Neidio i'r prif gynnwy

Rhagarweiniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ymddygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddeall ymddygiad yn gysylltiedig ag ymestyn cyfnodau triniaeth, neu bresgripsiynu 56-diwrnod. Edrychodd yr astudiaeth ar beth sy’n rhwystro a hwyluso’r ymddygiad sydd ei angen i weithredu’r canllawiau Cymru Gyfan diweddaraf ar gyfer cyfnodau presgripsiwn (GIG Cymru Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Gyfan), gan asesu ymyriadau posib a chreu argymhellion i gefnogi newid ymddygiad ar draws y llwybr presgripsiynau ail-roi. Bu’r astudiaeth yn ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys meddygfeydd teulu di-gyflenwi, fferyllfeydd cymunedol a chleifion. Nid oedd meddygfeydd teulu dosbarthu yn rhan o’r cwmpas. [troednodyn 1]

Cwestiynau ymchwil

  • Beth sy’n rhwystro a hwyluso gweithredu a chynnal cyfnodau presgripsiwn a chyfnodau cyflenwi hirach yng Nghymru?
  • Pa ymyriadau sydd fwyaf tebygol o ddylanwadu ar bresgripsiynwyr i gydymffurfio â chyfnodau presgripsiwn a chyflenwi hirach yng Nghymru?
  • Pa ymyriadau sydd fwyaf tebygol o ddylanwadu ar gael y cyhoedd i groesawu’r newid mewn arferion presgripsiwn?

Cefndir

Casglodd Adolygiad o Lefelau Cyflenwi mewn Fferylliaeth Gymunedol 2021 (Prifysgol De Cymru) y gallai lleihau nifer y digwyddiadau presgripsiynu a dosbarthu fod yn fwy effeithlon gan ryddhau capasiti i ddarparu gwasanaethau clinigol. Drwy gefnogi symudiad oddi wrth gyflenwi tuag at rôl fwy clinigol i fferyllwyr cymunedol, mae cyfnodau presgripsiwn hirach yn galluogi uchelgeisiau’r diwygiadau contract fferylliaeth gymunedol a nodir yn Presgripsiwn Newydd – A New Prescription, ynghyd ag uchelgeisiau ehangach Cymru Iachach.

Mae’r canllawiau Cymru Gyfan diweddaraf yn argymell ymestyn cyfnodau presgripsiwn hirach lle bo’n glinigol briodol, wrth alinio’r cyflenwad ag anghenion cleifion er mwyn lleihau llwyth gwaith diangen ar gyfer meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol, gwella hwylustod cleifion a rhyddhau capasiti clinigol. Er yn ymddangos i fod yn eithaf rhwydd ar yr olwg gyntaf, yn ôl yr ymchwil mae’n golygu newidiadau ymddygiad a gweithredol cymhleth sydd angen eu cydlynu ar draws meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol, byrddau iechyd a chleifion.

Mae’r canllawiau diweddaraf yn argymell ymestyn cyfnodau y tu hwnt i 28 diwrnod lle bo’n glinigol briodol, yn bennaf drwy adolygiadau meddyginiaeth blynyddol. Mae’n pwysleisio bod angen rhannu penderfyniadau, defnydd priodol o gyflenwi ail-roi a rhagofalon ar gyfer grwpiau fel cleifion sydd wedi cael presgripsiwn ar gyfer gyffuriau a reolir, sy’n defnyddio cymhorthion cydymffurfio aml-adran, preswylwyr cartrefi gofal a rhai gyda nam gwybyddol. Cyfarwyddwyd byrddau iechyd i hysbysu meddygon teulu a chefnogi eu mabwysiadu, gyda chyrff proffesiynol yn darparu deunydd pellach i annog eu gweithredu’n raddol neu’n gynt.

Sylfeini ymddygiad a’r Model Ymddygiad Integredig

Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio lens gwyddor ymddygiad ar sail y Model Ymddygiad Integredig (Research Gate), sy’n cyfuno cysyniadau o COM‑B, economeg ymddygiad a theori seicolegol. Mae’r model yn trafod cymhelliad, dewis, gweithredu a chanlyniadau gan gydnabod eu dylanwad ar benderfynu dros amser.

