym system sgiliau sy’n hawdd i ddysgwyr gael mynediad ati, gydag opsiynau addysg a hyfforddiant hygyrch i atal pobl rhag llithro i anweithgarwch economaidd neu ddod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Byddwn yn:

  • datblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru, wedi’i llywio gan archwiliad sgiliau cenedlaethol, i sicrhau bod darpariaeth sgiliau, addysg alwedigaethol a chymwysterau yn cyd‑fynd ag anghenion economaidd Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • byddwn yn cefnogi system sy’n cryfhau llwybrau i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan helpu pobl i gael y sgiliau, y cymorth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i gael gwaith teg, diogel a chynaliadwy, i aros yn y gwaith hwnnw, ac i wneud cynnydd. Cymryd camau i greu system addysg drydyddol gynaliadwy yn ariannol, sy’n darparu addysg, sgiliau ac ymchwil o ansawdd uchel, yn cefnogi cydweithredu ar draws y sector, ac yn sicrhau gwerth hirdymor o fuddsoddiad cyhoeddus, gan ddechrau â’n hadolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch.
  • gweithio i sicrhau bod pobl ifanc o Gymru yn gallu byw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys drwy wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru a fydd yn codi wrth i’r DU ailymuno â chynllun Erasmus+, ac archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y rhaglen Taith sy’n benodol i Gymru.

Cysylltedd digidol a thrawsnewid

Mae rhoi hwb i gysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn allweddol i ryddhau potensial economaidd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern ac effeithlon, ac yn ei dro yn codi ein safonau byw.

Ni allwn anwybyddu’r cyfleoedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig bellach â deallusrwydd artiffisial (AI) ym mywydau bob dydd pobl. Rhaid inni fanteisio ar botensial arloesedd digidol ac AI, gan barhau i roi pwyslais clir ar fabwysiadu’r dechnoleg mewn ffordd ddiogel, foesegol a seiberddiogel, a sicrhau mynediad at gysylltedd cyflym iawn.

Byddwn yn:

  • cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd a fydd yn cefnogi digideiddio ac arloesi yn economi Cymru, yn sbarduno trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu’r amodau ar gyfer mabwysiadu AI mewn ffordd ddiogel a moesegol er mwyn cynyddu cynhyrchiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon.
  • parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a darparwyr telathrebu i sicrhau bod busnesau a chartrefi yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf.

Trafnidiaeth

Rydym yn creu system drafnidiaeth fodern, integredig a chynhwysol, sy’n cael ei rhedeg er budd teithwyr, nid cyfranddalwyr. Bydd gwell cysylltedd yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol yn cefnogi ein huchelgeisiau economaidd drwy helpu busnesau i dyfu a’i gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at waith, a hyrwyddo tegwch mynediad at ddarpariaeth diwylliant, treftadaeth a chwaraeon.

Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru i ddarparu fframwaith clir ar gyfer cyflawni, gan sicrhau bod ein system drafnidiaeth yn cefnogi twf economaidd, yn gwella mynediad at gyfleoedd ac yn cysylltu cymunedau ledled Cymru yn well. Byddai cyflawni gweledigaeth Ymlaen, Gyda’n Gilydd gwerth £14 biliwn Trafnidiaeth Cymru, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w hariannu, yn trawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ac yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at swyddi, addysg a gweithgareddau hamdden.

Byddwn yn:

  • blaenoriaethu gwydnwch cysylltiadau ar draws Afon Menai drwy welliannau tymor byr a chanolig wrth gynllunio ar gyfer atebion hirdymor.
  • gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â gwydnwch ffyrdd yng nghoridor De-ddwyrain Cymru.
  • hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal yn ddiogel.
  • cyflwyno cyfres wedi’i hadnewyddu o brosiectau rheilffyrdd sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.
  • creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig drwy ehangu’r system talu am docynnau drwy dapio i mewn ac allan, a chyflwyno prisiau symlach a thecach ar draws bysiau a threnau i wella gwasanaethau i deithwyr a chymunedau ledled Cymru, gan wneud teithio’n symlach ac yn fwy fforddiadwy.
  • parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed a chadw pasys bws i bobl dros 60 oed a phobl anabl.
  • trawsnewid gwasanaethau bysiau drwy fasnachfreinio, gan ddod â llwybrau, prisiau a safonau o dan un system atebol i’r cyhoedd sy’n rhoi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwella cysylltiadau rhwng cymunedau drwy’r gwasanaeth bysiau newydd rhwng y Gogledd a’r De ac yn darparu rhwydwaith integredig sy’n gwella mynediad at wasanaethau, yn cefnogi twf economaidd, ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.
  • cyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan (EV) wedi’i hadnewyddu ar gyfer Cymru.
  • rhoi teithio llesol wrth wraidd system drafnidiaeth Cymru, gan ei wneud yn ddewis ymarferol, diogel a chynhwysol ar gyfer mwy o siwrneiau bob dydd. Byddwn yn lleihau rhwystrau i gerdded, olwyno a beicio i gefnogi ein cenhadaeth atal afiechyd, a hyrwyddo cyfleoedd o ran llesiant a’r economi.
  • rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd dull cydgysylltiedig o deithio gan ddysgwyr, gan gryfhau gweithio trawslywodraethol fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i wella mynediad at addysg, gan gynnwys drwy fynd i’r afael â rhwystrau i addysg cyfrwng Cymraeg.
  • mynd ati’n strategol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd a gwneud y mwyaf o’i botensial economaidd.
  • gweithio gyda phorthladdoedd Cymru i gryfhau eu gwydnwch a gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at economi Cymru, wrth fynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.

Cymru wledig gryfach a mwy gwydn

Ffermwyr, pysgotwyr a’r sector bwyd yw asgwrn cefn yr economi wledig. Maen nhw’n cefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, yn gwarchod yr amgylchedd gwledig ac yn gwella diogeledd bwyd.

Rydym yn falch o’n traddodiad o gynhyrchu bwyd a chynnyrch o ansawdd uchel sy’n cael ei fwynhau ledled Cymru a’i allforio ledled y byd, gan greu swyddi a chodi proffil Cymru yn fyd-eang.

Mae ardaloedd gwledig yn wynebu heriau penodol, a byddwn yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fel bod cymunedau’n cael eu grymuso a busnesau’n cael eu cefnogi. Byddwn yn cefnogi economi wledig lewyrchus yn ogystal â chefnogi cymunedau i ffynnu, a chynnal y Gymraeg fel iaith fyw mewn llawer o ardaloedd gwledig.

