Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £3.5m o arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yng ngham cyntaf datblygiad o bwys i greu canolbwynt busnes newydd yn hen ddociau Port Talbot.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn helpu i ddatblygu tri hectar o dir llwyd, adeiladu ffordd fynediad newydd ac uwchraddio ffordd sy’n bodoli’n barod, a hynny er mwyn datblygu safle cyflogaeth strategol yn yr ardal.

Bydd y prosiect, a fydd para am ddwy flynedd, yn paratoi’r safle ar gyfer buddsoddiad gan fusnesau, gan ddatblygu mwy na 200,000 troedfedd sgwâr o ofod ar gyfer diwydiant a swyddfeydd. Gallai hyn roi lle i tua 1,600 o swyddi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: 

“Rwy’n falch fod arian yr UE yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i gefnogi prosiect allweddol sy’n hybu seilwaith a thwf economaidd ym Mhort Talbot.

“Dyma garreg filltir gyffrous yn y gwaith o ailddatblygu ardal Glannau Harbwr Port Talbot, a fydd yn creu cyfleoedd busnes a swyddi newydd. Mae’r buddsoddiad yn newyddion gwych i’r ardal ac yn hwb gwerthfawr arall i ysgogi’r economi leol.”

Mae’r buddsoddiad hwn yn natblygiad newydd Glannau’r Harbwr yn dod ar ben y buddsoddiad sylweddol o arian yr UE yn y gwaith o adfywio Port Talbot. Mae hynny’n cynnwys £54m ar gyfer ffordd gyswllt rhwng Glannau’r Harbwr â’r M4; £7.5m ar gyfer canolfan ymchwil peirianneg newydd TIW; a £2.5m ar gyfer canolbwynt trafnidiaeth newydd y dref. 

Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, aelod cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros adfywio a datblygu cynaliadwy: 

“Mae hwn yn arian hanfodol a fydd yn galluogi’r cyngor i wireddu ei ddyheadau o ran adfywio Glannau’r Harbwr a’r ardal gyfagos.

“Bydd yn ein galluogi i weddnewid hen ardal y dociau a’i gwneud yn un o safleoedd cyflogaeth strategol pwysicaf y rhanbarth.

“Mae’r safle hwn yn rhan o Ardal Fenter Glannau Port Talbot, a bydd y buddsoddiad ychwanegol yn golygu bod yr ardal yn fwy atyniadol byth i fusnesau a chwmnïau sy’n awyddus i fuddsoddi yma.

“Rydym wedi cael dechrau ardderchog gydag adeilad newydd y Gwasanaethau Llysoedd a’r pentref ymchwil a datblygu ym Mharc Busnes Glannau’r Harbwr, ond bydd hyn yn ein galluogi i fynd ati i fanteisio’n llawn ar y buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn Ffordd yr Harbwr, Gorsaf Parcffordd Port Talbot a’r canolbwynt trafnidiaeth newydd.

“Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith adfywio sydd ar y gweill gennym yng nghanol tref Port Talbot trwy raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, sydd eisoes yn gweddnewid rhannau o’r dref. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r fwrdeistref sirol.”