Mae cymhelliad yn adlewyrchu fframweithiau gwybyddol, anghenion ac arferion, er yn anodd eu newid weithiau. Mae’r ‘bwlch bwriad-gweithredu’ yn nodi sut y mae pethau gwahanol yn galw’n atal dilyn trwodd er bod cymhelliad. Mae’r cam dewis yn pwysleisio’r costau, manteision a chyfyngiadau tybiedig. Mae gweithredu’n ymwneud â chapasiti a chyfle i weithredu gan gydnabod y gall rhwystrau ymarferol danseilio ymyriadau da. Mae canlyniadau’n bwydo’n ôl i gymhelliad yn y dyfodol. Mae’r model hefyd yn nodi’r ‘gofod opsiynau’: nid yw rhai dewisiadau’n cael eu hystyried hyd yn oed os ydynt ar gael.

Dulliau

Defnyddiwyd dyluniad dulliau cymysg ar draws tri cham: Diffinio, Diagnosis a Datrys.

Roedd y cam Diffinio yn fframio’r broblem ymddygiad, adolygu’r llenyddiaeth a dadansoddi data presgripsiynu 2022-24. Defnyddiodd y dadansoddi ystadegau disgrifiadol, modelu effeithiau cymysg a chyfres amser ARIMA i edrych ar wahaniaethau rhwng byrddau iechyd a meddygfeydd. Roedd gweithdy mapio siwrne ymddygiad wedi taflu goleuni ar bryd y gwneir penderfyniadau ar hyd y llwybr presgripsiynau ail-roi.

Roedd y cam Diagnosis yn cynnwys ymchwil ansoddol gyda byrddau iechyd, meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Arweinwyr Clwstwr Gofal Sylfaenol a chleifion. Mae astudiaethau achos a holiadur atodol wedi cyfrannu safbwyntiau ychwanegol. Dadansoddwyd data’n thematig a’i gysoni i’r Model Ymddygiad Integredig.

Yn y cam Datrys, cynhyrchwyd syniadau am ymyriadau drwy gyfuno mewnwelediad, yr Olwyn Newid Ymddygiad a gweithdy APEASE aml-ddisgyblaeth i asesu ymarferoldeb a chysoni systemau.

Llwybr presgripsiynau ail-roi a thueddiadau mewn cyfnodau presgripsiwn a chyflenwi

Yn dilyn mapio’r siwrne ymddygiad, roedd yn bosib adnabod ble y gellir gweithredu’r canllawiau a pha ffactorau ymddygiad sy’n dylanwadu ar eu mabwysiadu. Mae’r broses yn dechrau gyda chleifion yn gofyn am bresgripsiynau ail-roi; staff meddygfeydd yn adolygu ceisiadau a phresgripsiynwyr yn awdurdodi presgripsiynau, sydd yna’n cael eu gwirio’n glinigol a’u cyflenwi gan fferyllfeydd cymunedol.

Barnwyd mai meddygon teulu sy’n bennaf gyfrifol am benderfynu ond roedd disgwyliadau a chapasiti staff meddygfeydd, fferyllwyr, byrddau iechyd a chleifion yn dylanwadu ar eu penderfyniadau. Mae pwyntiau mabwysiadu’n codi wrth i’r feddygfa brosesu presgripsiwn, wrth ail-awdurdodi ac wrth i’r fferyllfa wirio’r presgripsiwn.

Mae dadansoddiad o ddata presgripsiynu ymhlith meddygfeydd di-gyflenwi (2022-24) yn dangos cynnydd graddol mewn cyfnodau presgripsiwn cyfartalog ar draws Cymru, ac amrywiad sylweddol rhwng meddygfeydd. Ar lefel y bwrdd iechyd, gwelodd Powys y cynnydd mwyaf (0 46%, neu 11 diwrnod) hyd at 35 diwrnod, gyda Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro. Roedd meddygfeydd gyda grwpiau hŷn yn gysylltiedig â chyfnodau ychydig yn hirach, ac amddifadedd â chyfnodau byrrach. Nid oedd cysylltiad mawr mewn cymunedau gwledig. Ni archwiliwyd y cysylltiadau hyn ymhellach i benderfynu a ydynt yn egluro'r amrywiad a welwyd yn ystyrlon. Roedd modelu ARIMA yn cadarnhau newid graddol, yn hytrach na sydyn, mewn cyfnodau presgripsiwn.