Byddwn yn:

  • cefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn ffordd sy’n sail i gynaliadwyedd hirdymor busnesau fferm ac yn diogelu dyfodol y fferm deuluol mewn hinsawdd sy’n newid. Byddwn yn datblygu ac yn mireinio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mewn cydweithrediad cryf â’r gymuned ffermio, fel ei fod yn cefnogi sector amaethyddol ffyniannus i gynhyrchu bwyd, gan gyflawni canlyniadau amgylcheddol allweddol hefyd, yn raddol.
  • gweithredu dull newydd o reoli maethynnau ar draws dalgylchoedd, gan symud oddi wrth y dull “ffermio yn ôl y calendr” a chefnogi ffermwyr i leihau llygredd dŵr amaethyddol.
  • cyflwyno cynllun newydd ar gyfer Twbercwlosis (TB) Gwartheg, gan fabwysiadu dull cyfannol o fynd i’r afael â’i ddileu, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei arwain gan wyddoniaeth, gan gynnwys tair elfen, sef gwartheg, pobl a bywyd gwyllt.
  • datblygu Cynllun Lles Anifeiliaid wedi’i adnewyddu sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy’n ymdrin â lles anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
  • cefnogi diwydiant pysgota a dyframaethu cynaliadwy, a’r cymunedau sy’n dibynnu arno, fel rhan o’r system fwyd a’r economi.
  • cyflawni Strategaeth Datblygu Gwledig i Gymru. Deddfu i’w gwneud yn ofynnol i gynlluniau gwario a rhaglenni polisi gwledig gael eu prawfesur o safbwynt gwledig er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig.
  • cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr.
  • archwilio opsiynau ar gyfer ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer anheddau unigol a throsi adeiladau fferm ar gyfer defnydd preswyl i wella mynediad at dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Y daith at annibyniaeth ynni

Bydd cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn sicrhau mwy o ddiogeledd ynni ond hefyd yn sail i’n dull o gyrraedd sero net erbyn 2040. Rydym yn paratoi cynllun hirdymor i ddarparu mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau, gan fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau gwyrdd sy’n dod i’r amlwg.

Byddwn yn sicrhau bod pobl a chymunedau Cymru yn berchen ar fwy o fentrau ynni adnewyddadwy a’u bod nhw a’u cymunedau yn cael eu cyfran deg o’r elw. Mae ein huchelgais ar gyfer datganoli Ystad y Goron hefyd yn ganolog i’r nod hwn.

Byddwn yn:

  • datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol, gan fapio anghenion ynni Cymru heddiw ac yn y dyfodol a nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i’w diwallu.
  • cydlynu gweithgarwch ar draws y llywodraeth a sectorau allweddol drwy gyflwyno Bargen Sector newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
  • uno Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i greu cwmni ynni cenedlaethol cryfach i dyfu perchnogaeth gymunedol.

Sector twristiaeth mwy cynaliadwy

Mae Cymru yn gyrchfan dwristiaeth o’r safon uchaf, a byddwn yn ei hyrwyddo felly, gan ganolbwyntio ar gynyddu perchnogaeth leol yn y sector.

Byddwn yn sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar dwristiaeth ac ar unrhyw ardollau ymwelwyr, a bod diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw Cymru yn cael eu dathlu a’u cryfhau. Bydd hyn yn adeiladu ar arferion gorau fel 'Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035'.

Byddwn yn:

  • adolygu’r trothwy o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau ac yn creu eithriadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai’r llety hwnnw yn gymwys i fod yn gartref preifat.
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd mesurau presennol ar ail gartrefi a llety gwyliau ac asesu pa gamau pellach y mae eu hangen i helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau ac i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • adolygu rôl Croeso Cymru ac ystyried ai dyma’r model gorau ar gyfer cefnogi twristiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant.

Cynllunio dan arweiniad y gymuned, a meithrin agwedd “gwnaed yng Nghymru” tuag at ddatblygu rhanbarthol

Rhaid i gynllunio adlewyrchu ac ymateb i anghenion lleol a bod wedi’i seilio ar system sy’n gyson, yn glir ac yn effeithlon ym mhob rhan o Gymru.

Mae system gynllunio effeithiol yn sail i’n huchelgeisiau ar gyfer Cymru, ac yn cefnogi ein hymgyrch cynhyrchiant, ein cymunedau bywiog, a dyfodol disglair i’r Gymraeg. Dros amser, mae clytwaith o wahanol fentrau a strwythurau datblygu rhanbarthol a gafodd y dasg o hyrwyddo datblygu rhanbarthol wedi ymddangos.

Er mwyn sicrhau bod prosesau cynllunio yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, mae angen fframwaith rhesymegol integredig newydd arnom ni, a fydd yn darparu goruchwyliaeth a gweledigaeth strategol, gan droi ein huchelgais yn realiti.

Byddwn yn:

  • diwygio’r system gynllunio, fel ei bod yn gwasanaethu ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau yn well, gan adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a llewyrchus.
  • ailwampio prosesau cynllunio gofodol a chreu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru sy’n darparu gweledigaeth a goruchwyliaeth newydd ar sail Cymru gyfan.
  • disodli’r dulliau tameidiog presennol sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd o ran rheoli morol drwy gyflwyno Fframwaith Cynllunio Morol, wedi’i adeiladu ar sail cyd-reoli gwirioneddol gyda physgotwyr, rhanddeiliaid amgylcheddol a chymunedol a rhanddeiliaid y diwydiant.

Pennod 4: Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu

Cyflwyniad

Byddwn yn creu’r amodau i sicrhau bod llawer mwy o bobl ifanc yn gadael y system addysg wedi’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu taith, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ymuno â’r byd gwaith.

Sgiliau ein pobl yw un o’n hadnoddau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhain yn cael eu datblygu ar bob cam mewn bywyd, ac maent yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, yn gyrru ein heconomi ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd yr unigolyn. Gan adeiladu ar sail ein Cynnig Gofal Plant a ariennir, mae ein system addysg yn agor y drws i blant a phobl ifanc feithrin yr wybodaeth, i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau ac i fod yn rhan o’r dyfodol economaidd ffyniannus a welwn i Gymru.

Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol a sgiliau cryf yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell, gan helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial wrth fynd i’r afael hefyd ag anghydraddoldeb mewn cymdeithas. Mae system addysg gydgysylltiedig, sy’n rhychwantu addysg blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd a thrydyddol, a hyfforddiant, yn rhoi’r cyfle gorau i bobl ifanc gael yr yrfa y maent ei heisiau yn y dyfodol.

Safonau ysgolion

Codi safonau llythrennedd a rhifedd yw un o’r heriau mwyaf brys y mae ein system addysg yn ei hwynebu.

Mae’r canlyniadau PISA diweddaraf yn dangos unwaith eto bod gormod o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb y sgiliau sylfaenol hyn. Byddwn yn creu’r amodau i sicrhau bod llawer mwy o bobl ifanc yn gadael y system addysg wedi’u paratoi ar gyfer cam nesaf eu taith, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ymuno â’r byd gwaith.

Byddwn yn:

  • cyhoeddi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd ac yn codi safonau drwy sefydlu targedau cenedlaethol, gan gynnwys asesiad sylfaenol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau yn yr ysgol. Byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ddatblygu targedau unigol ar gyfer pob dysgwr.
  • adolygu trefniadau cwricwlwm ac asesu i symleiddio ac egluro disgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl.

