Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst i Hydref 2020.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Awst-Hydref 2020 (C1). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a bydd y ffigurau terfynol gan gynnwys data ar gyfer chwarter (Ch) 4 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe'u cyfrifir gan ddefnyddio data terfynol Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach hefyd yn derfynol.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Prif bwyntiau o'r data diweddaraf

Dechreuwyd ar 5,835 o raglenni dysgu prentisiaethau yn Ch1 2020/21 o gymharu â 8,615 yn Ch1 2019/20, gostyngiad o 32%. Mae'r gostyngiad hwn yn debygol o gael ei lywio’n rhannol o leiaf oherwydd y tarfu ar ddysgu a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws, fel inni sôn uchod.

Yn Ch1 2020/21, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 41% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 28% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch1 2020/21, dysgwyr benywaidd oedd i gyfrif am tua 55% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 50% yn Ch1 yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod tymor 2016-2021 y Senedd. Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 5,470 o brentisiaethau yn Ch1 2020/21 a 103,740 ers cyflwyno’r targed, sy’n cadarnhau bod y targed wedi’i gyrraedd yn ystod y chwarter hwn.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.