Neidio i'r prif gynnwy

Mae pridd yn adnodd hanfodol sy’n cynnal bywyd ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hollbwysig i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae pridd yn adnodd hanfodol sy’n cynnal bywyd ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hollbwysig i Gymru.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • cynhyrchu bwyd a ffibr
  • rheoleiddio dŵr
  • cyfraniadau i reoli hinsawdd
  • hybu bioamrywiaeth

Mae ein pridd dan fygythiad oherwydd:

  • newid hinsawdd
  • ein hymadawiad o'r UE
  • newid defnydd tir yn y dyfodol

Mae angen polisi pridd sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn:

  • cadw a gwella'r adnodd gwerthfawr hwn
  • helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur
  • gwella'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Datganiad polisi pridd

Mae datganiad polisi pridd drafft yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer defnyddio a rheoli priddoedd amaethyddol yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r datganiad polisi pridd yn nodi’r hyn y mae angen inni fynd i’r afael ag ef er mwyn cyflawni rheolaeth gynaliadwy o bridd. Byddwn yn datblygu'r amcanion hyn drwy:

  • adolygu tystiolaeth gyfredol
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bridd

Rydym ar hyn o bryd yn gwahodd rhanddeiliaid o’r gymuned amaethyddol i gymryd rhan i ddylunio’r datganiad polisi - Dywedwch wrthym beth yw eich barn ar sut i reoli priddoedd.

Adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru

Rydym yn cynhyrchu adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru o nifer o ffynhonnellau gan gynnwys: 

Mae priddoedd yng Nghymru yn uchel mewn carbon. Yn gyffredinol, ystyrir bod y gyfran uchel o systemau glaswelltir yng Nghymru yn risg isel i ddiraddio pridd. Gall colli carbon pridd a bioamrywiaeth, erydu a chywasgu pridd ddigwydd mewn ardaloedd lle:

  • mae rheolaeth tir amhriodol
  • mae newid o ddefnydd tir

Yn y dyfodol, mae newid hinsawdd yn debygol o effeithio ar briddoedd. Felly, bydd y ffactorau sy'n ysgogi newid defnydd tir yn dod yn fwy dwys. Ond mae yna gyfleoedd gan y gall rhai o’r newidiadau hyn gael effeithiau cadarnhaol ar:

  • yr hinsawdd
  • diogelwch bwyd
  • yr amgylchedd

Rhaglen Dystiolaeth Polisi Pridd

Rhaglen Dystiolaeth y Polisi Pridd:

  • yn cynnwys adolygiadau ac asesiadau polisi-berthnasol o gyflwr ein pridd a'n tir
  • ystyried effeithiau rheolaeth amaethyddol a newid yn yr hinsawdd ar briddoedd yn awr ac yn y dyfodol

Bydd yr Adolygiad o dystiolaeth pridd Cymru yn rhoi trosolwg o brif ganlyniadau'r adroddiadau.