Llesiant a chynhwysiant mewn ysgolion

Mae’r pandemig wedi cael effaith barhaol ar ein pobl ifanc, gyda llawer ohonynt yn profi’r effaith ar adeg allweddol o ran eu datblygiad. Os nad eir i’r afael â’r effaith barhaol hon ar eu gallu i ymgysylltu, bydd yn effeithio ar eu gallu i fyw bywydau iach a llewyrchus.

Mae cyfraddau absenoldeb cyson, ynghyd â heriau ymddygiad ac iechyd meddwl gwael, wedi golygu bod athrawon yn treulio gormod o amser yn rheoli’r amgylchedd dysgu a dim digon o amser yn addysgu. Byddwn yn cefnogi athrawon gydag ymagwedd gyfannol amlasiantaeth at ymddygiad a llesiant, ac yn rhannu data ac arferion gorau yn lleol ac yn genedlaethol.

Byddwn yn:

  • datblygu fframwaith cydlynol sy’n dwyn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid ynghyd i fynd i’r afael ag ymddygiad, presenoldeb, llesiant ac anghydraddoldeb addysgol. Mae’r rhain hefyd yn adlewyrchu materion cymdeithasol ehangach, a byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn gwella dysgu proffesiynol ac arferion adrodd am ddigwyddiadau a rhannu gwybodaeth rhwng ysgolion, ac yn profi dulliau gweithredu drwy ein cynlluniau peilot Ysgolion Cymunedol a Mwy.
  • cryfhau cynaliadwyedd hirdymor y system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gyda phartneriaid iechyd, i gryfhau eglurder y system, capasiti a hyder y gweithlu i ddarparu addysg gynhwysol yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i ddiwallu eu hanghenion.

Llwybrau dysgwyr

Mae addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau gydol oes a chamu ymlaen mewn gyrfa, gan arwain at gyfleoedd gyrfa newydd, cyflog uwch a llesiant gwell.

Mae colegau a phrifysgolion Cymru yn hwyluso amrywiaeth o lwybrau, o opsiynau galwedigaethol lefel 1 a 2 i gyrsiau academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Byddwn yn hyrwyddo’r opsiynau hyn, gan sicrhau bod gan ddysgwyr ddewis go iawn a’u bod yn cael eu cyfeirio’n glir.

Byddwn yn:

  • datblygu system addysg drydyddol sydd â llwybrau dysgwyr clir a chydlynol, gan gefnogi dysgu gydol oes a galluogi pobl o bob oed i gamu ymlaen yn hyderus rhwng addysg, hyfforddiant a chyflogaeth drwy gydol eu bywydau ac i gyrraedd eu potensial llawn.
  • diwygio Academi Seren, gan adeiladu ar ei helfennau cryfaf i gefnogi mwy o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, i gyflawni eu potensial a chamu ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gynnwys yma yng Nghymru.
  • cryfhau cyfleoedd i bobl ifanc gyflawni eu potensial gan gynnwys ehangu mynediad at lwybrau galwedigaethol megis prentisiaethau iau a sicrhau bod cyfraniad gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall yn well.

Y Gymraeg mewn addysg

Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus, ac i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd sicrhau cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i bob dysgwr yn amcan canolog ar bob lefel o’r system addysg.

Rydym am wneud defnydd llawn o’r pwerau yn Neddf y Gymraeg ac Addysg. Drwy gyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a’r Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru ar y daith i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus erbyn iddo adael yr ysgol.

Byddwn yn:

  • cynyddu cyfran y plant a’r bobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan osod targedau lleol i sicrhau twf cyson y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol.
  • cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cael mynediad at lwybrau trydyddol yn y Gymraeg, gan gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio gyda’r Coleg a Medr i gynyddu cyfleoedd i astudio’r Gymraeg fel pwnc.
  • cefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy hyrwyddo a datblygu sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a datblygu cyfleoedd sabothol newydd.

Cefnogi athrawon

Ni allwn gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer pobl ifanc heb gefnogaeth gan weithlu ysgol ymroddedig a llawn cymhelliant. Athrawon a staff cymorth yw sylfaen y system addysg ac maent yn bartneriaid hanfodol wrth ddarparu’r dechrau gorau i’n plant.

Byddwn yn:

  • gweithio gyda’n gweithlu addysg a’n partneriaid cymdeithasol i wneud addysgu yn yrfa ddeniadol, uchel ei pharch sy’n dod â boddhad.
  • gwella prosesau recriwtio a chadw staff drwy leihau llwyth gwaith, darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwaith cynllunio, paratoi ac asesu, a chefnogi datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i bob athro, arweinydd a chynorthwyydd addysgu.
  • adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud i’r Cymelldaliad Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth o £15,000 i £20,000 i helpu i ddenu mwy o athrawon i bynciau lle mae prinder, ac archwilio cyfleoedd i gynyddu hyn ymhellach.
  • cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant diogelu ar draws addysg drwy sicrhau bod dysgwyr ac addysgwyr yn gallu adnabod ac adrodd am achosion o grŵmio. Byddwn yn darparu addysg gynhwysfawr ar ddiogelwch digidol a llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn sicrhau bod safonau diogelu ac addysgol yn cael

Pennod 5: Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru

Cyflwyniad

Bydd Cymru lle gall pob plentyn ffynnu yn genedl decach, iachach a mwy llewyrchus.

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn un o genadaethau diffiniol y Llywodraeth hon. Mae’n rheidrwydd moesol ac yn fuddsoddiad yn nyfodol Cymru.

Dylai pob plentyn allu dysgu, cymryd rhan a gwireddu ei botensial, waeth beth fo incwm ei deulu. Fodd bynnag, mae gormod o blant yn parhau i brofi tlodi, sy’n gallu cael effaith ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd.

Bydd Cymru lle gall pob plentyn ffynnu yn genedl decach, iachach a mwy llewyrchus. Gall lleihau tlodi plant wella cyfleoedd bywyd, cryfhau cymunedau a datblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr, meddylwyr  ac arweinwyr sydd eu hangen ar ein gwlad.

Torri cylch tlodi

Mae blynyddoedd o strategaethau diffygiol a gwariant diffocws gan weinyddiaethau blaenorol, a waethygwyd gan bolisïau cyni San Steffan, wedi gadael lefelau tlodi plant yn ystyfnig o uchel.

Mae angen inni greu disgwyliadau ar draws y llywodraeth a’r gymdeithas o’r rôl y gall tai, iechyd, addysg a’r economi ei chael o ran torri cylch tlodi. Mae angen inni sefydlu mecanweithiau sy’n ei gwneud hi’n haws inni gofleidio’r cysylltiadau hyn.

