Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.

Data dros dro sydd ar gyfer Ch1, Ch2 a Ch3 2017/18. Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol. Bydd ffigurau dros dro yn cael eu cynhyrchu yn chwarterol a’r data terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Prif bwyntiau

  • Dechreuwyd 6,875 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2017/18 o’i gymharu â 5,590 yn Ch3 2016/17, sef cynnydd o 23%.
  • Yn Ch3 2017/18, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector cyffredinol mwyaf poblogaidd, sef 44% o’r holl raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd, o’i gymharu â 45% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch3 2017/18, dechreuwyd 67% a 33% o’r rhaglenni dysgu prentisiaeth gan fenywod a gwrywod, yn y drefn honno, o’i gymharu â 69% a 31% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.