Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen newydd i helpu cwmnïau o Gymru nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd yn cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Rhaglen Allforwyr Newydd, sy'n un o'r mentrau cymorth newydd sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio, yn cefnogi cwmnïau nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen neu sydd wedi allforio'n ysbeidiol, i werthu eu nwyddau a'u gwasanaethau ledled y byd.

Mae deg cwmni o wahanol sectorau ledled Cymru yn cael eu recriwtio i'r rhaglen, a fydd yn para tua 10 mis. Byddant yn cael cymorth dwys i ddatblygu eu capasiti a'u gallu i allforio, gan eu helpu i ddod yn allforwyr rheolaidd.

Bydd y cymorth yn canolbwyntio ar allforio i Iwerddon i ddechrau, a fydd yn gweithredu fel marchnad gychwynnol i'r cwmnïau sy'n cymryd rhan. Bydd yn cynnwys ymweliad â'r farchnad, lle bydd cwmnïau'n cwrdd â chysylltiadau busnes posibl, gyda chymorth Swyddfa Dulyn Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen yn rhedeg yn flynyddol.

Mae'r rhaglen yn rhan greiddiol o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr economi, sy'n gosod ymrwymiadau Gweinidogion i flaenoriaethu allforion a masnach, gan gefnogi allforwyr Cymru i ddod o hyd i farchnadoedd newydd yn fyd-eang.

Mae hefyd yn rhan allweddol o strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, a atgyfnerthodd uchelgeisiau Gweinidogion i godi proffil rhyngwladol Cymru; tyfu economi Cymru, gan gynnwys cynyddu allforion; a chreu enw i Gymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Yn 2020, allforiodd cwmnïau Cymru werth £13.4 biliwn o nwyddau i farchnadoedd ledled y byd. Yr Almaen oedd y farchnad allforio fwyaf, gan gyfrif am £2.2 biliwn (16.0%) o allforion. Ffrainc oedd yr ail farchnad allforio fwyaf, gan gyfrif am £1.8 biliwn (13.7%), ac yna UDA, gydag £ £1.8 biliwn (13.4%) a Gweriniaeth Iwerddon gydag £1.2 biliwn (8.8%).

Wrth lansio'r rhaglen newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae gan Gymru hanes hir a balch fel cenedl fasnachu sy'n edrych tuag allan. O'r glo a helpodd i bweru'r chwyldro diwydiannol yn y 18fed a'r 19eg ganrif, i sglodion cyfrifiadurol arloesol ac arbenigol sy'n pweru ein ffonau clyfar a dyfeisiau electronig eraill heddiw, mae'r cynhyrchion a allforiwn o Gymru yn cael eu defnyddio gan bobl ledled y byd.

"Rydym am gefnogi busnesau Cymru i ddod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a chreu swyddi gwyrdd newydd o fewn diwydiannau gwyrdd cynaliadwy yfory fel rhan o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol am y pum mlynedd nesaf.

"Ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio yw'r rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio a roddwyd ar waith erioed yng Nghymru. Fel rhan o'r cynllun hwnnw, mae'r Rhaglen Allforio Newydd rwy'n ei lansio heddiw wedi'i chynllunio i helpu cwmnïau nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen, neu sydd wedi gwneud hynny'n dameidiog, i ddod o hyd i'r marchnadoedd allforio newydd hanfodol hynny fel y gallant werthu hyd yn oed mwy o gynhyrchion a gwasanaethau o'r radd flaenaf Cymru i fwy o bobl ledled y byd.

"Mae hyn yn rhan o'n huchelgais i adeiladu Cymru sydd ag economi ffyniannus, deg a gwyrdd."

Mae cwmni Object Matrix sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn darparu atebion storio hybrid ar gwmwl ar gyfer sefydliadau ym maes y cyfryngau yn bennaf. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2003 a gwnaeth ganolbwyntio i ddechrau ar fasnach yn y DU ond wrth i waith creu a dosbarthu cynnwys fideo ehangu penderfynodd y cwmni ehangu ei ddarpariaeth. Arweiniodd hyn at ragor o waith mewn marchnadoedd tramor. Mae Object Matrix bellach yn allforio i dros 30 o farchnadoedd, ac mae’r agwedd hon ar eu gwaith yn cynrychioli hyd at 55% o’u busnes.

Dywedodd Nick Pearce-Tomenius, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr gwerthu a marchnata Object Matrix:

“Mae allforio wedi bod yn allweddol wrth i’r cwmni fynd o nerth i nerth ac ehangu ei wasanaethau ar draws y byd. Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi ein helpu i lwyddo wrth allforio.

“Cyn i ni ddechrau allforio ein gwasanaethau a’n cynnyrch roedd yn rhaid i ni ddechrau yn lleol cyn i ni allu ystyried gweithredu ar lefel fwy byd-eang. Unwaith y gwnaethom brofi llwyddiant yn lleol roeddem yn gallu dechrau anelu’n uwch. Credaf yn gryf os gallwch werthu eich cynnyrch yng Nghymru gallwch ei werthu yn unrhyw le.”

Mae’r Atlantic Service Company sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru wedi bod yn gweithgynhyrchu llafnau o’r radd flaenaf ar gyfer cylchlifiau i dorri cig, pysgod a bara ers 1901.

Mae’r cwmni’n allforio i farchnadoedd ar draws Ewrop, Affrica, De a Chanol America, Asia, Isgyfandir India a’r Dwyrain Canol. Mae allforion yn agwedd allweddol ar dwf busnes Atlantic Service ac mae’r marchnadoedd amrywiol iawn wedi helpu i ledaenu risg amrywiadau o fewn marchnadoedd.

Dywedodd Elena Harries, Rheolwr Gwerthu Rhyngwladol Atlantic Services Company:

“Mae allforio’n gwbl allweddol i dwf ein busnes ac mae wedi ein helpu i fod yn fwy cadarn wrth i newidiadau ddigwydd o fewn marchnadoedd. Mae’r cymorth allforio gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi i fanteisio ar farchnadoedd newydd yn Ne-ddwyrain Asia, India, Affrica, Canol America ac America Ladin. Mae’r rhwydwaith o gynghorwyr masnach wedi cynnig cyngor a chymorth amhrisiadwy ynghylch ymuno â marchnadoedd newydd ac wedi ein galluogi i ddod o hyd i bartneriaid busnes newydd.

“Ein nod yw adeiladu ar y twf yma ac ehangu ein gwaith allforio mewn marchnadoedd newydd. Mae’n galonogol gwybod y gallwn elwa ar gymorth gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i gyflawni hyn.”