Byddwn yn:

  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyflawni cynllun newydd i fynd i’r afael â thlodi plant, gan osod targedau, meincnodau a cherrig milltir clir i ysgogi newid uchelgeisiol, cyflawnadwy.
  • pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r dulliau sydd ganddynt, gan gynnwys cael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, cynyddu’r Lwfans Tai Lleol, a chyflwyno tariffau cymdeithasol i sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi.

Cynnal – Taliad Plant Cymru

Hoffem i Gymru fod yn wlad lle gall pob plentyn ffynnu. I ormod o deuluoedd, gall pwysau ariannol gyfyngu ar y cyfleoedd hynny o flynyddoedd cynharaf bywyd plentyn. Gall cymorth ariannol uniongyrchol helpu i leihau’r pwysau hynny, gwella llesiant y teulu a chyfrannu at ganlyniadau gwell i blant.

Bydd Cynnal yn ein galluogi ni i asesu’r effaith y gallai Taliad Plant Cymru ei chael ar leihau tlodi plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Wrth dreialu’r dull gweithredu hwn, byddwn yn adeiladu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch sut y gall cymorth ariannol uniongyrchol helpu i wella cyfleoedd bywyd.

Byddwn yn:

  • mynd ati i dreialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, gan ddarparu taliad uniongyrchol bob wythnos i blant ifanc o deuluoedd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol.

Prydau ysgol am ddim

Ni ddylai unrhyw blentyn golli’r cyfle i ddysgu oherwydd ei fod yn llwglyd. Byddwn yn adeiladu ar ein hanes o ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd drwy estyn y cynnig i ysgolion uwchradd.

Bydd sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael pryd maethlon sy’n eu llenwi yn ystod y diwrnod ysgol yn hyrwyddo iechyd a llesiant, yn eu helpu i ganolbwyntio yn yr ysgol ac yn eu galluogi nhw i gymryd rhan weithredol mewn gwersi a gweithgareddau cymdeithasol.

Byddwn yn:

  • ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan ddechrau drwy sicrhau bod pob myfyriwr ym Mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu hawlio pryd ysgol am ddim, heb unrhyw gyfyngiad o ran incwm. Byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd. 

Cymdeithas gyfiawn

Dylai pawb yng Nghymru gael eu trin ag urddas, a dylent hefyd allu cyflawni eu potensial a theimlo eu bod yn perthyn. Mae cymdeithas gyfiawn o fudd i bawb, gan ddarparu cyfle cyfartal, cymunedau cysylltiedig a ffyniannus, a mynediad at wasanaethau sy’n rhydd o wahaniaethu a rhagfarn.

Mae ein llwyddiant fel cenedl yn dibynnu ar sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu, cymryd rhan a gwireddu eu potensial.

Byddwn yn:

  • gweithio ar draws pob un o feysydd y llywodraeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, drwy ddull system gyfan a chymdeithas gyfan sy’n canolbwyntio ar atal.
  • cefnogi dioddefwyr a goroeswyr drwy ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr yn y maes hwn, a thrwy eithrio llochesi o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i sicrhau mynediad at lety diogel.
  • gweithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd i hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys cydraddoldeb LHDTC+, hawliau pobl anabl, cydraddoldeb rhywedd a Chymru wrth‑hiliol.
  • cyddwn yn cryfhau gwaith cyflawni ac atebolrwydd, ac yn adrodd ar gynnydd ac effaith. Cefnogi Llywodraeth y DU i ddatblygu gwaharddiad llwyr, sy’n cynnwys pobl draws, ar yr hyn a elwir yn ‘therapi trosi’, gan gryfhau’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn a chefnogi goroeswyr.
  • cynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella cefnogaeth i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Bwrw ymlaen â chynigion i ddatblygu deddfwriaeth seiliedig ar hawliau dynol i Gymru.
  • gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ceiswyr noddfa i gymryd rhan ac integreiddio i gymdeithas Cymru, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau yn ddiogel a chydag urddas.

Pennod 6: Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan

Cyflwyniad

Rydym yn credu yn ein pobl a byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddatgloi eu potensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn.

Fel Llywodraeth, ni fyddwn yn ymddiheuro am y weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn amlwg ym mhob pennod o’r Rhaglen Lywodraethu hon. Rydym yn credu yn ein pobl a byddwn yn cymryd pob cam posibl i ddatgloi eu potensial ac i adeiladu Cymru decach, gryfach a mwy gwydn.

Rydym wedi cymryd camau cynnar i ailosod y berthynas â Llywodraeth y DU, gan ddadlau’r achos i Gymru gael ei thrin â thegwch a pharch ar bob cyfle. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda’n cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, yn unol â’r ymrwymiadau a wnaed yng Nghytundeb Caerdydd, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar feysydd o ddiddordeb cyffredin.

Mynnu tegwch gan San Steffan

Mae gormod o benderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd bob dydd ein dinasyddion yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

Byddwn yn mynd ati’n barhaus i archwilio’r setliad cyfansoddiadol presennol, gan ei herio pan na fo’n bodloni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r pwerau, y dulliau a’r setliadau ariannol sydd eu hangen arnom i lywodraethu’n effeithiol ac mewn ffordd gydlynol i wella bywydau pobl.

Cyllid teg

Yn rhy aml yn y gorffennol, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu ei chyfran deg o gyllid i Gymru a byddwn yn defnyddio pob cyfle posibl i unioni’r cam hwn.

Byddwn yn:

  • mynd ar drywydd diwygio cyllidol, gan gynnwys tegwch yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu, gweithrediad Fformiwla Barnett, mwy o hyblygrwydd cyllidol, ariannu pwerau datganoledig mewn ffordd deg, a chyfrifoldebau pellach i’r Senedd dros drethi yng Nghymru.
  • brwydro dros y cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus inni ac y mae ei angen arnom i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys cyllid canlyniadol o HS2 – ac i’r rheilffyrdd gael eu datganoli.
  • cyflwyno rhaglen genedlaethol i ddiogelu ac adfer tomenni nas defnyddir, gan sicrhau bod pob tomen yn cael ei monitro, ei chynnal a’i rheoli’n briodol. Byddwn yn parhau i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith hwn yn briodol ac yn llawn.
  • sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar gyweirio tir halogedig i fapio, blaenoriaethu ac adfer yn gynyddol dir ôl-ddiwydiannol fel nad yw cymunedau bellach yn dod i gysylltiad â safleoedd diffaith, priddoedd gwenwynig, a dyfrffyrdd llygredig. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu’r gwaith adfer hwn.
  • mynd ar drywydd datganoli toll teithwyr awyr.
  • archwilio ffurfiau newydd ac arloesol o ariannu.

Pwerau at ddiben

Bydd datganoli pellach yn gwella bywydau pobl Cymru, gan roi’r arfau cyllidol a chyfansoddiadol inni i symud ein cenedl yn ei blaen. Bydd mwy o reolaeth dros feysydd megis trafnidiaeth, cyfiawnder, plismona, adnoddau naturiol, ynni ac Ystad y Goron yn helpu Cymru i ddatblygu a gweithredu polisïau sy’n diwallu anghenion ac amgylchiadau lleol yn well.

