Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i'r hydref a'r gaeaf nesáu, mae'n bwysicach nag erioed bod bob ceidwad adar yn cynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a hylendid i ddiogelu ei heidiau, a bod ar ei wyliadwriaeth am unrhyw arwyddion o ffliw adar

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er bod ffliw adar wedi parhau i effeithio ar adar gwyllt dros yr haf, mae cyfnod mudo'r gaeaf yn dod â risg uwch i adar caeth.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:

Mesurau hylendid a bioddiogelwch llym a thrylwyr yw'r ffordd orau o amddiffyn adar caeth rhag ffliw adar.  P'un a oes gan geidwaid ychydig o adar neu fil, mae'n hanfodol bod y safonau bioddiogelwch uchaf yn cael eu cynnal bob amser.

Mae bod ar ein gwyliadwriaeth hefyd yn allweddol.  Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw arwyddion neu bosibilrwydd bod ffliw adar yn eich haid ar unwaith.

Hoffwn i ddiolch i geidwaid adar am eu hymdrechion hyd yma i gadw eu hadar yn ddiogel.  Wrth i fisoedd yr hydref a'r gaeaf nesáu, mae bellach yn bwysicach nag erioed cynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a bod ar ein gwyliadwriaeth.

Mae cyngor i geidwaid dofednod ac adar caeth ar sut i gadw eu heidiau'n ddiogel ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch. Mae rhestr wirio i helpu perchnogion heidiau dofednod bach gadw eu hadar yn rhydd rhag clefyd, ac un ar gyfer ceidwaid masnachol – Bioddiogelwch ac atal afiechyd mewn dofednod ac adar caeth.

Dylech barhau i roi gwybod os ydych yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw i linell gymorth DEFRA ar 03459 33 55 77, a dylai ceidwaid barhau i adrodd yn brydlon os amheuir bod clefyd yn eu hadar i APHA ar 0300 303 8268.