Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwyso ar Brif Weinidog y DU i sefyll yn gadarn yn wyneb bygythiadau gan Donald Trump i gynyddu tariffau oni bai bod y DU yn cydymffurfio â dymuniad Arlywydd yr Unol Daleithiau i brynu'r Ynys Las.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn llythyr at Syr Keir Starmer, tanlinellodd Eluned Morgan bwysigrwydd cwmnïau Americanaidd i economi Cymru, a mynegodd ei dymuniad i sicrhau bod perthynas gref ac adeiladol gyda'r Unol Daleithiau yn parhau.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025, roedd allforion nwyddau o Gymru, ac eithrio cynhyrchion olew, i'r Unol Daleithiau yn werth £2.1bn. Mae dros fil o fusnesau Cymru, tua thraean o allforwyr Cymru, yn anfon nwyddau i'r Unol Daleithiau.

Mae cyfran uwch o allforion Cymru i'r Unol Daleithiau yn nwyddau nag yn achos gweddill y DU. Mae 59% o allforion Cymru i'r Unol Daleithiau yn nwyddau, o gymharu â 32% o allforion y DU yn gyffredinol.                                                                                                                                        
Dywedodd Eluned Morgan:

"Mae pobl ledled Cymru yn cael trafferth gyda'u costau byw eisoes – bydd tariffau uwch ond yn rhoi pwysau pellach ar fusnesau Cymru.

"Dw i wedi ysgrifennu at Syr Keir Starmer yn nodi y gallai tariffau ychwanegol effeithio'n anghymesur ar Gymru, a fyddai'n her i lawer o fusnesau yng Nghymru.

"Mae bygwth y defnydd o dariffau yn weithred annerbyniol ac ymosodol gan wlad rydyn ni'n ei hystyried yn ffrind ac yn bartner. Mae swyddi yng Nghymru yn y fantol, ac fel Prif Weinidog, fe fydda' i'n eu hamddiffyn i'r eithaf.

"Dw i'n cydnabod pwysigrwydd yr Unol Daleithiau i economi Cymru – mae tua 330 o gwmnïau'r Unol Daleithiau yng Nghymru, sy'n cyflogi ychydig dros 40,000 o bobl. Ond mae pwynt yn dod lle mae'n rhaid parchu egwyddor. Pobl yr Ynys Las a Denmarc ddylai fod yn penderfynu ar ddyfodol yr ynys, ac mae'n rhaid dilyn cyfraith ryngwladol.

"Allwn ni ddim parhau i gael ein bygwth â mwy o dariffau gan Donald Trump. Ar yr adeg dyngedfennol hon, mae'n rhaid inni sefyll gyda'n cyd-wledydd a thros y gwerthoedd sy'n annwyl inni."