Bydd sicrhau pwerau ychwanegol hefyd yn galluogi Cymru i fabwysiadu dull mwy integredig o fynd i’r afael â heriau sy’n cael effaith ar fywydau pobl a’u profiad o wasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, gall penderfyniadau ynghylch plismona, llysoedd, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau cymorth gael effaith ehangach, gan effeithio nid yn unig ar ddiogelwch cymunedol ond hefyd ar iechyd a llesiant, cyrhaeddiad addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth ac economaidd.

Dylai pob dinesydd gael llais yn y ddadl ar ddyfodol eu cenedl. Mae ein hymrwymiad canolog yn dibynnu ar sefydlu Comisiwn i fwrw ymlaen â’r ddadl hon, ac i wneud yn siŵr bod y pwerau gennym i ganiatáu i Gymru wneud yr holl benderfyniadau sy’n bwysig.

Byddwn yn:

  • sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru i ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan adeiladu ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Bydd y Comisiwn yn cefnogi sgwrs genedlaethol gynhwysol ar sail gwybodaeth, yn adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer trafod a gwneud penderfyniadau, ac yn rhoi cyngor ar flaenoriaethau datganoli a diwygio cyfansoddiadol ehangach.
  • gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.
  • mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn llwyr i Gymru gyda’r brys y mae hyn yn ei haeddu.
  • gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r pŵer dros ddŵr yn llawn yng Nghymru.
  • gweithio i sicrhau datganoli pwerau i’r Senedd i ddeddfu i sefydlu corff cynllunio a rheoleiddiwr economaidd newydd i Gymru, fel bod pob penderfyniad am ddŵr yn cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer Cymru.
  • blaenoriaethu sicrhau datganoli Ystad y Goron.
  • gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru. Byddwn yn dechrau drwy sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol.
  • mynd ar drywydd datganoli pwerau lles yn llawn.
  • mynd ar drywydd datganoli pwerau pellach ar reoleiddio a phrisio ynni.
  • mynd ar drywydd datganoli rheoleiddio porthladdoedd yn llawn.

Cryfhau Cymru drwy ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon

Mae diwylliant, ein diwydiannau creadigol, treftadaeth, chwaraeon a’r Gymraeg yn rhannau annatod o bwy ydym ni fel cenedl.

Rydym yn cydnabod eu pŵer unigryw i ddatgloi potensial economaidd Cymru, cynnal cymunedau bywiog a chydlynol, a hyrwyddo llesiant ein pobl.

Gyda gweledigaeth strategol newydd, y buddsoddiad cywir, ac arweinyddiaeth gref ar gyfer diwylliant a chwaraeon Cymru, byddwn yn cryfhau safle Cymru fel pwerdy diwylliannol, gyda gwreiddiau dwfn yn amrywiaeth ein hunaniaeth Gymreig unigryw.

Byddwn yn blaenoriaethu mynediad cyfartal i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, ac yn ysgogi canlyniadau cenedlaethol gan gynnwys gwella iechyd y cyhoedd, twf economaidd a chydlyniant cymunedol. Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd diwylliannol a chwaraeon i hyrwyddo defnydd bob dydd o’r Gymraeg.

Byddwn yn adeiladu sylfeini cadarn drwy sicrhau mwy o gyfranogiad, gwell cyfleusterau ar lawr gwlad, cryfhau sefydliadau cenedlaethol a chael mwy o effaith ryngwladol fel cenedl greadigol a hyderus. Byddwn yn cryfhau ein seilwaith diwylliannol a chwaraeon, ac yn cefnogi gweithlu medrus, gan adeiladu sector cynaliadwy ac amrywiol ar gyfer y dyfodol. 

Byddwn yn:

  • gweithio gyda’r sector, gan gynnwys ein diwydiannu creadigol, i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon wedi’i thargedu er mwyn creu Cymru iachach, gyfoethocach a mwy gwydn.
  • blaenoriaethu mynediad cyfartal at y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i bobl o bob oedran, cefndir a gallu, gan ystyried sut y gall ein polisïau mynediad gefnogi hyn.

Cymru yn y byd

Gyda threftadaeth gyfoethog, diwylliant ffyniannus a photensial enfawr na fanteisiwyd arno, credwn yng ngallu Cymru i fynnu ei lle yn y byd.

Mae ein hymrwymiad i Gynllun Hinsawdd a Natur yn dangos ein bod ni o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldebau byd-eang a’n hymrwymiad i adeiladu perthnasoedd rhyngwladol cryf gyda gwledydd sy’n rhannu ein gwerthoedd.

Bydd yr agwedd ryngwladol hon yn rhan o’n holl ymrwymiadau lle byddwn yn ceisio dysgu o arferion da ledled y byd. Un o’r prif gryfderau wrth fwrw ymlaen â hyn fydd y nifer mawr o Gymry sydd wedi’u gwasgaru ledled y byd.

Byddwn yn:

  • cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd a fydd yn cynnwys ein penderfyniad i fod yn gyson â safonau Ewropeaidd blaenllaw ym meysydd diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd a bwyd.
  • esblygu a datblygu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cydweithredu dwyochrog ag Iwerddon i gryfhau cysylltiadau diwylliannol a masnachol.
  • datblygu a gweithredu Strategaeth Ddiaspora gynhwysfawr er mwyn hyrwyddo Cymru fel gwlad i’n hentrepreneuriaid ar wasgar fuddsoddi ynddi, ac annog a chymell ymfudwyr diweddar i ddychwelyd.

Mae cynnal digwyddiadau rhyngwladol

Rhai a ddatblygwyd yng Nghymru a chyfleoedd i fod yn rhan o ddigwyddiadau byd-eang – yn ein galluogi ni i arddangos Cymru a’r hyn sydd gennym i’w gynnig.

Byddwn yn:

  • rhoi cymorth strategol a hirdymor i gyrff llywodraethu cenedlaethol i ddenu a chynnal digwyddiadau rhyngwladol yng Nghymru. 
  • creu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad digwyddiadau y Tour de France 2027 a thwrnamaint pêl-droed dynion Euro 2028 i Gymru.

Adeiladu Cymru well

Allwn ni ddim sefyll dros Gymru a chyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol oni bai ein bod ni’n wlad gadarn a hyderus. Byddwn yn cefnogi ein holl gymunedau i fod yn uchelgeisiol ac i greu fframwaith lle mae pob un o’n hasiantaethau cyhoeddus yn cydweithio tuag at amcanion cyffredin.

Er mwyn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym wedi ymrwymo fel llywodraeth i ddileu’r ffiniau rhwng gwahanol feysydd polisi, ffiniau sydd yn rhy aml yn y gorffennol wedi ein hatal rhag gweithio’n ddi-dor er budd Cymru.

