Neidio i'r prif gynnwy

“Gwelwyd gwelliant chwe phwynt canran yng nghanlyniadau TGAU plant sy'n derbyn gofal”, meddai Kirsty Williams (dydd Mercher 10 Mai).

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi adrodd ar y cynnydd a wneir i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn well o ran eu haddysg. Amlinellodd hefyd ei chynlluniau o ran camau gweithredu i sicrhau ei bod yn parhau i wella'u cyrhaeddiad addysgol ac yn gwneud yn siŵr bod ganddynt yr un cyfleoedd â'u cyfoedion.

Mae adroddiad blynyddol ar y cynllun tair blynedd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn rhoi sylw i'r cynnydd a wneir, gan gynnwys gwella canlyniadau TGAU. Yn 2016 roedd 23 y cant o blant sy'n derbyn gofal wedi llwyddo i gael pum TGAU neu gyfwerth, gradd A*–C mewn Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg a Mathemateg – cynnydd o chwe pwynt canran ar ganlyniadau 2015.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd hefyd – CASCADE – i greu  canolbwynt ar-lein newydd er mwyn rhannu gwybodaeth ac adnoddau sy'n helpu gwella canlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

  • Edrych ar yr hyfforddiant sydd ar gael i ysgolion a cholegau addysg bellach sy'n gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal.
  • Sicrhau bod awdurdodau lleol yn adolygu rolau gweithwyr allweddol sy'n gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal. 
  • Cydweithio â'r trydydd sector i ystyried ffyrdd gwell o gefnogi plant y mae'n aml yn anodd ennyn eu diddordeb mewn addysg.
  • Gwneud defnydd gwell o'r data sydd ar gael i helpu plant sy'n derbyn gofal.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y bydd y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ehangu i gynnig cymorth i blant tair oed sy'n derbyn gofal yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn yr ysgol. Mae hynny'n rhan o fwy na £90m eleni a roddwyd i helpu disgyblion difreintiedig.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Yr hyn sy'n ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg yw bod pob plentyn yn gwneud yn dda ac yn cyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir. Rhaid i blant sy'n derbyn gofal gael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion. Rydyn ni wedi gweld gwelliant gwych yng nghanlyniadau TGAU y rhai hynny sy'n derbyn gofal, ac rydyn ni wedi ymrwymo rhagor o gyllid i ddatblygu hynny. Ond rwy am wneud mwy na hynny.

“Yn aml, mae plant sy'n derbyn gofal yn dod o gefndir o argyfwng teuluol neu deulu'n chwalu. Er na allwn ni newid eu profiadau personol, byddwn ni'n parhau i'w cefnogi drwy eu haddysg a'u paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

“Mae ymchwil yn dangos yn rhy aml o lawer bod disgwyliadau pobl o ran y bobl ifanc hyn yn gostwng dim ond am eu bod yn 'derbyn gofal'. Rydyn ni'n cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn a byddwn ni'n parhau i wneud hynny.”