Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw’r newid mwyaf mewn cyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

Bydd y gyfraith newydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen. Bydd yn gwella sut rydym yn rhentu, yn rheoli, ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch beth mae’r newid yn y gyfraith yn ei olygu, rydym eisoes wedi darparu dogfennau canllaw cyffredinol i landlordiaid a thenantiaid (a elwir yn ddeiliaid contract o dan y Ddeddf newydd), gan gynnwys fersiwn hawdd ei deall o’r ddogfen ganllaw gyffredinol i denantiaid a thudalen cwestiynau cyffredinol ychwanegol i landlordiaid a thenantiaid. Dylid darllen y dogfennau hyn gyda’i gilydd a byddant yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnoch. 

Mae’r tabl isod yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol o’r pethau mae’n rhaid i landlordiaid eu gwneud i gydymffurfio â’r gyfraith newydd a phresennol, a’r dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud y pethau hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y dolenni uchod.

 

Rhestr wirio i landlordiaid a thenantiaid

Gofyniad

Darpariaeth Statudol

Gofyniad ar gyfer contractau newydd o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen

Gofyniad ar gyfer contractau wedi’u trosi (cytundebau yn eu lle cyn 1 Rhagfyr 2022)

Darparu datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad y contract

Adran 31 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

O fewn 14 diwrnod i’r dyddiad meddiannu (sef y dyddiad y gall deiliad y contract symud i mewn i’r annedd).

Erbyn 31 Mai 2023.

Fodd bynnag, byddai'n arfer da darparu'r datganiad ysgrifenedig yn gynt.

Dylid rhoi hysbysiad o wybodaeth am y landlord (neu asiant) i ddeiliad y contract – ffurflen RHW2

 

Adrannau 39 i 40 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

O fewn 14 diwrnod i’r dyddiad meddiannu.

Erbyn 31 Mai 2023.

Fodd bynnag, byddai'n arfer da darparu'r wybodaeth yn gynt.

 

Darparu copi dilys o dystysgrif perfformiad ynni ar gyfer yr annedd i ddeiliad y contract

Adran 6, Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012

Marchnata eiddo i’w osod, a darparu copi i ddeiliad y contract ar ddechrau’r contract.

Lle bo angen, dylai hyn fod wedi cael ei ddarparu ar ddechrau'r denantiaeth sy'n cael ei throsi. Nid oes angen ailddarparu’r dystysgrif perfformiad ynni yn sgil trosi'r denantiaeth.

Darparu gwybodaeth am flaendal cadw i ddarpar ddeiliad y contract (darparu hawl cynnig cyntaf tra cynhelir gwiriadau ar annedd).  

Atodlen 2, Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru 2019 a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Darparu gwybodaeth cyn talu blaendal cadw.  Ad-dalu’r blaendal cadw 15 diwrnod wedi iddo gael ei dalu, fel arfer.

Mae hon yn ddyletswydd gyfreithiol bresennol y dylai'r landlord fod wedi cydymffurfio â hi eisoes. Nid oes angen ailddarparu’r wybodaeth.

Diogelu blaendaliad mewn cynllun blaendalu awdurdodedig – a darparu gwybodaeth i ddeiliad y contract

Adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022

O fewn 30 diwrnod i ddeiliad y contract dalu’r blaendal

Mae hon yn ddyletswydd gyfreithiol bresennol y dylai'r landlord fod wedi cydymffurfio â hi eisoes. Does dim angen ail-ddiogelu’r blaendal.

Annedd yn bodloni safonau ar Ffitrwydd i fod yn Gartref (FFHH)

Adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i fod yn Gartref) (Cymru) 2022

Mae'r annedd yn bodloni safonau FFHH o'r dyddiad meddiannu.

 

Mae hyn yn cynnwys presenoldeb larymau mwg wedi’u weiro i’r prif gyflenwad, larymau carbon monocsid lle bo angen ac Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (ECR)

 

Mae'r annedd yn bodloni safonau FFHH o ddyddiad trosi’r denantiaeth.

 

Mae hyn yn cynnwys larymau carbon monocsid lle bo angen.

 

Mae gan landlordiaid ddeuddeg mis, tan 30 Tachwedd 2023, i osod larwm neu larymau mwg wedi'i weiro i'r prif gyflenwad a sicrhau bod ECR yn cael ei ddarparu ar gyfer yr annedd.

Darparu copi o Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (ECR) dilys i ddeiliad y contract

Rheoliad 6, Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i fod yn Gartref) (Cymru) 2022

O fewn 14 diwrnod i’r dyddiad meddiannu (ac o fewn 14 diwrnod i archwiliadau cyflwr gosodiadau trydanol dilynol)

O fewn 14 diwrnod i 30 Tachwedd 2023

Darparu copi o Dystysgrif Diogelwch Nwy ddilys i ddeiliad y contract

Rheoliad 36, Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998

Cyn meddiannaeth (a thystysgrifau blynyddol dilynol o fewn 28 diwrnod i archwiliadau)

Mae hon yn ddyletswydd gyfreithiol bresennol y dylai'r landlord fod wedi cydymffurfio a hi eisoes. Nid oes angen ailddarparu’r Dystysgrif Diogelwch Nwy yn sgil trosi'r denantiaeth.