Byddwn yn:

  • adeiladu gwasanaeth cyhoeddus effeithiol a chydlynol yng Nghymru sy’n agored, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl.
  • bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ysgol Lywodraethu Genedlaethol i Gymru.
  • adnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod nhw’n bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  • sefydlu dull gweithredu cenedlaethol i gydlynu’r gwaith o atal a dargyfeirio troseddau ar draws heddluoedd, GIG Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid yn y trydydd sector – gan rannu’r arferion gorau a mynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi troseddu.
  • cynnal cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng nghyd-destun trafodaethau ar ddatganoli plismona.
  • cyflwyno Bil Tribiwnlysoedd Cymru yn gynnar yn nhymor y Senedd er mwyn creu system dribiwnlysoedd gliriach, fwy cydlynol a mwy annibynnol – gyda gweithdrefnau modern, atebolrwydd cryfach, a ffocws mwy amlwg ar wella profiad defnyddwyr gwasanaethau.
  • adolygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau ei bod yn cyflawni newid mesuradwy.

Pennod 7: Cyflawni ein blaenoriaethau

Cyflwyniad

Y Gymraeg yw un o gryfderau mwyaf Cymru. Wedi’i gwreiddio yn ein hanes ac yn ganolog i’n dyfodol, mae’n cyfoethogi ein cymunedau, ein diwylliant a’n bywyd cyhoeddus.

Mae hon yn Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a phellgyrhaeddol sy’n gosod agenda glir i’r llywodraeth gyfan ac i’n partneriaid ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rydym yn gwybod nad yw mabwysiadu dulliau traddodiadol o lywodraethu yn mynd i gyflawni graddfa’r newid yr hoffem.

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r holl ddulliau posibl sydd gan y llywodraeth i gefnogi ein nod o wella bywydau pobl yng Nghymru.

Llywodraethu’n effeithiol

Rydym yn mabwysiadu dull newydd o lywodraethu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Nid yw bwriadau da a strategaethau yn ddigon i gyflawni canlyniadau ystyrlon. Mae angen camau gweithredu i gyd-fynd â nhw. Gan adeiladu ar ein dangosfyrddau digidol rhyngweithiol, byddwn yn parhau i ddatblygu cyfres o ganlyniadau a fydd yn mesur yr effaith yr ydym yn ei chael, gan helpu i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cyflawni newidiadau i bobl Cymru.

Rydym hefyd yn cydnabod bod llawer o’r heriau a wynebwn yn rhai ystyfnig sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Dim ond pan fydd yr holl Weinidogion yn gweithio gyda’i gilydd y gallwn fod yn hyderus y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau ac yn canfod datrysiadau i faterion cymhleth sydd wedi niweidio ein cymunedau yn rhy hir. Rhaid i’n gwaith gael ei ddatblygu a’i gyflawni ar draws y llywodraeth.

Bydd ein holl waith yn cael ei lywio gan yr ethos hwn a bydd sut y gall pob maes gwario gyfrannu at ein hamcanion ehangach yn ystyriaeth graidd. Fodd bynnag, mae rhai meysydd lle rydym yn cydnabod bod angen inni wneud rhagor er mwyn eu cydgysylltu. Byddwn felly yn mabwysiadu dull trawslywodraethol pwrpasol a strwythuredig mewn nifer o feysydd i wneud cynnydd cyflym ar gamau gweithredu allweddol.

Yr argyfwng hinsawdd a natur

Cydnabuwyd ers tro bod lleihau allyriadau carbon ac addasu i hinsawdd sy’n newid yn amcanion a fydd yn llywio gwaith pob adran, gan ei gwneud yn ofynnol inni newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno rhaglenni mewn sawl maes.

Byddwn yn cryfhau gwydnwch hinsawdd, yn mynd i’r afael â llygredd ac yn sicrhau bod gweithio tuag at ein huchelgeisiau hinsawdd a natur yn darparu cymunedau iachach, economïau gwledig ac arfordirol cryfach a rhagor o wydnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn cydnabod y rhyng-gydgysylltiad o ran gweithredu ym meysydd tai, iechyd ataliol, seilwaith ynni, bwyd a ffermio, ynghyd ag effaith hinsawdd sy’n newid a chost ddynol llifogydd, gwres a llygredd.

Byddwn yn:

  • sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cael eu blaenoriaethu a’u cydgysylltu’n effeithiol ar draws y llywodraeth, gan ymgorffori datgarboneiddio, cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd ar draws pob portffolio.
  • cymryd camau beiddgar er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio am gyfnod hirach, a sicrhau mai’r llygrwr sy’n talu wrth inni drosglwyddo i economi gylchol.
  • cymhwyso dull system gyfan, sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd er mwyn gwella ansawdd dŵr a chryfhau gwydnwch hinsawdd a natur yng Nghymru. Ein huchelgais yw bod pob corff dŵr yng Nghymru ar lwybr clir tuag at statws da. Gan weithio mewn partneriaeth ar draws sectorau, byddwn yn cyflymu’r gwaith o ddarparu datrysiadau seiliedig ar natur sy’n lleihau llygredd ac yn meithrin gwydnwch rhag pwysau amgylcheddol yn y dyfodol.
  • datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur trawslywodraethol i Gymru, gyda chefnogaeth Bwrdd Hinsawdd a Natur. Bydd y Cynllun yn cryfhau gwydnwch hinsawdd a natur, yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol, yn cefnogi pontio teg ac yn nodi camau gweithredu ymarferol tuag at lwybr i sero net erbyn 2040. Fel rhan o’r cynllun, byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol i gyflawni adferiad natur sylweddol erbyn 2050.
  • sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, swyddfa gref ac annibynnol a fydd yn dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am eu gwaith mewn perthynas â chyrraedd targedau amgylcheddol.

Cymraeg: iaith i bawb

Y Gymraeg yw un o gryfderau mwyaf Cymru. Wedi’i gwreiddio yn ein hanes ac yn ganolog i’n dyfodol, mae’n cyfoethogi ein cymunedau, ein diwylliant a’n bywyd cyhoeddus. Mae ein hymrwymiad i iaith ffyniannus yn sail i bopeth a wnawn, ac mae hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg yn gyfrifoldeb i bob un o’r Gweinidogion.

Rydym am i’r Gymraeg fod yn iaith sy’n perthyn i bob un ohonom, gyda chyfleoedd i bobl ei dysgu, ei defnyddio a byw eu bywydau drwyddi – ac mae pobl Cymru am weld hynny hefyd. Mae hyn yn ganolog i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau yng Nghymru, gyda gwasanaethau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd cefnogi iaith Gymraeg ffyniannus yn helpu i ysgogi ffyniant, grymuso cymunedau, meithrin ymdeimlad o berthyn a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn:

  • cyhoeddi a gweithredu strategaeth newydd ar  gyfer y Gymraeg gyda ffocws o’r newydd ar gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn a mwy erbyn 2050, dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, a sicrhau bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru.
  • gweithio i gryfhau gwydnwch y Gymraeg fel iaith gymunedol ac mewn gweithleoedd, gan weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gweithio tuag at ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol uwch a diogelu enwau lleoedd Cymraeg.
  • gweithio tuag at estyn Safonau’r Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DU ac i wasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, a sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd pob polisi cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, tai, cynllunio, trafnidiaeth, addysg, diwylliant a’r economi.

