Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl Mick Antoniw, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio holl rym y gyfraith i ddiogelu adnoddau naturiol morol a chymunedau arfordirol Cymru rhag pysgota anghyfreithlon yn ei dyfroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth ymweld â Cranogwen, sef Llong Diogelu Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi ei lleoli yn Aberdaugleddau, a’r Pysgodfa Gocos y Tair Afon yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y Llywodraeth yn cymryd ei chyfrifoldeb am reoli a diogelu moroedd ac adnoddau naturiol Cymru o ddifrif.

Mae defnyddio adnoddau yn ddiatal yn gallu arwain at arferion anghynaliadwy. Gall hynny ddirywio stoc pysgota ac effeithio'n negyddol ar economïau lleol.

Mae’r Llywodraeth yn rheoleiddio pysgota, a gweithgareddau eraill, ym moroedd Cymru yn ofalus. Gan ddefnyddio nifer o ddulliau - gan gynnwys llongau patrolio pysgodfeydd - mae swyddogion gorfodi morol Llywodraeth Cymru yn mynd ati i orfodi ystod eang o reoliadau ar y môr ac ar y tir, ac i sicrhau bod pysgotwyr yn cydymffurfio â hwy.

Pan fo tystiolaeth o droseddu yn dod i law, mae swyddogion gorfodi morol y Llywodraeth yn ymchwilio'n drylwyr i’r achosion hynny ac yn cymryd camau cymesur. Gall hynny amrywio o gyngor ysgrifenedig i rybuddion ysgrifenedig, ac mewn rhai achosion, erlyniad.

Y Cwnsler Cyffredinol sy'n gyfrifol am erlyniadau o dan ddeddfwriaeth pysgodfeydd yng Nghymru. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae swyddogion wedi ymchwilio i 57 achos o dor rheolau sydd wedi arwain at 31 erlyniad llwyddiannus.

Dywedodd Mick Antoniw:

"Mae amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn byw ym moroedd Cymru a chânt eu diogelu gan gyfraith Cymru, y DU ac Ewrop. Mae'r adnoddau naturiol hyn a'r gwasanaethau a ddarparant yn hanfodol o ran helpu ein cymunedau arfordirol i ffynnu drwy bysgota a thwristiaeth, yn ogystal â'u harwyddocâd diwylliannol pwysig.

"Mae’n rhaid rheoli'r adnoddau hyn yn effeithiol ac yn rhagweithiol er mwyn sicrhau ffyniant ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn nid yn unig yn diogelu ein hadnoddau naturiol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd yn y dyfodol i bysgotwyr cyfrifol sy'n dibynnu arnynt am fywoliaeth, a fydd yn ei dro yn helpu i gryfhau ein cymunedau arfordirol.

"Mae'r erlyniadau llwyddiannus diweddar am bysgota anghyfreithlon yn nyfroedd Cymru yn rhybudd clir i eraill fy mod i, fel y Cwnsler Cyffredinol, a'r Llysoedd yn cymryd troseddau pysgota yng Nghymru o ddifrif. Gan ddefnyddio holl rym y gyfraith, byddwn yn ceisio diogelu ein hadnoddau naturiol morol er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."