Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn gwella diogelwch cleifion, mae gan fwy o fferyllwyr a meddygon mewn ysbytai fynediad electronig erbyn hyn i gofnodion cleifion sy’n cael eu cadw gan feddygon teulu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: 
Mae’r newid hwn yn golygu y bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, o’r mis hwn ymlaen, yn sicrhau bod gwybodaeth allweddol o gofnodion cleifion y meddygon teulu ar gael yn electronig at ddibenion gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys yn ystod apwyntiadau cleifion allanol. Cyn nawr, dim ond fferyllwyr a meddygon mewn lleoliadau gofal brys, megis adrannau damweiniau ac achosion brys, oedd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth hon.  
“Mae’r newid hwn yn golygu y bydd gwybodaeth hanfodol ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, waeth sut mae’r claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty. Bydd hyn yn helpu staff gofal iechyd i ddarparu gofal mwy diogel, yn enwedig o ran rheoli’r meddyginiaethau a roddir i’r claf.”

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Meddygon Teulu, BMA Cymru:
“Drwy’r Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol (NIIAS) newydd, ac ymrwymiad ffurfiol y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd i fonitro mynediad i gofnodion cleifion gan ddefnyddio’r system hon, mae’r Pwyllgor wedi cael sicrwydd llawn y bydd yn ddiogel ehangu mynediad fel hyn ac y bydd yn haws darparu gofal clinigol mwy diogel i’r cleifion.”

Dywedodd Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Meddygol yng Ngwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru:
“Dw i wrth fy modd ein bod ni yng Ngwasanaeth Gwybodeg y GIG, mewn partneriaeth â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, wedi gallu darparu’r adnodd newydd hwn yn rhan o’r feddalwedd glinigol sydd ar waith yn genedlaethol yn ein hysbytai. 
“Drwy ehangu mynediad at gofnodion meddygon teulu, bydd hi’n haws i staff gofal iechyd ddarparu gofal mwy diogel, a bydd yn arbed amser wrth iddyn nhw geisio gael yr wybodaeth gywir am y cleifion y maen nhw’n gofalu amdanynt. Bydd hynny’n rhyddhau amser iddyn nhw ganolbwyntio ar anghenion y claf ei hun. Bydd y cleifion a hefyd y staff ar eu hennill.”   
Mae rheolaethau llym ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth am y cleifion yn ddiogel. Bob amser y bydd rhywun yn mynd at gofnod claf drwy’r gronfa ddata ddiogel, bydd yna gofnod o hynny a fydd yn hawdd ei archwilio. 

Bydd yr aelod o staff gofal iechyd sy’n gofalu am y claf yn gofyn iddo am ei ganiatâd i edrych ar ei gofnodion, a bydd caniatâd yn cael ei geisio ar gyfer pob ymgynghoriad. Hefyd, drwy siarad â’u meddyg teulu, bydd cleifion yn gallu dewis peidio â bod yn rhan o’r system o gwbl os ydynt yn dymuno hynny.