Atal afiechyd

Mae iechyd da yn rhywbeth sy’n anhepgor ar gyfer bywyd hapus, hir ac egnïol. Mae’n rhyddhau ein gallu i gyrraedd ein potensial ac i chwarae rhan weithredol yn ein cymunedau, ym myd addysg ac yn yr economi. Yn yr un modd, gall creu amgylchedd iachach a darparu gwasanaethau effeithiol – fel tai, addysg a diwylliant – lywio ymddygiadau a gwella ein hiechyd cyffredinol. Y cyfle mwyaf yw atal clefyd cyn iddo ddechrau neu ddatblygu a lleihau’r bylchau eang mewn canlyniadau iechyd rhwng cymunedau.

Rydym yn cymryd camau cydweithredol wedi’u targedu ar draws y llywodraeth i greu poblogaeth iachach a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd. Mae gwella iechyd poblogaeth yn sylfaenol i gyflawni’n huchelgeisiau o ran adnewyddu economaidd, rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, deilliannau dysgu, cydraddoldeb, addasu i’r hinsawdd, gwasanaethau cyhoeddus cadarn a gwydnwch cenedlaethol.

Byddwn yn hyrwyddo amgylchedd iachach sy’n cefnogi pobl i wneud dewisiadau iachach ac yn trawsnewid cyfleoedd bywyd i bobl o bob oed. Mae hyn yn cynnwys cefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol i bawb.

Gan fanteisio ar yr holl ddulliau sydd gan y llywodraeth, byddwn yn gweithio tuag at gynyddu’r disgwyliad oes iach ledled Cymru drwy weithredu ar lefelau cenedlaethol a lleol.

Drwy ein Strategaeth Fwyd Genedlaethol, byddwn yn datblygu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy sy’n cefnogi cynhyrchwyr Cymru, yn cryfhau diogeledd bwyd ac yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon a fforddiadwy lle bynnag y maent yn byw.

Mae cael mynediad gwell at ein diwylliant a’n treftadaeth, ac at gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn hanfodol, a byddwn yn adlewyrchu hynny yn ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon a’n cynllun Hinsawdd a Natur.

Mae ein hymrwymiadau ar gyfer y system drafnidiaeth yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol i sicrhau bod ymarfer corff yn ddewis dyddiol hawdd. Bydd yr holl gamau hyn yn gwella iechyd y genedl, gan leihau anweithgarwch economaidd, galluogi mwy o bobl i weithio a chyfrannu at ein cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant.

Byddwn yn:

  • gwella iechyd a llesiant y cyhoedd, ar lefel poblogaeth, drwy ddatblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr i Gymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd heddiw ac yn y dyfodol.
  • ymgorffori atal afiechyd yn yr holl waith datblygu polisi ar draws y llywodraeth gan sicrhau bod camau gweithredu’r llywodraeth ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd a llesiant yn cydweddu’n strategol.
  • manteisio ar arbenigedd a chynlluniau i leihau effaith clefydau trosglwyddadwy gan ganolbwyntio ar dargedau dileu erbyn 2030 ar gyfer twbercwlosis a feirysau a gludir yn y gwaed gan gynnwys HIV.
  • gwneud adnewyddu stoc dai Cymru yn genhadaeth genedlaethol, ynghyd â diwygiadau i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a chynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael. Mae tai diogel a digonol yn sylfaen hanfodol i iechyd.
  • mynd i’r afael â digartrefedd drwy ddefnyddio dull Tai yn Gyntaf sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod ein deddfwriaeth digartrefedd newydd yn cael ei gweithredu’n effeithiol a’i hadolygu’n barhaus. Bydd ein Strategaeth Tai ac Adfywio yn seiliedig ar yr uchelgais y dylai pawb gael cartref saff a diogel.
  • buddsoddi yn rôl ataliol diwylliant, treftadaeth a chwaraeon i hybu iechyd da i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.
  • cyflwyno rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion, gan roi sylfaen i bob disgybl yng Nghymru ar gyfer bywyd egnïol ac iach, magu eu hyder, a chadw plant yn ddiogel o amgylch dŵr.

Mae’r dull newydd hwn o fyw’n iach yn rhoi cymaint o bwyslais ar atal salwch y mae modd ei osgoi ag y mae’n ei roi ar drin unrhyw achosion o salwch. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod yr arfau ar gyfer byw’n iach o fewn cyrraedd pobl, a darparu gwasanaethau mewn ffordd sy’n helpu i wneud bywydau pobl yn iachach.

Er ein bod yn amlinellu nifer o gamau y byddwn yn eu cymryd, rydym yn gwybod y bydd angen inni wneud rhagor i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae hon yn uchelgais sy’n ymestyn ar draws cyfrifoldebau’r Gweinidogion, ac yn faes lle mae angen inni weithio mewn ffordd wahanol i ddyfeisio rhaglenni a all wneud gwahaniaeth. I gefnogi gwaith mewn perthynas â hyn a’n helpu i weithio mewn ffordd wahanol, byddwn yn cynnull gweithgor gweinidogol trawslywodraethol. Bydd hyn yn sicrhau bod camau gweithredu ym meysydd Tai, Diwylliant a Chwaraeon, Trafnidiaeth ac Addysg i gyd yn cyfrannu at atal afiechyd a dileu penderfynyddion cymdeithasol iechyd gwael a disgwyliad oes iach byrrach. Byddwn yn adrodd ar y gwaith hwnnw i’r Senedd.

Cynhyrchiant

Rydym wedi nodi mai cau’r bwlch cynhyrchiant rhyngom a’r DU fydd y peth a fydd yn datgloi potensial Cymru ac yn ysgogi twf economaidd. Mae hon yn agenda sy’n ymwneud â chefnogi busnesau’n uniongyrchol, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod y seilwaith cywir o’u cwmpas i’w helpu i ddatblygu. Rydym yn gwybod bod hyn yn ymwneud â’r cysylltiadau trafnidiaeth, y system gynllunio, y sgiliau sydd gan bobl, yn ogystal â’r ffordd y gall ystod o bolisïau’r llywodraeth ei gwneud hi’n haws, neu’n anoddach, i fusnesau weithredu.

Bydd sefydlu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd yn allweddol i’n cenhadaeth cynhyrchiant, ond rydym hefyd am sicrhau bod pob adran yn chwarae ei rhan o ran creu’r amodau ar gyfer llwyddiant. Mae ein cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant yn rym ysgogol ar draws y llywodraeth, gan gydnabod y bydd penderfyniadau a wneir ar draws pob adran yn cael effaith ar ein cynhyrchiant lleol a chenedlaethol. Wrth inni ddatblygu polisi a chyflawni camau gweithredu yn y Rhaglen hon, byddwn yn parhau i ystyried sut y gallant gefnogi’r genhadaeth hon.

