Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn derbyn pob un, ac eithrio un, o argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, ac mae wedi ysgrifennu i awdurdodau cynllunio ledled Cymru i bwysleisio bod rhaid i gynlluniau datblygu gefnogi safleoedd sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn Datganiad Llafar yn y Cynulliad heddiw, fe fydd hi'n dweud y canlynol:

  • bydd y polisi rhenti pum mlynedd yn cael ei gyhoeddi cyn i'r Cynulliad dorri am yr haf
  • mae angen ffordd newydd o weithio mewn perthynas â chyllid grant ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurodau lleol, a bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu hynny
  • bydd awdurdodau lleol uchelgeisiol yn gallu cael grant tai i adeiladu mwy o dai cyngor yn ddi-oed ac ar raddfa fawr
  • mae Llywodraeth Cymru'n ystyried sefydlu corff i gefnogi'r ffordd orau o ddefnyddio tir y sector cyhoeddus i greu mwy o dai
  • rhaid i bob eiddo ni waeth beth fo'r ddeiliadaeth gael yr un safonau o ran ansawdd, megis maint o le a bod yn effeithlon o ran ynni
  • bydd y sector tai'n cael ei gynghori ynghylch strategaeth newydd i ehangu'r defnydd o weithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern i greu cartrefi di-garbon.  

Dywedodd Julie James:

Rwy'n ymwybodol bod rhaid i’n buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy gael ei ddefnyddio mor effeithiol ag sy'n bosibl, ac ar gyfer y pethau sydd eu hangen fwyaf. Dyna pam rwy'n cymryd camau ar sail argymhellion yr adolygiad.

Rwy hefyd yn ysgrifennu i'r holl awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar bob cyfle i greu datblygiadau tai yng Nghymru sy'n cynnwys o leiaf 50% o dai fforddiadwy. Yn sgil cael gwared ar gap benthyca'r Cyfrif Refeniw Tai a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu tai fforddiadwy, rwy am iddyn nhw sicrhau bod hwnnw'n rhan allweddol o waith adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Bydd y Gweinidog yn ymateb i'r argymhelliad, sy’n weddill, o'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy am y rhaglen Cymorth i Brynu yn yr hydref.