Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynghylch rhent sy’n cael ei dalu yn y sector rhentu preifat ar 2017.

 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfartaledd (cymedr), canolrif, chwartel isaf, a chwartel uchaf rhent misol a delir am nifer o gategorïau ystafelloedd gwely/ystafelloedd yng Nghymru gyfan ac mewn awdurdodau lleol unigol yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2017.

Mae’r wybodaeth yn y adroddiad wedi’i seilio ar wybodaeth a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod unigol. Mae’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata trafodion yn unig, lle mae rhent wedi’i dalu, ac nid yw’n cynnwys achosion lle gwyddom fod budd-dal tai yn cael ei dalu.

Mae’r ystadegau yn y adroddiad wedi’u seilio ar ddata heb eu haddasu i fod yn gynrychioladol o’r farchnad rhentu eiddo preifat yng Nghymru. Yn sgil amrywiadau yng nghyfansoddiad y sampl, nid oes modd cymharu’r cyfartaledd syml o ardal i ardal neu dros gyfnod o amser.

Prif bwyntiau

  • Dros y deuddeg mis rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2017 roedd canolrif y pris rhentu preifat ar gyfer eiddo ar draws Cymru yn amrywio rhwng £325 y mis am fflat un ystafell neu ystafell sengl heb fod yn annibynnol i £750 y mis am eiddo mwy, pedair ystafell wely gan gynnwys tai, byngalos a fflatiau.
  • Yn ystod 2017, roedd y rhan fwyaf o renti a gofnodwyd ar gyfer eiddo 2 a 3 ystafell wely, a chanolrif y rhent yn £500 a £550.
  • Ar lefel awdurdod lleol, roedd canolrif y rhent a gofnodwyd yn 2017 yn amrywio rhwng £240 y mis am ystafell sengl heb fod yn annibynnol yn Rhondda Cynon Taf a £1100 y mis am eiddo mawr pedair ystafell wely yng Nghaerdydd.

Adroddiadau

Rhenti yn y sector preifat, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 861 KB

PDF
Saesneg yn unig
861 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.