Neidio i'r prif gynnwy

Rhentu Doeth Cymru sy’n ymdrin â’r broses o gofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau gosod eiddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i bob landlord gofrestru er mwyn gosod eiddo ar rent a rhaid i bob asiant gosod eiddo gael trwydded.

Landlordiaid ac asiantau gosod eiddo

Os ydych yn landlord neu’n asiant sy’n gosod eiddo ar rent neu’n rheoli llety, mae angen trwydded arnoch.

Cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru

I gael trwydded i osod llety ar rent, mae angen ichi gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.

Gosod llety ar rent heb drwydded

Mae’n anghyfreithlon gosod llety ar rent neu ei reoli heb drwydded. Os na fyddwch wedi’ch cofrestru ac wedi cael trwydded, gallech gael cosb benodedig, neu gellid mynd â chi i’r llys neu godi dirwy arnoch.

Tenantiaid

Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu gwasanaethau gwybodaeth i denantiaid:

  • beth i’w ystyried wrth rentu cartref
  • eich hawliau
  • eich cyfrifoldebau
  • gwirio bod eich landlord wedi’i gofrestru
  • gwirio bod eich landlord wedi’i drwyddedu
  • gwirio bod eich asiant gosod eiddo wedi’i gofrestru