Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynghylch rhent sy’n cael ei dalu yn y sector rhentu preifat ar gyfer 2018.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfartaledd (cymedr), canolrif, chwartel isaf, a chwartel uchaf rhent misol a delir yng Nghymru fesul nifer yr ystafelloedd gwely. Cyflwynir y wybodaeth ar gyfer Cymru ac ar lefel awdurdod lleol.  Casglwyd y data a ddefnyddir yn yr adroddiad yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2018. 

Mae’r wybodaeth yn y adroddiad wedi’i seilio ar wybodaeth a roddwyd i ni gan landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod unigol. Nid yw’r rhent ar gyfer eiddo mewn achosion lle gwyddom fod budd-dal tai yn cael ei dalu wedi eu cynnwys.

Mae’r ystadegau yn y adroddiad wedi’u seilio ar ddata heb eu haddasu i fod yn gynrychioladol o’r farchnad rhentu eiddo preifat yng Nghymru. Yn sgil amrywiadau yng nghyfansoddiad y sampl, nid oes modd cymharu’r cyfartaledd syml o ardal i ardal neu dros gyfnod o amser.

Prif bwyntiau

  • Dros y deuddeg mis rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2018 y canolrif pris rhentu preifat isaf ar gyfer eiddo ar draws Cymru oedd £325 y mis am fflat un ystafell neu ystafell sengl heb fod yn annibynnol. Y canolrif pris rhentu  preifat uchaf oedd £750 y mis am eiddo mwy, pedair ystafell wely gan gynnwys tai, byngalos a fflatiau.
  • Yn ystod 2018, roedd y rhan fwyaf o renti a gofnodwyd ar gyfer eiddo 2 a 3 ystafell wely, a chanolrif y rhent yn £511 a £550.
  • Ar lefel awdurdod lleol, y canolrif rhent isaf a gofnodwyd yn 2018 oedd £260 y mis am ystafell sengl heb fod yn annibynnol yn Rhondda Cynon Taf a’r canolrif rhent uchaf oedd £1200 y mis am eiddo mawr pedair ystafell wely yng Nghaerdydd.

Adroddiadau

Rhenti yn y sector preifat, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 868 KB

PDF
Saesneg yn unig
868 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.