Rhaglen Plant Iach Cymru (cysylltiadau gyda phlant): Hydref i Ragfyr 2024
Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd cyffredinol ar gyfer pob teulu gyda phlant oed 0 i 7 ar gyfer Hydref i Ragfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Gyda’i gilydd, derbyniodd 85.1% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter Hydref i Rhagfyr 2024, sef cynnydd o 4.3% ar y chwarter blaenorol gan barhau â thuedd i fyny yn y tymor hir a’r chwarter uchaf ar gofnod.
Ffigur 1: Cyfradd cwblhau cyswllt chwarterol Rhaglen Plant Iach Cymru, Hydref 2016 i Ragfyr 2024
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.
Ffynhonnell: Y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Derbyniodd canran uwch o blant cymwys gysylltiadau nag yn y chwarter blaenorol ar gyfer pob un o'r 9 pwynt cyswllt, ac roedd y cysylltiadau ar ôl 8, 12 a 16 wythnos, 6, 15 a 27 mis a 3.5 mlynedd yr uchaf sydd wedi eu cofnodi.
Cynyddodd y pwynt cyswllt 3.5 mlynedd ymhellach y chwarter hwn i 78.0%, 3.0 pwynt canran yn uwch na’r chwarter blaenorol, cynnydd o 15.7 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd, a 42.9 pwynt canran yn uwch na’r chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Hydref i fis Rhagfyr 2016).
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099