Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu rhagor o fanylion am y pecyn cymorth gwerth £200 miliwn ar gyfer busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, ac ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n parhau i gael eu heffeithio gan bandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid diweddaraf yn cael ei gysylltu â'r system ardrethi annomestig, a bydd yn ychwanegu at y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau a roddwyd ar waith ddechrau mis Rhagfyr.

Mae'n golygu bod y cymorth diweddaraf hwn sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru bellach yn werth £650 miliwn, a bydd yn helpu busnesau gyda’u costau gweithredol tan ddiwedd mis Mawrth.

Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £3,000.

Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig y grant o £5,000 i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000.

Bydd busnesau sy’n rhan o gadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gymorth os ydynt wedi gweld gostyngiad o fwy na 40% yn eu trosiant.

Mae'r pecyn yn rhoi grant o £6,000 i fusnesau cymwys sydd â chyfradd ardrethi annomestig o £12,000 neu lai, i’w helpu gyda’u costau gweithredu, a bydd busnes cymwys sydd â chyfradd ardrethi annomestig rhwng £12,001 a £150,000 yn cael taliad o £10,000.

Nid yw hyn yn cynnwys busnesau sydd wedi manteisio ar Gymorth Penodol i’r Sector dan y Gronfa Cadernid Economaidd. Os yw busnes yn gymwys i gael cymorth dan y Gronfa honno, byddai busnes nodweddiadol ym maes lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd â 10 o weithwyr cyflogedig yn cael hyd at £15,000 yn ychwanegol, sy'n golygu y byddai’n cael grant gwerth cyfanswm o £25,000 ar gyfer y cyfnod.

Mae £30 miliwn arall ar gael hefyd drwy'r gronfa cymorth dewisol i ddarparu hyd at £2,000 o grantiau i fusnesau nad ydynt ar y system ardrethi annomestig.

Mae’r cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU.

Unwaith eto, yr awdurdodau lleol − sydd wedi bod yn gwbl hanfodol o ran sicrhau bod busnesau'n cael arian yn gyflym − fydd yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn. Os yw busnesau'n talu ardrethi annomestig ac os ydynt eisoes wedi cael taliad ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref, nid oes angen iddynt weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau sydd heb gofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl iddo.

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £1.7 biliwn o gymorth busnes wedi cyrraedd cyfrifon banc cwmnïau o Gymru.

Mae'r cymorth hwn wedi bod yn hollbwysig i fusnesau ledled Cymru drwy gydol y pandemig, ac mae wedi diogelu degau o filoedd o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith ddifrifol ar ein heconomi a'n busnesau, yn enwedig y rheini yn y sectorau hamdden, twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.

“Bydd y £200 million ychwanegol rydym yn ei ddarparu yn rhoi sicrwydd i gwmnïau ledled Cymru ac yn eu helpu gyda'u costau gweithredu tan ddiwedd mis Mawrth.

“Mae’r cymorth rydyn ni’n ei roi yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a'r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig, a dw i'n annog busnesau i edrych ar yr opsiynau hynny hefyd.

“Dw i hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o sicrwydd i fusnesau ac unigolion drwy sicrhau na fydd y cymorth sydd ar gael drwy ymyriadau fel y Cynllun Cadw Swyddi yn cael ei dynnu'n ôl cyn bod yr economi’n barod.

“Mae awdurdodau lleol wedi bod yn hollbwysig drwy gydol y pandemig wrth iddyn nhw gefnogi’n hymdrechion drwy weinyddu a dosbarthu'r cyllid hwn i gwmnïau yn eu hardal. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw unwaith eto am eu gwaith gwych ac am bopeth maen nhw’n parhau i'w wneud i helpu’n busnesau ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnynt.

Talodd Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol, deyrnged hefyd i ymdrechion staff yr awdurdodau lleol:

"Dw i'n gwybod bod staff ledled Cymru wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod cymorth ar gael i'w busnesau lleol cyn gynted â phosibl.

"Maen nhw wedi gwneud hynny ac wedi parhau, ar yr un pryd, i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu darparu ac i chwarae rhan hanfodol mewn llawer o ymatebion eraill i'r pandemig, gan amrywio o brofi, olrhain, diogelu, i gefnogi'r bobl hynny sy'n hunanynysu.