Ffactorau rhwystro a hwyluso

Mae ymchwil gynradd wedi adnabod beth sy’n rhwystro a hwyluso’r ymddygiad sydd ei angen i weithredu canllawiau Cymru Gyfan diweddaraf ar ymestyn cyfnodau presgripsiwn ar draws elfennau o’r Model Integredig. Rhoddir crynodeb isod o brif ganfyddiadau’r gwaith maes ansoddol a’r holiadur atodol.

Cymhelliad

Roedd y rhwystrau’n cynnwys poeni am wastraff, dryswch, cost, llwyth gwaith a llai o gyswllt â’r claf yn ogystal â meddygon teulu’n gweld newid cyfnodau fel blaenoriaeth isel. Roedd rhai’n cwestiynu pa mor briodol oedd y polisi a’i ddiffyg eglurder ar drefniadau monitro. Roedd y ffactorau hwyluso’n cynnwys agwedd bositif o ran manteision fel llai o gleifion drwy’r drws a llai o gyswllt â chleifion sefydlog. Roedd ceisiadau gan gleifion hefyd yn cryfhau cymhelliad.

Dewis

Roedd y rhwystrau’n cynnwys costau uchel tymor byr tybiedig, capasiti staff prin a gormod o amser yn mynd ar adnabod cleifion addas. Roedd blaenoriaethau gwahanol yn ehangu’r bwlch bwriad-gweithredu. Roedd y ffactorau hwyluso’n cynnwys gweithredu cyflym pan oedd adnoddau ar gael, cynlluniau targedu taliadau a chymorth gan y bwrdd iechyd.

Gweithredu

Y rhwystrau oedd cymhlethdod clinigol, cyfathrebu anghyson, bylchau hyfforddi, gwallau dynol, cydweithrediad gwan rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd, a chymorth amrywiol. Roedd y ffactorau hwyluso’n cynnwys fferyllfeydd dynodedig, timau gweinyddol wedi eu hyfforddi, cydweithrediad cryf, dulliau claf-ganolog, systemau atgoffa a phrosesau safonol. Roedd gweithredu’n raddol a chydamseru hefyd yn cynorthwyo gweithredu.

Canlyniadau ac adborth

Roedd y rhwystrau a chanlyniadau negyddol yn cynnwys problemau cydamseru, heriau gweithredol i feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol, a dryswch i gleifion, a phob un ohonynt yn bwydo’n ôl i gymhelliad a phenderfynu, gan nodi bod angen prosesau cyson, cymhellion a chyfathrebu claf-ganolog. Roedd y ffactorau hwyluso a chanlyniadau cadarnhaol yn cynnwys llwyth gwaith llai ar gyfer meddygfeydd teulu, profiad gwell i gleifion a phrosesau mwy cynaliadwy, wedi'u hymgorffori, gyda chefnogaeth mewnbwn fferyllwyr a systemau cliriach. Helpodd y manteision hyn i gynhyrchu dolenni adborth atgyfnerthol a gryfhaodd hyder a chefnogodd weithredu parhaus.

Astudiaethau achos

Roedd astudiaethau achos dethol yn dangos dulliau a phrofiadau amrywiol gan ddarparwyr gofal sylfaenol wrth weithredu cyfnodau presgripsiwn hirach. Roedd meddygfeydd gyda fferyllfeydd dynodedig yn gweithredu newidiadau’n ddiogel a systematig gan ddangos pwysigrwydd cefnogaeth y fferyllydd a chydamseru. Roedd meddygfeydd heb fferyllwyr yn dibynnu ar staff gweinyddol profiadol a mabwysiadu’n raddol, a chael canllawiau clir.

Roedd cymorth ar lefel bwrdd iechyd yn dylanwadu ar gysondeb. Roedd targedau bwrdd iechyd yn cyflymu gweithredu ond llai o gymorth yn ei arafu. Roedd rhai fferyllfeydd cymunedol yn wynebu dryswch gan gleifion, pryderon diogelwch a phwysau stoc, gan bwysleisio bod angen rhannu canllawiau a chyfathrebu. Gyda’i gilydd dangosai’r achosion hyn fod cyfathrebu cyson, rhannu canllawiau a chydlynu gweithredu’n hanfodol i wireddu’r manteision a ddymunir.

