Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Mai i Gorffennaf 2023.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau newydd ar gyfer Mai 2023 i Gorffennaf 2023 (Ch4 o flwyddyn academaidd 2022/23). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. 

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuodd 5,715 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch4 2022/23, o gymharu â 3,840 yn Ch4 2021/22.
  • Yn Ch4 2022/23, roedd cynnydd yn y niferoedd a ddechreuodd Brentisiaeth Sylfaen (lefel 2), Prentisiaeth Lefel 3, a Phrentisiaeth Uwch (lefel 4+) , o'u cymharu â Ch4 2021/22.. Gwelwyd cynnydd o 41% mewn rhaglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dechreuwyd 2,250 o raglenni dysgu o gymharu â 1,595yn Ch4 2021/22.
  • Gwelwyd cynnydd o 50% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 2,245 o raglenni yn cychwyn yn Ch4 2022/23 o gymharu â 1,500 yn Ch4 2021/22. 
  • Gwelwyd cynnydd o 63% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch4 2021/22, gyda 1,220 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 750 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch4 2022/23, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos cynnydd o 36% o gymharu â Ch4 2021/22. Dechreuwyd 2,940 o raglenni yn Ch4 2022/23 o gymharu â 2,160 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 51% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 56% yn Ch4 2021/22. 
  • Yn Ch4 2022/23, roedd tua 64% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 68% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol. 
  • Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021 i 2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 5,135 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch4 2022/23. Gwelwyd cyfanswm o 43,280 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021. Mae'r mesur hwn bellach yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Blanka Ignacz

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.