Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst i Hydref 2021.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Awst i Hydref 2021 (Ch1). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Cânt eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach yn derfynol hefyd.

Ar 1 Awst 2021, rhoddwyd trefniadau newydd ar waith o ran contractau dysgu seiliedig ar waith. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid i ddarparwyr newydd, a chrëwyd cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Fel rheol, caiff cofnodion newydd ar gyfer rhaglenni, sy’n cael eu creu yn sgil trosglwyddo dysgwyr, eu cynnwys yn yr ystadegau ar niferoedd sy’n dechrau prentisiaethau, ac eithrio’r mesur targed. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn chwarter 1 2021/22 pe baem wedi’u cynnwys.

Nodwyd mân-wall yn ffigurau’r mesur targed ar gyfer 2020/21. Mae hyn wedi’i gywiro, sydd wedi golygu gwneud rhai newidiadau bach. Mae’r ffigur terfynol a gofnodwyd yn erbyn y targed blaenorol o 100,000 wedi cynyddu 5 ac mae’r nifer a ddechreuodd yn chwarter 4 2020/21 wedi cynyddu 85.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuodd 6,810 o unigolion ar raglenni prentisiaeth yn ystod Ch1 2021/22, o gymharu â 5,870 yn Ch1 2020/21. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod yn llawer is na’r lefelau cyn y pandemig, gan fod 8,615 wedi dechrau yn Ch1 2019/20.
  • Yn Ch1 2021/22, bu cynnydd yn nifer yr unigolion a ddechreuodd brentisiaethau Lefel 2 a Lefel 3, ond gwelwyd gostyngiad ar Lefel 4+, o gymharu â Ch1 2020/21. Gwelwyd cynnydd o 55% yn nifer yr unigolion a ddechreuodd ar raglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dechreuodd 3,410 o unigolion ar raglenni dysgu o gymharu â 2,200 yn ystod Ch1 2020/21.
  • Gwelodd prentisiaethau (Lefel 3) gynnydd o 8% gyda 2,600 o raglenni yn cychwyn yn Ch1 2021/22 o gymharu â 2,405 yn Ch1 2020/21.
  • Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o 37% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch1 2020/21, gydag 800 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 1,265 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch1 2021/22, Adeiladu oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. Roedd 92% yn fwy wedi dechrau’r rhaglen o gymharu â Ch1 2020/21. Dechreuwyd 1,910 o raglenni yn 2021/22 o gymharu â 995 y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn uwch hefyd na’r un cyfnod yn 2019/20 pan ddechreuodd 1,490 ar raglenni. Mewn Adeiladu yr oedd 28% o’r holl raglenni prentisiaeth a ddechreuwyd, o gymharu ag 17% yn Ch1 2020/21. Hwn yw’r chwarter cyntaf pan nad Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector mwyaf poblogaidd.
  • Yn Ch1 2021/22, roedd tua 61% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddynion, o gymharu â 45% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol. Fel rheol, mae mwy o fenywod yn dechrau prentisiaethau. Y rheswm dros y newid yn y cydbwysedd y chwarter hwn yw’r nifer cymharol fawr o ddechreuwyr ym maes Adeiladu a Pheirianneg o gymharu â’r rhan fwyaf o sectorau eraill.
  • Ar ôl cyrraedd y targed ar gyfer tymor y Senedd flaenorol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 6,440 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch1 2021/22. Gwelwyd cyfanswm o 10,385 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021.
  • Cyfanswm nifer y bobl a ddechreuodd ar raglenni yn erbyn y mesur targed blaenorol oedd 112,595 dros y cyfnod rhwng Ch4 2015/16 a Ch3 2020/21.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.