Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Pontio, sef rhaglen sy’n hyfforddi athrawon cynradd i fod yn athrawon uwchradd, yn parhau am y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cynllun Pontio yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon cynradd cymwys sy’n gallu siarad Cymraeg, fel y gallan nhw ddod yn athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae 20 lle ar gael o fis Medi ymlaen fel rhan o bedwaredd flwyddyn y rhaglen. Mae wedi helpu athrawon i ddatblygu eu gyrfaoedd a dod o hyd i swyddi parhaol mewn ysgolion uwchradd. Gall athrawon cynradd cymwys wneud cais ar wefan Addysgwyr Cymru.

Mae’r rhaglen yn helpu i gynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd Ffion yn athrawes gynradd ac fe welodd y Cynllun Pontio yn gyfle perffaith i gymryd y cam nesaf yn ei gyrfa. Mae bellach yn addysgu Cerddoriaeth a Chymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Wrth siarad am ei phrofiad ar y rhaglen, dywedodd Ffion:

Mewn ysgol gynradd rydych chi gydag un grŵp blwyddyn ar y tro, a hynny am y flwyddyn gyfan. Fel athrawes uwchradd, mae gennym chwe gwers y dydd, felly rwy’n gweld chwe grŵp gwahanol o unigolion ac mae hynny wedi bod yn hyfryd iawn. Hefyd, rydych chi’n gallu arbenigo mewn pwnc, mae Cymraeg a Cherddoriaeth yn feysydd rwy’n eu mwynhau yn arw.

Mae’r Gymraeg yn ffactor mor enfawr. Gyda’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig fel cenedl bod gennym ni’r un nod. Yn enwedig mewn ysgol Gymraeg lle nad yw mwyafrif y dysgwyr, efallai, yn dod o gartref Cymraeg, mae’n hanfodol ein bod ni, athrawon, yn paratoi’r ffordd ac yn eu hysbrydoli nhw.

Byddwn i’n argymell y Cynllun Pontio yn fawr, oherwydd, er ei fod yn anodd, mae’n werth yr ymdrech. Gyda’r mentoriaid a’r gefnogaeth gywir, mae unrhyw beth yn bosib.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae’r Cynllun Pontio yn gyfle gwerthfawr i unrhyw un sy’n awyddus i symud o addysgu cynradd i addysgu uwchradd. Un o’n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.