Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad interim y panel adolygu annibynnol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, yn dweud bod achos cryf o blaid newid. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er mwyn i’r uchelgais hon gael ei gwireddu, mae’r adroddiad yn galw am dreialu modelau gofal newydd trwy Gymru.

Gofynnir i staff rheng flaen, yn ogystal â’r cyhoedd a chyrff gwirfoddol, gydweithio i ddatblygu modelau gofal newydd a fydd yn helpu darparwyr mewn ysbytai, lleoliadau gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned i gydeithio’n fwy effeithiol. Bydd y modelau hyn yn cael eu datblygu i weithio mewn lleoliadau gwahanol, boed yn drefol neu’n wledig, ac i roi ystyriaeth i anghenion y Gymraeg.

Mae adroddiad interim yr Adolygiad Seneddol, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn cydnabod y bydd angen camau gweithredu i ategu’r modelau newydd mewn sawl maes, ac mae’n gwneud argymellion eraill gan gynnwys:

  • yr angen am newid sylweddol yn y ffordd y mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn addasu i newidiadau yn anghenion y boblogaeth
  • pobl Cymru, staff, defnyddwyr gwasanethau a gofalwyr i gael mwy o ddylanwad ar fodelau gofal newydd, gyda threfn gliriach o rannu swyddogaethau a chyfrifoldebau
  • sgiliau a llwybrau gyrfa newydd i’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi pwyslais ar welliant parhaus
  • gwell defnydd o dechnoleg a seilwaith i hybu ansawdd ac effeithlonrwydd
  • symleiddio’r trefniadau llywodraethiant, cyllid ac atebolrwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Gofynnwyd i’r panel adolygu lunio adroddiad erbyn diwedd 2017. Bydd yr adoddiad terfynol yn ystyried ffyrdd o ddiwallu’r galw cynyddol am iechyd a gofal cymdeithsol, yn ogystal â disgwyliadau’r cyhoedd ynglŷn â’r gwasanaethau.  Mae’r panel adolygu wedi bod wrthi’n trafod â’r cyhoedd ac â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gael eu barn onest ac agored am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd Dr Ruth Hussey: 

“Yn ein hadroddiad interim annibynnol, rydym wedi canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd o ran gwella’r gwasanaethau presennol. Mae’r adrodiad yn disgrifio’r materion allweddol sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ein tyb ni, ac yn amlinellu ein cynigion cychwynnol ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

“Erbyn cyhoeddi ein hadroddiad terfynol ddiwedd y flwyddyn, ein nod yw cael rhesr o argymhellion y bydd cefnogaeth eang iddynt ac y bydd modd eu rhoi ar waith. Byddant yn argymellion a fydd yn rhoi’r cyfle gorau i Gymru sicrhau trefn gyflawn o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy a safonol, y mae gan y boblogaeth yr hawl i’w disgwyl.

“Rydym am glywed gan gynifer o phobl â phosibl i’n helpu i gyflawni rhan nesaf ein gwaith. Hoffem, yn arbennig, gael sylwadau ar yr achos o blaid newid, ar fodelau newydd ac ar y meysydd rydym wedi’u nodi fel rhai lle mae angen gweithredu."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Hoffwn ddiolch i Dr Hussey a’i thîm ac i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn hyd yma. Rwyf hefyd yn croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad.

“Roedd sefydlu’r Adolygiad Seneddol i Ddyfodol Tymor Hir Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn un o ymrwymiadau allweddol Symud Cymru Ymlaen.

“Mae hwn yn adroddiad interim llawn gweledigaeth. Mae’r panel, wrth reswm, yn cydnabod ymrwymiad enfawr y gweithlu iechyd a gofal, a llwyddiant sylweddol ei waith. Fodd bynnag, mae’n hollol amlwg bod achos o blaid newid y ffordd y dylai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu trefnu yn y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymateb yn ffurfiol i Aelodau’r Cynulliad yn y siambr yn nes ymlaen heddiw.”