Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynllun newydd a luniwyd i wella cyfle unigolyn i oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty a gwella ohono.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yn amlinellu'r camau allweddol y dylid eu cymryd i wella cyfle unigolyn i oroesi ataliad y galon.

Mae'r camau, sef y Gadwyn Oroesi, yn cynnwys:

  • Adnabod ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn syth a galw am help
  • Adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) cynnar i arbed amser 
  • Diffibrilio cynnar i ailgychwyn y galon 
  • Mynediad cyflym at sgiliau dadebru uwch
  • Gofal prydlon o safon uchel ar ôl dadebru
  • Cludiant i’r ysbyty priodol agosaf
  • Gwasanaethau adsefydlu cydgysylltiedig.

Yn ogystal â'r Gadwyn Oroesi, mae'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yn amlygu'r manteision o hyrwyddo sgiliau achub bywydau mewn ysgolion ac yn cadarnhau y gall pob dysgwr yng Nghymru ddysgu am driniaethau cymorth brys drwy wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Mae'r cynllun hefyd yn annog defnyddio diffoddwyr tân a gwasanaethau achub eraill i ymateb i achosion o ataliad y galon hyd nes y bydd y gwasanaethau ambiwlans yn cyrraedd. Mae hyn wedi gwella'r amseroedd ymateb a chanlyniadau'r cleifion.

Fel rhan o'r gwaith i barhau i weithredu'r cynllun hwn, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i fapio'r sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant ar sut i roi CPR mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl Cymru yn cael pob cyfle i oroesi ataliad y galon, a'u bod hefyd yn dysgu sgiliau CPR ac yn cael adnoddau fel diffibrilwyr i'w galluogi i achub bywydau.

Dywedodd Vaughan Gething: “Hoffwn ddiolch i bawb fu'n cydweithio ar y cynllun hwn ac yn rhan o'r gwaith o'i ddatblygu.

“Wrth i bob munud fynd heibio, amcangyfrifir bod cleifion 10% yn llai tebygol o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, ymatebodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 5,800 o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac o'r rheini, bu'n rhaid ceisio dadebru 2,832 ohonynt.

“Mae'r nifer sy'n goroesi yn isel ar hyn o bryd, ond mae'n bosibl achub llawer mwy o fywydau drwy roi CPR a defnyddio diffibrilwyr yn gynnar yn amlach. Dyma pam mae'r cynllun hwn mor bwysig.

“Gall sefyllfa lle bydd angen gweithredu i helpu i achub bywyd aelod o'r teulu, ffrind, cydweithiwr, cymydog neu ddieithryn godi ar unrhyw bryd. Byddai darparu sgiliau a gwybodaeth yn galluogi pobl i ddechrau'r gadwyn oroesi mor gynnar â phosibl a rhoi'r cyfle gorau i berson sy'n dioddef ataliad y galon oroesi.

“Mae angen inni sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bawb ym mhob cymuned ledled Cymru.”

Dywedodd Arweinydd Ymgysylltu Gwasanaethau Iechyd Sefydliad Prydeinig y Galon, Cymru, Joanne Oliver:

"Rydym yn falch iawn o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r rheini sy'n ddioddef ataliad y galon, a'r rheini sydd mewn perygl o'i ddioddef."

"Mae ataliad y galon yn achos meddygol brys difrifol lle nad yw'r galon yn pwmpio gwaed o amgylch y corff ac oni bai bod triniaeth yn cael ei roi i'r claf yn syth, mae'n arwain at farwolaeth o fewn munudau. Y gyfradd oroesi gyffredinol yn y DU ar gyfer y rheini sy'n dioddef o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ar hyn o bryd yw llai nag 1 o bob 10".

"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd ac mae'n rhaid i'r buddsoddiad mewn ymchwil i ddiagnosis a thriniaeth cyflyrau cardiofasgwlaidd barhau'n flaenoriaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i weithredu'r cynllun hwn a mesur ei ganlyniadau."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Meddygol a Chlinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Dr Brendan Lloyd:

"Mae pob munud yn bwysig pan fo rhywun yn dioddef o ataliad y galon, ac rydyn ni'n credu bod y cynllun hwn yn gam pwysig ymlaen i wella cyfraddau goroesi'r rheini sy'n dioddef o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru.

"Nod ein model ymateb clinigol newydd, ein gwaith gydag asiantaethau partner a'n rhwydwaith o wirfoddolwyr ymroddedig o Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol yw darparu'r ymyrraeth gynharaf posibl i gleifion sy'n dioddef o gyflyrau lle mae bywyd yn y fantol, gan gynnwys y rheini sy'n dioddef o ataliad y galon.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wella canlyniadau clinigol i gleifion ar draws y wlad ac rydyn ni'n falch iawn y bydd y cynllun yn ein galluogi i adeiladu ar hyn drwy gynnal ymchwil pellach ac arloesi, a chasglu data safonedig i fesur ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu.

"Byddwn hefyd yn parhau i hyrwyddo cysylltiadau allweddol yn y gadwyn oroesi fel CPR a diffibrilio cynnar yn ein cymunedau."