Deddfwriaeth

Mae ein rhaglen o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni’r agenda hon. Er nad deddfwriaeth yw’r ffordd orau bob amser o gyflawni ein hamcanion, mae rhai meysydd lle bydd rhoi sail statudol i rywbeth yn ein helpu i gyflawni a gwreiddio’r newidiadau yr ydym wedi ymrwymo i’w gwneud. Byddwn yn deddfu pan fo angen er mwyn gwella canlyniadau i bobl Cymru. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried datrysiadau anneddfwriaethol drwy bolisïau a threfniadau gwaith partneriaeth lle gall hyn fod yn effeithiol.

Drwy gydol tymor y llywodraeth hon, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni ein hagenda. Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi cam cyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hon ar gyfer y Seithfed Senedd, sy’n cynnwys tai, perchnogaeth gymunedol a phrawfesur gwledig, camau cyntaf pwysig wrth gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu hon.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i’r Senedd am ein cynigion deddfwriaethol, ac am gamau dilynol ein rhaglen ddeddfwriaethol, wrth inni drafod manylion cyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen hon. Byddai’n well gennym bob amser i’r Senedd basio deddfwriaeth sy’n llywio bywydau pobl yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd achlysuron pan mai deddfwriaeth y DU yw’r dull mwyaf ymarferol ac effeithiol, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Mae hyn adlewyrchu’r egwyddor gyfansoddiadol mai dim ond gyda chytundeb y Senedd y mae Senedd y DU yn deddfu yn y meysydd hyn.

Llywodraethu’n gyfrifol

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hon yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd i ysgogi newid ar draws yr holl gymunedau yng Nghymru.

Mae llywodraethu Cymru yn ymwneud nid yn unig ag agenda newid, ond hefyd â sicrhau bod sefydlogrwydd wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Rydym yn glir ynghylch sut y gallwn wneud y rhain yn well, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau effeithiol ac effeithlon y mae pobl yn dibynnu arnynt yn eu bywydau bob dydd.

Mae llywodraethu hefyd yn ymwneud â chadw Cymru yn ddiogel, ac mae hwn yn gyfrifoldeb yr ydym yn ei gymryd o ddifrif. Mae hynny’n golygu sicrhau bod gennym wasanaethau y gall pobl ddibynnu arnynt mewn argyfwng, fel tanau gwyllt. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn barod ar gyfer pob posibiliad ac yn ymgymryd â’r trefniadau angenrheidiol o ran gwydnwch a pharatoi ar gyfer argyfyngau, fel y gallwn weithio gyda’r heddlu, y gwasanaethau tân ac achub a phartneriaid eraill i weithredu mewn argyfwng. Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o’n hymateb i ddigwyddiadau – yn bwysicaf oll, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn dysgu’r gwersi yn sgil Covid.

Wrth i’n hinsawdd newid, rydym yn gwybod y bydd digwyddiadau tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin ac y bydd creu cymunedau sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn arbennig yn dod yn fater mwy dybryd. Er na allwn atal pob achos o lifogydd, bydd angen inni gefnogi cymunedau a busnesau i baratoi i liniaru’r effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd meddwl a achosir gan lifogydd pan fyddant yn digwydd.

Byddwn yn:

  • gweithio gyda Fforwm Llifogydd Cymru sydd newydd ei greu i ddod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau brys a sefydliadau cymunedol ynghyd i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae llawer o sefydliadau a phobl ledled Cymru sy’n rhannu ein hamcanion ac sy’n gallu ein helpu i gyflawni ein hagenda. Mae cyrff hyd braich ac asiantaethau’r llywodraeth yn asiantau cyflawni pwysig, a byddwn yn rhoi mandad clir iddynt ac yn cydweithio â nhw i gyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â’n hysgolion, ein colegau, ein prifysgolion, ein gwasanaethau iechyd a’r sector cyhoeddus ehangach. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau effeithlonrwydd, gwerth da am arian, rhannu arferion da a gwell cynhyrchiant ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae llywodraeth leol yn bartner allweddol yn llawer o’n hymdrechion – sicrhau addysg effeithiol, darparu gofal cymdeithasol a’n helpu i ehangu gofal plant a ariennir. Byddwn yn meithrin partneriaethau effeithiol fel ein bod yn cyflawni ein hamcanion cyffredin gyda’n gilydd.

Byddwn yn:

  • adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan sicrhau eu bod yn ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn cefnogi cydweithredu rhanbarthol effeithiol.
  • adolygu’r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol i adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyflwyno cyllid gwaelodol i sicrhau nad oes effaith anghymesur ar unrhyw awdurdod lleol.

Caiff gwaith partneriaeth yng Nghymru ei hwyluso gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n rhoi fframwaith i gyrff cyhoeddus i’w helpu i ysgogi’r camau gweithredu sy’n cyfrannu at y nodau llesiant.

Rydym wedi dod â’n Rhaglen Lywodraethu a’n hamcanion llesiant ynghyd o dan un fframwaith gweithredu. 
Mae’r blaenoriaethau a nodir yn y ddogfen hon hefyd yn amcanion llesiant inni. Maent yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y cawsom ein hethol arnynt, y canlyniadau hirdymor yr ydym am eu cyflawni i Gymru, a’n hymrwymiad i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu hon yn cynrychioli’r camau rhesymol y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn. Gyda’i gilydd, maent yn darparu llinell glir rhwng ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer Cymru a’r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. Bydd y gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau yn cael ei ategu gan broses asesu effaith. Mae’r mecanwaith hwn, sy’n gofyn am gyfranogiad ystyrlon, yn rhan hanfodol o lunio achos cynhwysfawr a chytbwys dros opsiynau polisi neu gynigion deddfwriaethol, ac mae’n cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys cydraddoldeb, y Gymraeg, hawliau plant ac effaith amgylcheddol.

Bwriedir i’r Rhaglen hon gwmpasu tymor llawn y Llywodraeth. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal adolygiad canol tymor. Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i’r Llywodraeth ymateb mewn ffordd fwriadol ac ystyriol i newidiadau polisi annisgwyl neu siociau economaidd neu geowleidyddol.

Mae ein Datganiad Llesiant cysylltiedig yn egluro sut y mae’r amcanion hyn yn cyfrannu at y saith nod llesiant, sut y maent wedi’u datblygu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i’w cyflawni, a sut y byddwn yn monitro cynnydd ac yn adrodd arno drwy gydol tymor y Senedd hon.

Ein hamcanion llesiant yw:

  1. Datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a thorri rhestrau aros
  2. Helpu aelwydydd â chostau byw
  3. Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
  4. Codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
  5. Mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau’r dyfodol gorau i bob plentyn yng Nghymru
  6. Sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
  7. Gwell llywodraeth – cyflawni ein blaenoriaethau