Sut rydym yn newid rôl porthladdoedd yn yr economi, wrth gefnogi gwaith teg a'r newid i sero net.
Mae’r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnig cyfle i harneisio potensial economaidd toreithiog Cymru.
Buom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddylunio model porthladdoedd rhydd, sy'n cyflawni tri prif amcan:
- Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel
- Sefydlu'r Porthladd Rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi
- Meithrin amgylchedd arloesol
Yn gyfnewid am hyn, bydd busnesau'n elwa o fod yn rhan o barth arbennig. Mae hyn yn cynnwys:
- gweithdrefnau tollau symlach
- rhyddhad ar dollau tramor
- buddion treth
- hyblygrwydd datblygu
Mae'r rhaglen yn cynnwys ein polisïau ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gweithwyr:
- yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli
- yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gweithio diogel, iach, a chynhwysol
- fod eu hawliau'n cael eu parchu
Mae'n rhaid i borthladd rhydd yng Nghymru weithredu o fewn:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
- ymrwymiadau sero net Llywodraeth Cymru
Rhaglen Freeport yng Nghymru prosbectws cynnig
Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU.
Gweler y cynllun gan GOV.UK: Rhaglen Freeport yng Nghymru: prosbectws cynnig
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Porthladdrhydd@llyw.cymru