Neidio i'r prif gynnwy

Mae adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II yng nghanol tref Aberteifi wedi cael ei adfer yn llwyr, ac mae'r cyfleusterau wedi cael eu hatgyweirio a'u diweddaru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Neuadd y Farchnad yn Aberteifi, sydd newydd gael ei hadnewyddu, yn cynnig cynaliadwyedd i'r masnachwyr yn yr hirdymor, yn cynnig profiadau manwerthu a bwyta unigryw, ac yn rhoi hwb i'r economi leol.

Mae'r prosiect adfywio strategol wedi cael cymorth drwy'r grant Creu Lleoedd o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi a'r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol.

Yn ddiweddar, cafodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, y pleser o ymweld â'r farchnad lle dywedodd:

Drwy hoelio sylw ar gyfleusterau cymunedol, ar wella profiadau ymwelwyr, gwneud lleoedd yn fwy cofiadwy, a chyfrannu at iechyd a lles, mae Neuadd Farchnad Aberteifi yn ymgorffori'r hyn rydym ni'n ceisio'i gyflawni yng nghanol ein trefi ym mhob cwr o Gymru.

Dw i'n ddiolchgar am y cyfle i weld yn llygad y ffynnon sut mae'n grant Creu Lleoedd dan y rhaglen Trawsnewid Trefi wedi cael ei ddefnyddio i helpu i weddnewid neuadd y farchnad, a dw i'n edrych 'mlaen at gael ei hagor ym mis Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies:

Mae hwn yn un o'r prif brosiectau yn Aberteifi sydd wedi bod yn elwa o gyllid y rhaglen Trawsnewid Trefi a buddsoddiad cyfalaf gan Gyngor Sir Ceredigion'.

Gall adeiladau treftadaeth fod yn eithaf costus i'w hadnewyddu, a heb y cymorth hwn, fydden ni ddim wedi gallu sicrhau bod y dref yn cael defnyddio'r ganolfan hon unwaith eto.

Mae'r farchnad yn berl go iawn a bydd yn denu busnesau newydd ac yn annog y gymuned fusnes sydd gennym yn Aberteifi eisoes i ddod 'nôl yma.”