Cynllun trwyddedu newydd a fydd yn gwella safonau hylendid a diogelwch ar gyfer triniaethau arbennig.
Cynnwys
Cyd-destun
O 29 Tachwedd 2024, mae rheolau trwyddedu newydd ar waith ar gyfer y triniaethau arbennig canlynol yng Nghymru:
- aciwbigo (yn cynnwys nodwyddo sych)
- tyllu'r corff (gan gynnwys y glust)
- electrolysis
- tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)
Mae'n bwysig bod mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y triniaethau hyn. Gall peidio â dilyn mesurau o'r fath gynyddu'r risg o heintiau ar gyfer cleientiaid a deiliaid trwyddedau. Gallai hyn arwain at gymryd camau cyfreithiol.
Beth mae angen i chi ei wybod
Pwrpas y cynllun trwyddedu yw:
- gwella safonau hylendid a diogelwch
- sicrhau bod safonau o'r fath yn gyson ar draws Cymru
- helpu i amddiffyn iechyd cleientiaid
- eu cefnogi i ddewis unigolion trwyddedig sy'n gweithredu o fangreoedd a cherbydau cymeradwy
Trwydded triniaeth arbennig
Rhaid i berson sy'n cyflawni unrhyw un o'r 4 triniaeth arbennig ddynodedig, wneud cais am drwydded triniaeth arbennig. Rhaid iddyn nhw wneud cais i'w hawdurdod lleol. Mae hyn yn berthnasol i bob unigolyn a oedd wedi cofrestru yn flaenorol i gyflawni triniaethau o'r fath, a phob ymgeisydd newydd.
Tystysgrif cymeradwyo mangreoedd a cherbydau
Mae'n rhaid i unigolion wneud cais i'w hawdurdod lleol am dystysgrif gymeradwyo os ydynt:
- yn gyfrifol am fangre neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn
- yn rheoli busnes triniaeth arbennig
Y gofynion sy’n gysylltiedig â gwneud cais
Bydd angen i unigolion fodloni meini prawf penodol cyn gwneud cais am drwydded neu dystysgrif gymeradwyo os ydynt:
- yn ymarferydd unigol
- yn gyfrifol am fangre neu gerbydau
Cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol
Bydd cyfnod pontio pan ddaw'r cynllun trwyddedu i rym. Bydd hyn yn caniatáu i ymarferwyr a busnesau a oedd wedi cofrestru o’r blaen o dan yr hen gynllun cofrestru i barhau i ymarfer yn y tymor byr. Bydd awdurdodau lleol yn hysbysu'r unigolion hynny os ydynt yn cael trwydded dros dro neu dystysgrif gymeradwyo dros dro.
Bydd angen i unigolion gyflwyno eu ffurflen gais o dan y cynllun newydd erbyn 28 Chwefror 2025. Y rheswm dros hyn yw er mwyn gallu ei hasesu a'i phrosesu. Bydd awdurdodau lleol yn rhoi gwybod i unigolion am y canlyniad.
Os nad yw awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniad ar geisiadau erbyn 28 Chwefror 2025, bydd unigolion yn dal i allu parhau i ymarfer. Gallant barhau i ymarfer nes bod eu hawdurdod lleol yn dod i benderfyniad ar eu cais.
Gallai gymryd sawl mis i awdurdodau lleol asesu'r holl geisiadau wrth symud i'r cynllun trwyddedu newydd. Byddant hefyd yn delio â cheisiadau am drwydded neu dystysgrif gymeradwyaeth gan ymgeiswyr newydd.
Beth am bobl, mangreoedd a cherbydau nad ydynt erioed wedi cael eu cofrestru?
Bydd angen i unigolion nad ydynt erioed wedi cael eu cofrestru:
- wneud cais am drwydded ar gyfer eu hunain
- fod â thystysgrif gymeradwyaeth ar gyfer y safle/cerbyd y byddant yn gweithredu ohono
Ni allant ddechrau ymarfer na defnyddio'r fangre/cerbyd i ddarparu triniaethau arbennig nes bod eu hawdurdod lleol wedi cwblhau prosesu eu cais.
Nid yw'r trefniadau pontio yn berthnasol i unigolion nad ydynt erioed wedi cofrestru.
Dewis deiliad trwydded
Wrth ddewis artist tatŵ, neu ymarferydd aciwbigo, tyllu'r corff neu electrolysis, gwnewch yn siŵr:
- bod ganddynt drwydded triniaeth arbennig ddilys
- bod gan eu mangre neu gerbyd dystysgrif gymeradwyo
Arddangos trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo
Rhaid i ddeiliaid trwydded arddangos eu trwydded yn eu prif le gwaith neu wisgo eu trwydded lanyard. Rhaid i safleoedd a cherbydau cymeradwy hefyd arddangos eu tystysgrif gymeradwyaeth.
Cofrestr genedlaethol
Mae cofrestr genedlaethol wedi'i chreu i roi cyhoeddusrwydd i bob deiliad trwydded ddilys yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys deiliaid tystysgrif mangre a cherbydau cymeradwy.
Nod y gofrestr yw rhoi hyder i'r cyhoedd y bydd pob unigolyn sy'n ymddangos ar y gofrestr wedi'i drwyddedu neu ei gymeradwyo i weithredu yng Nghymru.
Bydd awdurdodau lleol yn diweddaru’r gofrestr hon wrth iddynt roi trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo.
Bydd y broses hon yn cael ei chynnal dros sawl mis.