Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Ionawr 2024.

Cyfnod ymgynghori:
17 Hydref 2023 i 9 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn am y cynlluniau i ddiwygio’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer Dogfen Gymeradwy Rhan B (Diogelwch Tân).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn cynnig:

  • diwygio'r gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau llosgadwy yn waliau allanol adeiladau neu arnynt 
  • pennu terfynau ar y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy ar adeiladau penodol dros 11m
  • cyflwyno System Rhybudd i Wacáu
  • cyflwyno Blychau Gwybodaeth Diogel ym mhob bloc newydd o fflatiau sydd â llawr 11m uwchlaw lefel y ddaear neu'n uwch
  • cyflwyno dulliau o adnabod lloriau ac arwyddion tywys
  • gwneud diwygiad ynglŷn â chyfeiriadau at BS EN 13501 a BS 476 
  • cais am dystiolaeth ynglŷn â nifer y setiau o risiau mewn adeiladau a dileu pob cyfeiriad at ddosbarthiadau tân BS 476 yn Nogfen Gymeradwy B

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 585 KB

PDF
585 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad effaith rheoleiddio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 473 KB

PDF
473 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Help a chymorth

Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch enquiries.brconstruction@llyw.cymru