Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst 2023 i Hydref 2023.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau newydd ar gyfer Awst 2023 i Hydref 2023 (Ch1 o flwyddyn academaidd 2023/24). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

Dechreuodd 8,145 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2023/24, o gymharu â 7,265 yn Ch1 2022/23.

Yn Ch1 2023/24, roedd cynnydd yn y niferoedd a ddechreuodd Brentisiaeth Sylfaen (lefel 2), Prentisiaeth Lefel 3, a Phrentisiaeth Uwch (lefel 4+), o'u cymharu â Ch1 2022/23. 

Gwelwyd cynnydd o 10.2% mewn rhaglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dechreuwyd 2,660 o raglenni dysgu o gymharu â 2,410 yn Ch1 2022/23.

Gwelwyd cynnydd o 13.4% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 4,245 o raglenni yn cychwyn yn Ch1 2023/24 o gymharu â 3,745 yn Ch1 2022/23. 

Gwelwyd cynnydd o 11.8% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch1 2022/23, gyda 1,240 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 1,110 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch1 2023/24, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos cynnydd o 6.4% o gymharu â Ch1 2022/23. Dechreuwyd 2,390 o raglenni yn Ch1 2023/24 o gymharu â 2,250 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 29.4% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 30.9% yn Ch1 2022/23. 

Yn Ch1 2023/24, roedd tua 45.9% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 47.6% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol. 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 7,645 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch4 2023/24. Gwelwyd cyfanswm o 50,930 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021. Mae'r mesur hwn bellach yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Blanka Ignacz

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.