Ymyriadau

Cynhyrchwyd syniadau am ymyriadau drwy fapio ffactorau rhwystro a hwyluso yn erbyn elfennau ymddygiad yn defnyddio’r Olwyn a’r Model Newid Ymddygiad, wedi’i ategu gan adolygiad targed o’r dystiolaeth. Diwygiwyd y syniadau mewn gweithdy dylunio mewnol a’u cyflwyno i ddarparwyr gofal sylfaenol a fferyllfeydd mewn gweithdy APEASE, gan drafod ymarferoldeb, effeithiolrwydd a chysoni systemau. Aseswyd pum ymyriad arfaethedig yn cwmpasu newidiadau cymhelliant, adeiladu gallu a lefel system yn y gweithdy APEASE a lywiodd argymhellion ymyriad terfynol.

Synthesis ac argymhellion

Dangosodd dystiolaeth ar draws yr ymchwil fod gweithredu’r Canllawiau Cymru Gyfan diweddaraf ar gyfnodau presgripsiwn, a gyhoeddwyd yn Hydref 2022, yn fwy cymhleth nag ar yr olwg gyntaf. Roedd penderfynu ar gyfnodau priodol rhwng presgripsiynau’n rhan o dirlun sefydliadol aml-wedd ac yn dibynnu’n drwm ar y berthynas waith rhwng presgripsiynwyr a fferyllwyr cymunedol, a hefyd ar amrywiadau mewn barn glinigol ar sail y feddyginiaeth a chyflwr corfforol a meddyliol y claf. Un thema ganolog oedd y gwahaniaeth rhwng yr effaith a geisiwyd, cynnydd mewn cyfnodau presgripsiwn cyfartalog, a’r ymddygiad a geisiwyd, oedd yn broses claf-ganolog ac unigoledig. Lle’r oedd ffocws meddygfa ar gyflawni’r effaith yn lle annog yr ymddygiad, roedd yn creu canlyniadau negyddol weithiau, gan gynnwys cyfnodau amhriodol a dryswch i gleifion.

Dangosodd yr ymchwil hefyd, er bod gan fferyllwyr cymunedol rôl flaenllaw yn y dogfennau polisi, mai meddygon teulu a meddygfeydd sy’n penderfynu’n bennaf. Ar y cyfan roedd meddygon teulu’n deall a chefnogi rhesymeg y polisi ond yn tybio nad oedd ganddo fantais uniongyrchol i feddygfeydd ond bod amser, ymdrech a chost ei weithredu i’w teimlo’n syth ac yn sylweddol. Roedd ei gyflwyno ar garlam a heb ei gydlynu’n iawn yn creu problemau cydamseru, tensiwn gyda fferyllwyr cymunedol a baich gweithredol.

Er yr heriau hyn, dangosodd enghreifftiau o weithredu llwyddiannus fod cymhellion cymharol fach, cymorth fferyllfa wedi’i wreiddio, a dulliau tîm ffurfiol yn lliniaru llawer o’r rhwystrau. Cynigiwyd 11 o argymhellion ar gyfer ymyriadau, gyda chymhellion tymor byr i feddygfeydd wedi eu hadnabod i fod yn cael yr effaith bosib fwyaf. Roedd yr adroddiad yn argymell peilota a gwerthuso’r ymyriadau i sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol yn ymarferol.

Ymyriadau a argymhellir

Targedau, cyllid a dangosfyrddau ar gyfer meddygfeydd teulu

Nod yr ymyriad hon yw annog meddygfeydd teulu i ymestyn cyfnodau presgripsiwn trwy gyflwyno cymhellion a mesurau perfformiad o fewn fframweithiau cytundebol presennol.

Sefydlu dull cydweithredol rhwng meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol

Mae'r fenter hon yn ceisio cryfhau cyfathrebu arferol a chynllunio ar y cyd rhwng meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol i gefnogi gweithredu cydlynol o’r canllawiau.

