Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Tachewedd 2022 i Ionawr 2023.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Tachwedd 2022 i Ionawr 2023 (Ch2 o flwyddyn academaidd 2022/23). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

Dechreuodd 4,545 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2022/23, o gymharu â 4,225 yn Ch2 2021/22.

Yn Ch2 2022/23, bu gostyngiadau yn nifer yr unigolion a ddechreuodd brentisiaethau Lefel 2, a bu cynnydd yn nifer yr unigolion a ddechreuodd Lefel 3 a Lefel 4+, o gymharu â Ch2 2021/22. Gwelwyd gostyngiad o 6% yn nifer yr unigolion a ddechreuodd ar raglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dechreuodd 1,680 o unigolion ar raglenni dysgu o gymharu â 1,795 yn Ch2 2021/22. Achoswyd y gostyngiad hwn yn rhannol gan yr adolygiad o gyrsiau Adeiladu.

Gwelwyd cynnydd o 25% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 1,995 o raglenni yn cychwyn yn Ch2 2022/23 o gymharu â 1,600 yn Ch2 2021/22. Achoswyd y cynnydd hwn yn rhannol gan yr adolygiad o gyrsiau adeiladu. Achoswyd y cynnydd hwn yn rhannol hefyd gan yr adolygiad o gyrsiau Adeiladu.

Gwelwyd cynnydd o 5% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch2 2021/22, gyda 870 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 825 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch2 2022/23, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos cynnydd o 19% o gymharu â Ch2 2021/22. Dechreuwyd 2,230 o raglenni yn Ch2 2022/23 o gymharu â 1,870 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 49% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 44% yn Ch2 2021/22.

Yn Ch2 2022/23, roedd tua 61% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 59% yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 4,205 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch2 2022/23. Gwelwyd cyfanswm o 33,365 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021. Mae'r mesur hwn bellach yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ian Shipley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.