Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen ymarferwyr Dyfarniad Corfforaethol gyntaf erioed y sector cyhoeddus yng Nghymru bellach wedi dod i ben, gyda chyfraddau pasio rhagorol ar draws y ddwy garfan ar gyfer eu haseiniadau terfynol (ar gyfer y rhai sydd wedi cyflwyno).

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llongyfarchiadau mawr i ddosbarth 2021!

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn ac mae pandemig COVID-19 wedi newid sut rydym yn dysgu'n ddramatig. Mae symud o sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth i amgylchedd rhithwir wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydym wedi cael llawer o adborth cadarnhaol ar y dull dysgu newydd hwn. Dros y 12 mis diwethaf, mae'r myfyrwyr i gyd wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad aruthrol i gwblhau eu hastudiaethau a dylent deimlo'n hynod falch o'r cyflawniad hwn.

Carl Thomas, tiwtor arweiniol CIPS, Dyfarniad Corfforaethol:

"Fel y corff proffesiynol byd-eang ar gyfer y proffesiwn caffael a chyflenwi, roedd CIPS yn falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar eu Rhaglen Dyfarniad Corfforaethol diweddar. Drwy roi cyfle i ddysgwyr astudio'r Dyfarniad Corfforaethol, nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu hymrwymiad i sbarduno rhagoriaeth caffael a sicrhau gwerth, maent hefyd wedi dangos eu hymrwymiad i uwchsgilio gweithwyr caffael proffesiynol ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Roeddwn wrth fy modd yn arwain y rhaglen hon ac i allu datblygu cynnwys a oedd yn berthnasol yng nghyd-destun sector cyhoeddus Cymru. Mae'r myfyrwyr yn glod i'w sefydliadau, ac mae dyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru yn edrych yn ddisglair iawn. Da iawn i bob un, a diolch am eich holl waith caled.”