Cymhellion gwell ar gyfer fferyllfeydd cymunedol

Mae'r mesur hwn yn ymgorffori cydrannau cymhelliant newydd yn y Fframwaith Cytundebol Fferyllfeydd Cymunedol i gefnogi cyfnodau presgripsiwn hirach, gan gysylltu gwobrau ariannol â chyfrolau presgripsiwn is, costau gweithredu tymor byr a sicrwydd tymor hir sy'n amddiffyn hyfywedd fferyllfeydd os na chaiff y manteision polisi disgwyliedig eu gwireddu.

Rôl ehangach i fferyllfeydd cymunedol

Mae'r dull hwn yn rhoi hyfforddiant ac arweiniad i fferyllfeydd cymunedol fel y gallant helpu i ymestyn cyfnodau presgripsiwn trwy nodi cleifion addas a gwneud argymhellion i feddygfeydd teulu.

Map ffordd gweithredu

Mae'r cam gweithredu hwn yn creu map ffordd gam wrth gam a ddatblygwyd ar y cyd sy'n darparu amserlenni cydlynol a chanllawiau clir i feddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol i gefnogi mabwysiadu newidiadau i gyfnodau presgripsiwn yn gyson ac heb fawr o darfu.

Cyfathrebu â chleifion a phrotocolau ar gyfer hunan-eiriolaeth

Mae'r ymyriad hon yn gweithio trwy ddarparu gwybodaeth glir, wedi'i theilwra sy'n grymuso cleifion i wneud dewisiadau gwybodus a gweithredol am eu triniaeth ac yn hyrwyddo dull hyblyg, claf-ganolog o weithredu newidiadau i gyfnodau presgripsiwn.

Cymhorthion penderfynu

Mae'r cynnig hwn yn cyfarparu meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol i wneud penderfyniadau clinigol cyson trwy ddarparu cymorth penderfyniadau a phrotocolau clir, gan gynnwys canllawiau ar gyfer ymdrin â chydamseru meddyginiaethau a chyfrifoldebau diffiniedig ar gyfer pob rhanddeiliad.

Llawlyfrau esboniadol (technegol)

Mae'r ymyriad hon yn cryfhau hyder meddygfeydd teulu a thîm presgripsiynu wrth addasu cyfnodau presgripsiwn trwy ddarparu llawlyfr esboniadol ymarferol gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam a chanllawiau clir ar ddiweddaru gosodiadau presgripsiwn o fewn systemau TG.

Lansio / fframio polisi newydd (e.e., trwy Gylchlythyr Iechyd Cymru)

Mae'r fenter hon yn fframio canllawiau cenedlaethol i ailffocysu polisi cyfnodau presgripsiwn i wneud penderfyniadau personol sy'n briodol yn glinigol, a chryfhau disgwyliadau ar gyfer ymgysylltu â chleifion, cydweithio a gweithredu cyson, strwythuredig o gyfnodau presgripsiwn hirach er budd cleifion, meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol.

Straeon llwyddiant ac addysg

Mae'r ymyriad hon yn hyrwyddo'r achos busnes dros gyfnodau presgripsiwn hirach drwy rannu astudiaethau achos ac enghreifftiau prawf-o-gysyniad sy'n tynnu sylw at fanteision byd go iawn, gan gynnwys arbedion amser i feddygfeydd a chanlyniadau gwell i gleifion.

Rheoli gwastraff

Mae'r mesur hwn yn sefydlu mecanwaith adborth ffurfiol rhwng meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol i fonitro a mynd i'r afael ag unrhyw wastraff meddyginiaeth sy'n deillio o weithredu'r polisi.

Troednodiadau

[1] Meddygon teulu yw meddygon sy'n cyflenwi meddyginiaethau, ac ar gais claf, caniateir iddynt gyflenwi’r meddyginiaethau y maent yn eu presgripsiynu i gleifion oherwydd natur wledig y feddygfa. Mae tua 70 o feddygfeydd sy'n cyflenwi meddyginiaethau yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Awduron: Matt Barnard, Iranzu Monreal, Rhydian Cleaver, Alice Diaz, Ellie Kettle

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu
Is-adran Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: Pharmacyand.PrescribingBranch@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 48/2026
ISBN digidol 978-1-80633-865-8

Image
GSR logo