Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu  (CCRhA) sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru yw’r Rheolau Ymddygiad hyn. Mae Gweinidogion Cymru wedi’u penodi’n awdurdod rheoleiddio ar gyfer CCRhA gan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984 (y Ddeddf). Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol wedi’u paratoi ac wedi’u cyhoeddi yn unol ag adran 58R o’r Ddeddf.

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn nodi’r safonau a’r arferion ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan CCRhA. Maen nhw’n ei gwneud yn ofynnol i CCRhA gynnal egwyddorion proffesiynol a moesegol craidd (yr Egwyddorion) a chydymffurfio â gofynion mewn perthynas ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol (y Safonau).

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn cymryd eu lle wrth wraidd y proffesiwn rheolaeth adeiladu a reoleiddir – sef proffesiwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi (y CCRhA) arddel cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol dros benderfyniadau, gweithredoedd ac ymddygiad eich sefydliad. Ar y cyd â hyn, mae’r Fframwaith Cymhwysedd i Arolygwyr Adeiladu wedi’i ddatblygu i nodi safonau cymhwysedd Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu.

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn gymwys i waith sy’n cael ei gyflawni gan CCRhA. Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn mabwysiadu’r diffiniadau a geir yn y Ddeddf, gan gynnwys:

  • Awdurdod rheoleiddio yn adran 58A
  • Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu yn adran 58N
  • Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn adran 58B
  • gweithgareddau cyfyngedig a swyddogaethau cyfyngedig yn adrannau 46A a 54B

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn defnyddio dull i reoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu sydd wedi’i seilio ar egwyddorion. Mae’r Egwyddorion yn nodi’r gofynion proffesiynol a moesegol craidd y mae’n rhaid i CCRhA eu cynnal. Mae’r Safonau yn ategu’r Egwyddorion, gan nodi gofynion ynglŷn ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol yr ydym yn disgwyl i CCRhA eu bodloni. Nid yw’r Safonau wedi’u bwriadu i fod yn rhestr gynhwysfawr o ofynion i sicrhau y cydymffurfir â’r Egwyddorion. Dylai CCRhA ddefnyddio canllawiau ac arfer ei farn broffesiynol wrth gymryd camau i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â holl ofynion y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol.

Gall torri’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol arwain at achos disgyblu, gan gynnwys canslo’ch cofrestriad.

Mae’n hanfodol eich bod yn darllen y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn llawn a’ch bod yn deall y Safonau a’r Egwyddorion y mae’n rhaid ichi gydymffurfio â nhw. Gall yr awdurdod rheoleiddio ddiwygio’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol a chyhoeddi’r diwygiadau hynny unrhyw bryd.

Yr Egwyddorion

Rhaid i CCRhA:

  1. Gweithredu’n onest
  2. Gweithredu gydag uniondeb 
  3. Cynnal cymhwysedd proffesiynol
  4. Darparu gwasanaethau â sgiliau a gofal proffesiynol
  5. Cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth gwasanaethau ac yn y proffesiwn
  6. Trin pawb yn deg a gweithredu yn unol â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol

Y Safonau

1. Cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a phroffesiynol

1.1       Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol:

a) wrth gyflawni gwaith
b) sy’n ymwneud â gorfodi cydymffurfiaeth sy’n gysylltiedig â swyddogaethau cyfyngedig, ac
c) sy’n gymwys i gyflawni’ch gweithgareddau busnes, er enghraifft atal gwyngalchu arian, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, diogelu data, a Deddf Cydraddoldeb 2010

1.2       Rhaid ichi gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, gan gynnwys y rhai a nodir yn yr Atodiadau ac unrhyw rwymedigaethau tuag at reoleiddwyr eraill, awdurdodau lleol neu gyrff proffesiynol.

1.3       Rhaid ichi gydymffurfio â rheoliadau adeiladu, a chanllawiau statudol a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio, ac ystyried arferion da lle bo’n briodol.

1.4       Rhaid ichi gadw annibyniaeth a didueddrwydd proffesiynol wrth gyflawni gweithgareddau gwaith.

1.5       Ni chaniateir ichi weithredu mewn modd sy’n debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu.

1.6       Rhaid ichi gymryd camau priodol i sicrhau bod gwaith a wneir gan unigolion o dan eich goruchwyliaeth yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol.

1.7       Pan gewch chi wybod bod Deddf Adeiladu 1984 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig megis Deddf Diogelwch Adeiladu 2022, Rheoliadau Adeiladu 2010, wedi’u torri, rhaid ichi ddefnyddio’ch swyddogaethau rheolaeth adeiladu i sicrhau y cydymffurfir â nhw. Os na allwch sicrhau cydymffurfiaeth o fewn amserlen resymol, rhaid ichi roi gwybod am waith nad yw’n cydymffurfio i’r awdurdod lleol perthnasol.

