Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Chwefror i Ebrill 2023.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Chwefror 2023-Ebrill 2023 (Ch3 o flwyddyn academaidd 2022/23). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuodd 5,320 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2022/23, o gymharu â 4,420 yn Ch3 2021/22.
  • Yn Ch3 2022/23, gwelwyd cynnydd yn y rhaglenni prentisiaeth Lefel 2, Lefel 3, a Lefel 4+ a ddechreuwyd, o gymharu â Ch3 2021/22. Gwelwyd cynnydd o 9% mewn rhaglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dechreuwyd 2,225 o raglenni dysgu o gymharu â 2,035 yn Ch3 2021/22.
  • Gwelwyd cynnydd o 29% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 1,940 o raglenni yn cychwyn yn Ch3 2022/23 o gymharu â 1,500 yn Ch3 2021/22. Achoswyd y cynnydd hwn yn rhannol gan yr adolygiad o gyrsiau adeiladu.
  • Gwelwyd cynnydd o 31% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch3 2021/22, gyda 1,155 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 880 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch3 2022/23, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos cynnydd o 38% o gymharu â Ch3 2021/22. Dechreuwyd 2,960 o raglenni yn Ch3 2022/23 o gymharu â 2,125 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 56% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 49% yn Ch3 2021/22.
  • Yn Ch3 2022/23, roedd tua 67% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 68% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.
  • Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 4,860 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch3 2022/23. Gwelwyd cyfanswm o 38,230 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021. Mae'r mesur hwn bellach yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Blanka Ignacz

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.