Mae Llywodraeth Cymru yn annog y Canghellor i gyflymu'r broses o gyflawni'r addewid gwerth £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd, gan fod y cyllid presennol yn cyfrif am ddim ond 1% o wariant Network Rail ledled Cymru a Lloegr.
- Mae Llywodraeth Cymru yn annog y Canghellor i gyflymu'r broses o gyflawni'r addewid gwerth £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd, gan fod y cyllid presennol yn cyfrif am ddim ond 1% o wariant Network Rail ledled Cymru a Lloegr.
- Mae'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones, hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ar gostau byw, gwariant cyhoeddus a buddsoddiad yng Nghymru cyn Cyllideb yr Hydref.
- Dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Mae Cymru wedi aros yn ddigon hir. Dyma gyfle Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos ei bod o ddifrif am wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."
Mae'r Canghellor wrthi'n cwblhau Cyllideb yr Hydref, a fydd yn cael ei chyflwyno ar 28 Hydref. Cyn y Gyllideb, mae Elin Jones wedi ysgrifennu at y Canghellor fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan, gan gynnwys bargen deg ar gyllid, buddsoddiad a chyfleoedd.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
- Rheilffyrdd: dwyn ymlaen £1 biliwn o'r ymrwymiad buddsoddi presennol gwerth £14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd er mwyn cyflymu prosiectau gwella ledled Cymru.
- Costau byw: cymorth wedi'i dargedu i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd, gan gynnwys dadrewi cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol i atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys diogelu Cynnal, taliad plant Cymru, rhag didyniadau treth a budd-daliadau er mwyn rhoi rhywfaint o le i anadlu i deuluoedd a chefnogi ein hymdrechion i leihau tlodi plant.
- Gwariant cyhoeddus: gwrthdroi'r toriadau mewn termau real i gyllidebau o ddydd i ddydd a chyfalaf Cymru.
- Buddsoddiad gan Lywodraeth y DU: cefnogi prosiectau mawr gan gynnwys datgarboneiddio Gorsaf Bŵer Penfro.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:
"Mae Cymru wedi aros yn ddigon hir. Dyma gyfle Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddangos ei bod o ddifrif am wneud gwahaniaeth i'n cymunedau.
"Ar hyn o bryd, dim ond 1% o wariant Network Rail ledled Cymru a Lloegr sy'n mynd at ein rheilffyrdd ni. Dyw hynny ddim yn ddigon da. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i fuddsoddi £14 biliwn i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn rheilffyrdd Cymru, ac rwy' am weld yr addewid hwnnw'n cael ei droi'n weithredu, gan ddechrau gyda'r gyllideb hon.
"Mae teuluoedd ledled Cymru yn dal i deimlo'r pwysau, ac rwy' am weld y Canghellor yn mynd ymhellach i'w helpu, boed hynny drwy gymorth gyda chostau tai ac ynni neu drwy ddiogelu'r taliadau sydd bwysicaf i deuluoedd ar yr incwm isaf.
"Mae Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad cryf i economi'r Deyrnas Unedig, ac fe fydd buddsoddi yn ein dyfodol yn helpu i gyflawni uchelgais y Prif Weinidog ei hun i ledaenu ffyniant a chyfle i bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Nawr yw'r amser i droi'r uchelgais hwnnw'n weithredu."
