Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg

Ym mis Mawrth 2022, comisiynodd Llywodraeth Cymru IFF Research i gynnal prosiect ymchwil archwiliadol ar raddfa fach i ddeall yn well ymwybyddiaeth busnesau Cymru o Reolau Tarddiad (RhT) ac unrhyw brofiadau o’u defnyddio. Yn benodol, cyd-destun yr ymchwil oedd allforio o’r DU i’r UE yn dilyn y bartneriaeth newydd a sefydlwyd drwy Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU (TCA).

Mae’r TCA yn nodi partneriaeth economaidd a chymdeithasol newydd rhwng y DU a’r UE, gan gynnwys Cytundeb Masnach Rydd (FTA). Mae'r FTA yn nodi trefniadau ffafraethol mewn meysydd fel masnach nwyddau a gwasanaethau. Mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer tariffau sero a chwotâu sero ar bob cynnyrch sy'n cydymffurfio â'r RhT priodol.

Fel rhan o’r drafodaeth TCA, cafwyd hawddfraint RhT o flwyddyn, neu gyfnod gras, i allforwyr y DU hyd at 31 Rhagfyr 2021 o ran ardystio tarddiad cydrannau a oedd yn rhan o’u nwyddau gweithgynhyrchu. Cynlluniwyd hyn i roi amser i fusnesau ddeall, addasu a gwneud y gwaith gweinyddol angenrheidiol yn ymwneud â RhT.

Nod yr ymchwil oedd adeiladu ar ymchwil blaenorol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ofynion RhT i brif nwyddau diwydiannol Cymru. Yr amcanion ymchwil oedd archwilio’r meysydd canlynol gyda busnesau a sefydliadau cyrff masnach:

  • ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o RhT yng nghyd-destun y newidiadau i drefniadau masnachu gyda'r UE
  • profiadau o’r diwygiadau sydd eu hangen i addasu i newidiadau RhT
  • unrhyw heriau a wynebir o dan drefniadau masnachu newydd yr UE
  • unrhyw gymorth neu wybodaeth a geisir am RhT, ac unrhyw fylchau yn y cymorth sydd ar gael i fusnesau.

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau nifer fach o gyfweliadau lled-strwythuredig ansoddol (n:7) gyda nifer fach o fusnesau Cymreig (n:6) ac un corff masnach. Bwriad yr ymchwil yw rhoi rhywfaint o fewnwelediad cychwynnol i Lywodraeth Cymru gan randdeiliaid i helpu i lywio camau gweithredu a chamau nesaf yn y maes hwn, gan gynnwys darparu cymorth priodol i fusnesau.

Canfyddiadau

Nid yw natur ansoddol graddfa fach y cynllun ymchwil yn caniatáu i’r awduron wneud sylwadau cyffredinol ar ymwybyddiaeth a gwybodaeth busnesau Cymreig o RhT. Roedd y nifer cyfyngedig o gyfweliadau yn golygu nad oedd yn bosibl cynnal dadansoddiad fesul sector, maint nac unrhyw is-grŵp arall. Dylid ystyried y canfyddiadau fel rhai dangosol.

Roedd gan y busnesau a gyfwelwyd ymwybyddiaeth gyffredinol dda o RhT, fodd bynnag roedd dealltwriaeth gymysg o dermau penodol a chyfnod yr hawddfraint

Er bod pob busnes a gyfwelwyd yn deall RhT yn gyffredinol, roedd gwybodaeth fanwl yn amrywio rhwng busnesau. I’r busnesau hynny a gyfwelwyd, gellid esbonio lefel eu gwybodaeth, mewn rhai achosion, gan faint yr adnoddau oedd ar gael iddynt i ddeall a rheoli RhT a datblygiadau eraill (e.e. yn ymwneud ag Ymadael â’r UE, FTAs a newidiadau CThEF yn ehangach). Roedd busnesau a oedd yn rhoi rheolaeth RhT ar gontract allanol i asiant allforio hefyd yn tueddu i fod â llai o wybodaeth a dealltwriaeth o RhT na'r rhai a oedd yn eu rheoli'n fewnol