1.8       Rhaid ichi sicrhau bod y termau ‘cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu’. ‘CCRhA’, ‘arolygydd cofrestredig adeiladu’ ac ‘ACA’ yn cael eu defnyddio’n gywir.

1.9       Rhaid ichi sicrhau bod y termau ‘cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu’. ‘CCRhA’, ‘arolygydd cofrestredig adeiladu’ ac ‘ACA’ yn cydymffurfio â thelerau’ch cofrestriad.

2. Gofynion busnes

Ymdrin â rhwymedigaethau proffesiynol

2.1       Dim ond gwaith y mae gennych chi ac unrhyw bersonau sy’n gwneud gwaith ar eich rhan yswiriant addas ar ei gyfer y cewch chi ei wneud.

2.2       Rhaid ichi gydymffurfio’n llawn â gofynion eich yswiriant.

Priodoldeb ariannol

2.3       Rhaid ichi sicrhau bod cyllid proffesiynol yn cael ei reoli mewn modd cyfrifol.

2.4       Rhaid ichi sicrhau bod gennych chi reolaethau cyfrifyddu priodol.

2.5       Rhaid ichi gael gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau bod rheolaethau cyfrifyddu yn cael eu dilyn.

2.6       Ni chaniateir ichi hwyluso troseddau ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth neu efadu treth.

2.7       Rhaid ichi sicrhau bod gennych brosesau priodol ar waith i atal hwyluso troseddau ariannol.

2.8       Ni chaniateir ichi bennu prisiau penodol na chymryd rhan mewn arferion gwrth-  gystadleuol.

2.9       Rhaid ichi sicrhau bod eich costau proffesiynol yn deg a chymesur.

Polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig

2.10     Rhaid ichi gael polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig clir a hygyrch ynglŷn â’r canlynol:

  • gwrthdaro buddiannau
  • iechyd, diogelwch a lles
  • atal gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu’r chwiban
  • trin cwynion
  • dysgu a datblygu
  • ymddygiad staff
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

2.11     Rhaid ichi sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn gyfredol, gan adlewyrchu gofynion a chanllawiau’r ddeddfwriaeth gyfredol.

2.12     Rhaid ichi sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn cael eu darparu i bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.13     Rhaid ichi gael prosesau clir a hygyrch sy’n galluogi personau i godi pryderon o dan y polisïau hynny y cyfeirir atynt yn 2.10.

2.14     Rhaid ichi sicrhau bod gennych chi brosesau a gweithdrefnau ar waith i reoli unrhyw bryderon y cyfeirir atynt yn 2.10 yn briodol a’u datrys yn brydlon.

Gwrthdaro buddiannau

2.15     Rhaid ichi gael prosesau ar waith i nodi gwrthdaro buddiannau gwirioneddol a gwrthdaro buddiannau posibl, a hynny cyn cychwyn gweithgaredd gwaith ac yn ystod gweithgaredd gwaith.

2.16     Ni chaniateir ichi gytuno i wneud gwaith, na pharhau i wneud gwaith, pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi a heb ei ddatrys.

2.17     Pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi, rhaid ichi hysbysu’r ceisydd neu’r asiant a rhoi’r gorau i weithredu.

2.18     Rhaid ichi gyhoeddi’ch polisi ar wrthdaro buddiannau a sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd.

Defnyddio technoleg a rheoli data

2.19     Rhaid ichi gymryd camau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau mewn perthynas â defnyddio technoleg berthnasol i helpu i gyflawni’ch gwaith.

2.20     Yn ychwanegol at gydymffurfio â gofynion diogelu data, rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod data masnachol yn cael ei storio’n briodol.

Chwythu’r chwiban

2.21     Rhaid ichi gyhoeddi polisi ‘codwch eich llais’ neu bolisi chwythu’r chwiban sydd:

  • yn galluogi gweithwyr i godi pryderon yn gyfrinachol
  • yn hygyrch
  • yn amlwg yn cael ei gefnogi ar frig y sefydliad
  • yn cael ei hybu’n weithredol o fewn eich sefydliad

2.22     Ni chaniateir ichi weithredu mewn ffordd sy’n atal chwythu’r chwiban neu’n annog rhywun i beidio â chwythu’r chwiban.

2.23     Rhaid ichi sicrhau eich bod yn gweithredu prosesau a gweithdrefnau effeithiol i reoli a datrys pryderon a godir o dan y polisi chwythu’r chwiban.

