Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn Llydaw i lofnodi cytundeb newydd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r rhanbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adlewyrchu pa mor bwysig ydyw i barhau i gydweithio ar draws Ewrop i ddelio â heriau sy'n dod i'r amlwg ledled y byd, fel yr heriau ym maes seiberddiogelwch. Mae hyn arbennig o bwysig yn y dirwedd wleidyddol bresennol sy'n newid wrth i'r Deyrnas Unedig (DU) baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Yn ystod ei ymweliad â Llydaw, bydd y Prif Weinidog yn mynd i weld y Ganolfan Ragoriaeth Seiber, sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant, ymchwil a darparu cymorth i fusnesau bach a chanolig sy'n gweithio yn y diwydiant seiber.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:  

“Mae diogelwch seiber ac atal ymosodiadau seiber yn her fyd-eang a dim ond drwy gydweithio â phartneriaid rhyngwladol y gallwn ni ymateb iddi. Mae ymosodiadau seiber, fel WANNACRY y llynedd, yn gallu cael effaith fawr ar ddiogelwch cenedlaethol ac maent yn dangos pa mor bwysig yw cydweithio i atal ymosodiadau pellach.

“Dw i'n falch bod Cymru yn ganolbwynt yn y DU ar gyfer seiberddiogelwch, ac mai gennym ninnau y mae Clwstwr Seiberddiogelwch Mwyaf Prydain o fusnesau bach a chanolig a chwmnïau sydd wedi ennill bri yn rhyngwladol, fel Airbus, General Dynamics, Alert Logic a CGI. 

“Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau ar flaen y gad yn y byd technoleg. Dim ond drwy barhau i weithio gyda phartneriaid ledled y byd a chymryd rhan mewn ymchwil a rhaglenni arloesi Ewropeaidd y gallwn ni gyflawni hyn. 

“Mae'n bosibl y daw heriau i ran y diwydiant seiber yn sgil ymadael â'r UE hefyd. Rhaid inni gymryd camau nawr i sicrhau bod y sector pwysig hwn yn parhau i ddatblygu a ffynnu. Bydd rhoi cyfyngiadau ar ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y diwydiant seiber yn gwasgu eto ar sector sydd eisoes wedi gweld prinder mewn gweithwyr sydd â'r sgiliau angenrheidiol. Gallai cyfyngu ar fynediad y DU at y farchnad sengl hefyd niweidio safle'r DU fel un sy'n arwain yn y farchnad.

“Rwy'n ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'n ffrindiau a'n partneriaid yn Ewrop i wynebu'r heriau seiberddiogelwch a ddaw yn y dyfodol.”