Roedd pob busnes a gyfwelwyd yn ymwybodol o ofynion tystysgrifau tarddiad a chodau nwyddau - ni nododd y busnesau unrhyw anawsterau nac ansicrwydd cyfatebol pan holwyd hwy. Roedd dealltwriaeth gyffredinol dda o beth oedd trefniadau cronni ymhlith y busnesau a gyfwelwyd, ond roedd dealltwriaeth fanwl o'r trefniadau hyn yn llai cyffredin. Roedd ymwybyddiaeth gymysg ymhlith cyfweleion o gyfnod hawddfraint RhT ac nid oedd y busnesau a gyfwelwyd yn gyfarwydd â chosbau CThEF am ddiffyg cydymffurfio ac anghywirdebau. Ni nododd unrhyw fusnes eu bod yn defnyddio rheolau cynnyrch-benodol.

Ni nododd yr ymchwil unrhyw anawsterau penodol yn y broses o fusnesau yn addasu a llywio drwy’r RhT

Datgelodd y broses recriwtio a ddefnyddiwyd i nodi busnesau ar gyfer y sampl fod nifer fach o fusnesau nad oeddent yn defnyddio RhT wedi eu rhwystro rhag gwneud hynny oherwydd diffyg gwybodaeth. Roedd llai fyth yn cael eu rhwystro gan gostau a phrosesau cysylltiedig.

Yn gyffredinol, adroddodd busnesau o fewn y sampl a oedd yn defnyddio RhT nad oedd angen iddynt wneud newidiadau mawr o ganlyniad, nac unrhyw newidiadau i'w harferion allforio neu fewnforio. Roedd hyn naill ai oherwydd eu bod wedi treulio amser yn paratoi ar gyfer y newidiadau, neu oherwydd nad effeithiwyd ar eu model busnes.

Ni nododd y busnesau a gyfwelwyd unrhyw anawsterau penodol wrth lywio drwy'r RhT. Fodd bynnag, roedd gan y busnesau hynny a oedd yn dibynnu ar asiantau ddealltwriaeth gyfyngedig o RhT ar y cyfan, ac yn yr un modd, roeddent yn meddwl bod y prosesau'n gymhleth, yn anodd eu cyfrifo ac yn anodd mewnbynnu gwybodaeth. Nid oedd y busnesau hyn yn ymwneud â gweinyddiaeth RhT eu hunain, ac yn lle hynny roeddent yn dibynnu ar gyngor arbenigwyr cyflogedig.

Ni nododd y busnesau a gyfwelwyd unrhyw fylchau mewn arweiniad neu gymorth ychwanegol, na galw amdanynt (yn ymwneud â RhT)

Ni ddywedodd y busnesau a gyfwelwyd eu bod wedi ceisio na chael mynediad at lawer o arweiniad na chymorth RhT. Teimlai busnesau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl gymorth yr oedd ei angen arnynt. Mewn rhai achosion, roedd hyn oherwydd eu bod yn cyflogi asiantau allforio i reoli RhT ar eu rhan.

Ymchwil yn y dyfodol

Bu'r AMC yn arf defnyddiol ar gyfer nodi a recriwtio busnesau sy'n fodlon cymryd rhan yn ymchwil Llywodraeth Cymru. Byddai unrhyw ymchwil yn y dyfodol yn cael ei atgyfnerthu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid megis asiantau a chyrff masnach, a chasglu data o sampl mwy o fusnesau yn ogystal â’r rhai nad ydynt eisoes yn defnyddio tariffau ffafraethol a RhT wrth allforio. Nodwyd hefyd y byddai ymgysylltu â chyrff masnach wrth recriwtio cyfranogwyr ymchwil yn ddull posibl ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Ymchwilydd: Mair Smith

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 32/2023
ISBN digidol 978-1-80535-719-3

Image
GSR logo