2.24     Rhaid ichi roi ystyriaeth deg i bryderon chwythu’r chwiban sy’n dod i law a chadw cofnodion am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad yr adroddiad.

Trin cwynion

2.25     Rhaid ichi gyhoeddi’ch polisi ar drin cwynion a sicrhau ei fod ar gael yn hwylus i unrhyw bersonau y mae arnyn nhw angen dilys i weld polisïau o’r fath.

2.26     Rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli a datrys cwynion yn brydlon.

2.27     Rhaid ichi roi mesurau ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich gweithdrefn trin cwynion.

Diwylliant, ymddygiad staff ac ymddygiad personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan

2.28     Rhaid ichi roi prosesau a gweithdrefnau disgyblu priodol ar waith i fynd i’r afael yn effeithiol â phryderon mewn perthynas ag ymddygiad staff.

2.29     Rhaid ichi roi prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i fynd i’r afael yn effeithiol â phryderon a godir mewn perthynas ag ymddygiad personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.30     Rhaid ichi ddarparu gwybodaeth briodol i bobl sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan ar sut i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol.

2.31     Dylech gymryd camau i ategu diwylliant cynhwysol.

Dysgu a datblygu

2.32     Yn ychwanegol at y darpariaethau a geir yn Safon 3, rhaid ichi sicrhau bod pob cyflogai yn cael gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus rheolaidd a chyfredol ar y canlynol:

  • gofynion diogelu data 
  • atal gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • y Fframwaith Cymhwysedd i Arolygwyr Adeiladu

3. Cymhwysedd proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus 

3.1       Yn ddarostyngedig i Safon 3.5 isod, dim ond gwaith yr ydych chi (a chyflogeion perthnasol) wedi cofrestru ar ei gyfer ac y mae gennych y cymhwysedd angenrheidiol ar ei gyfer y cewch chi ei wneud.

3.2       Yn ddarostyngedig i Safon 3.5 isod, rhaid ichi sicrhau bod unrhyw berson sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan wedi’i gofrestru a bod ganddo’r cymhwysedd angenrheidiol.

3.3       Rhaid i chi sicrhau bod gan unrhyw berson sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan mewn rôl reoli dechnegol, neu oruchwylio gwaith technegol pobl eraill, â’r cymhwysedd a'r cofrestriad angenrheidiol i wneud hynny.

3.4       Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan sydd wrthi’n datblygu eu cymhwysedd rheolaeth adeiladu, o dan oruchwyliaeth ACA sydd wedi’i gofrestru ac sydd â’r cymhwysedd priodol.

3.5       Rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod cyflogeion sy’n ymgymryd â gwaith (gan gynnwys y rhai o dan raglen oruchwyliaeth) yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau datblygiad proffesiynol parhaus a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.6       Yn unol â Safon 3.5, rhaid ichi sicrhau bod gweithwyr sy’n ymgymryd â gwaith a phersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan (gan gynnwys y rhai o dan eich goruchwyliaeth chi) yn cael y canlynol:

  • hyfforddiant a chanllawiau perthnasol a chyfredol
  • goruchwyliaeth a chyngor
  • rhaglen strwythuredig o ddysgu a datblygu gan gynnwys canllawiau ar ddatblygiad proffesiynol parhaus a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio
  • digon o amser i fyfyrio’n ffurfiol ar eu hanghenion datblygu a digon o amser i gofnodi’r canfyddiadau a’r camau arfaethedig i ateb yr anghenion hyn yn unol â’r canllawiau datblygiad proffesiynol parhaus

3.7       Rhaid ichi fonitro effeithiolrwydd y prosesau a’r gweithdrefnau mewn perthynas â dysgu a datblygu, cymhwysedd a datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys cyfraddau cyfranogi.

3.8       Rhaid ichi gael prosesau ar waith sy’n sicrhau bod cofnodion dysgu a datblygu, cymhwysedd a gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus yn cael eu cadw am 15 mlynedd. Dylech sicrhau bod cofnodion o'r fath yn cael eu defnyddio i gefnogi cyn-weithwyr i ddangos cymhwysedd.

