Neidio i'r prif gynnwy

Bydd miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru yn elwa ar gael diagnosis o ganserau a chlefydau prin yn gyflymach, diolch i gynllun newydd i gynyddu'r defnydd o brofion genynnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod y cynllun newydd, Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru, yn dangos sut y gall y GIG fanteisio ar y chwyldro genomeg ym maes gofal iechyd.

Genomeg yw gwyddor genynnau a gwybodaeth enetig. Mae'r defnydd o genomeg ym maes gofal iechyd wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at ganfod clefydau'n gynnar a'u hatal, triniaethau newydd a meddyginiaethau wedi'u personoli.

Ymhlith yr uchelgeisiau a nodir yn y cynllun y mae:

 

  • Cynnig profion genomig a chymorth mwy helaeth i gleifion yr amheuir bod ganddynt glefyd prin ac ar gyfer mathau penodol o ganser, drwy gynyddu nifer y genomau a gaiff eu dilyniannu bob blwyddyn o 240 i 3,000 y flwyddyn o fewn y tair blynedd nesaf.
  • Cynnig hyd at 5,000 o broffiliau profion genomig helaeth bob blwyddyn i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser er mwyn gwella prosesau rhoi diagnosis a chyfraddau goroesi.
  • Creu Canolfan Genomeg Cymru werth £15m.
  • Cryfhau gwyliadwriaeth genomig o bathogenau er mwyn helpu i atal clefydau trosglwyddadwy a mynd i'r afael â nhw, gan gynnwys y bygythiad o bandemigau newydd.

Ymhlith yr enghreifftiau o'r ffordd y mae pobl yng Nghymru eisoes yn cael budd o genomeg y mae Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru (WINGS), sef y gwasanaeth cyntaf yn y DU i ddarparu proses gyflym i ddilyniannu genomau cyfan ar gyfer plant â salwch acíwt sydd ag achos genetig sylfaenol tebygol; y defnydd o banel genynnau mawr ar gyfer nifer o ganserau i roi triniaethau a diagnosis wedi'u personoli; a datblygu gwasanaeth genomeg C. difficile, y cyntaf o'r fath yn y DU, sy'n ychwanegu at ymdrechion i reoli achosion o'r pathogen allweddol hwn mewn ysbytai yng Nghymru.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn ogystal â chynnal mwy o brofion genomig a sicrhau rhagor o waith dilyniannu yng Nghymru, un o'r blaenoriaethau yn y Cynllun Cyflawni yw cynnig biopsïau hylif anfewnwthiol yn amlach ar gam cynharach yn y llwybr canser er mwyn cyfrannu at driniaethau wedi'u personoli a gwella canlyniadau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Mae genomeg yn gweddnewid ein ffordd o feddwl am ofal iechyd, ac mae eisoes wedi effeithio ar sut rydyn ni'n darparu llawer o wasanaethau. Bydd y cynllun hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa i allu defnyddio genomeg i drawsnewid sut y byddwn ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Drwy baratoi nawr, bydd Cymru'n barod pan fydd genomeg yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin yn ein gwasanaeth iechyd.

“Mae rôl genomeg ym maes gofal iechyd wedi cynyddu'n gyson ers y pandemig. Mae mabwysiadu'r technolegau newydd hyn eisoes wedi arwain at fuddion gwirioneddol i gleifion. Mae wedi rhoi inni ddealltwriaeth fwy manwl o lawer o'r pethau sy'n achosi salwch a chlefydau heintus, ac mae'n sail i ddatblygu ymyriadau newydd na fyddai neb wedi dychmygu eu defnyddio ddegawd yn ôl.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, sy'n gyfrifol am wyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru:

“Dros amser, mae gwyddoniaeth wedi chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o drawsnewid meddygaeth fodern. Heddiw, rydyn ni’n darparu gofal iechyd i bobl mewn ffordd hollol wahanol i’r ffordd roedden ni’n arfer darparu gofal, hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl. Mae hyn wedi helpu i achub bywydau di-rif.

“Oherwydd y cynnydd a wnaed gan wyddonwyr o ran deall y cod genomig, mae clinigwyr yn fwy tebygol o allu canfod achosion lle'r amheuir clefydau prin yn gynnar a chynnig triniaethau sydd wedi'u personoli'n fanwl sy'n achub bywydau.

“Rwy'n falch bod Cymru yn bwrw ymlaen â'r cynllun uchelgeisiol hwn, a fydd yn rhoi cyfle i GIG Cymru wella iechyd a llesiant pobl ymhellach ym mhob cwr o'r wlad.”

Dywedodd Dr Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae genomeg pathogenau wedi chwarae rôl hanfodol o ran canfod amrywolion sy'n peri pryder er mwyn cymryd camau i leihau effaith pandemig COVID-19. Hyd yma, mae Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llwyddo i ddilyniannu mwy na 220,000 o samplau a brofwyd yn bositif i brawf SARS-CoV-2. Mae hyn wedi cyfrannu'n helaeth at feithrin ein dealltwriaeth o'r feirws.

“Mae Canolfan Genomeg Cymru yn cynnig cyfle gwych i ymchwilio i ffyrdd eraill o ddefnyddio genomeg ar lefel poblogaeth, megis ar gyfer sgrinio iechyd a throsglwyddo heintiau rhwng anifeiliaid a phobl. Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn darparu sail gadarn ar gyfer datblygu rhaglen genomeg iechyd cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth i bobl yng Nghymru.”