3.9       Rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod y personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio â chanllawiau datblygiad proffesiynol parhaus a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.10     Rhaid ichi sicrhau bod systemau ar waith i alluogi cyflogeion (a phersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan, pan fo’n berthnasol) i adnewyddu eu gwybodaeth am y polisïau a ganlyn ar adegau priodol:

  • gwrthdaro buddiannau
  • trefniadau yswiriant/atebolrwydd proffesiynol
  • trin cwynion
  • iechyd, diogelwch a lles
  • atal gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, atal llwgrwobrwyo, a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu’r chwiban
  • ymddygiad staff 
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

4. Safon gwasanaeth

4.1       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi weithredu:

  • yn deg ac yn wrthrychol
  • yn ddiwyd
  • yn gydwybodol
  • er budd y cyhoedd wrth ddelio ag unigolion, proffesiynau eraill, neu’r proffesiwn rheolaeth adeiladu

4.2       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi:

  • roi trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith
  • bod yn atebol am eich penderfyniadau
  • bod yn atebol am y dyletswyddau a’r tasgau rydych chi’n eu dirprwyo i bersonau yn eich sefydliad neu bersonau sydd wedi’u contractio gan eich sefydliad sydd wedi’u cynnwys mewn trefniadau llywodraethu
  • bod yn atebol am waith a gyflawnir o dan eich goruchwyliaeth

4.3       Rhaid ichi sicrhau bod mesurau priodol ar waith i reoli gweithgareddau gwaith,    sicrhau eu hansawdd a’u goruchwylio.

4.4       Rhaid ichi sicrhau bod pobl sy’n gwneud gwaith ar eich rhan yn deall:

  • y rolau sydd wedi’u dyrannu iddyn nhw
  • eu cyfrifoldebau
  • unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol iddynt

4.5       Rhaid ichi sicrhau nad yw cyngor neu benderfyniadau proffesiynol yn cael eu dylanwadu gan hunanfuddiannau, rhagfarn, tuedd, neu agenda bersonol.

4.6       Ni chaniateir ichi gytuno i ymgymryd â gwaith nad oes gennych amser a/neu adnoddau i’w gwblhau.

5. Ymwneud â cheisyddion neu asiantau 

5.1       Rhaid ichi gadarnhau manylion adnabod eich ceisydd neu’ch asiant a sicrhau eich bod yn cofnodi’r gwasanaethau y gofynnir amdanynt ac esbonio’r gwasanaethau y gallwch eu darparu.

5.2       Rhaid ichi gadarnhau a datgan unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys i’ch cofrestriad fel CCRhA.

5.3       Ni chaniateir ichi wneud unrhyw waith nes y bydd y ceisydd neu’r asiant wedi cael y llythyr telerau ymgysylltu, ac wedi cytuno mewn ysgrifen i’r darpariaethau yn y llythyr hwnnw, yn unol â’r manylion yn Atodiad 2.

5.4       Rhaid ichi hysbysu’r ceisydd neu’r asiant os oes unrhyw newidiadau yn y telerau mewn perthynas â’u gwaith. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon o gost neu amser pan gewch chi wybod am unrhyw newidiadau.

5.5       Rhaid ichi fod yn glir a thryloyw yn eich polisïau a’ch gweithdrefnau ac yn yr eglurhad ar y polisïau a’r gweithdrefnau hynny ac o ran sut y gwneir eich gwaith. Mae hyn yn golygu bod rhaid ichi gofnodi ac egluro:

  • sut mae’ch penderfyniadau wedi’u gwneud
  • sut y gallant gael eu herio
  • y broses a ddefnyddir i ddatrys problemau

5.6       Rhaid ichi drin gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth y ceisydd neu’r asiant yn gyfrinachol a pheidio â’i datgelu oni bai bod un neu ragor o’r canlynol yn gymwys:

a) wrth erlyn neu amddiffyn achos cyfreithiol
b) gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y ceisydd
c) pan fo hynny’n ofynnol neu’n cael ei awdurdodi yn ôl y gyfraith
d) er mwyn rhoi gwybod am drosedd neu roi gwybod bod y rheoliadau rheolaeth adeiladu wedi’u torri.

5.7       Rhaid ichi roi gwybod i’r ceisydd neu’r asiant y gall fod angen ichi ddatgelu gwybodaeth i’r awdurdod rheoleiddio, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr eraill.

5.8       Yn ddarostyngedig i’r hawl i gadw taliad sydd yn yr arfaeth, rhaid ichi roi’r holl wybodaeth berthnasol a chopi o’i ffeil i’r ceisydd ar gais. Nid yw’r Safon hon yn gofyn i unrhyw wybodaeth gael ei datgelu na chaniateir iddi gael ei datgelu’n gyfreithlon.

5.9       Rhaid ichi gofnodi a chadw:

  • yr holl dystiolaeth
  • yr holl gyfarwyddiadau
  • yr holl gyngor 
  • yr holl ddyfarniadau a phenderfyniadau proffesiynol

ynglŷn â’r gweithgareddau gwaith a gyflawnwyd am 15 mlynedd o ddyddiad y cyfarwyddiadau neu yn unol â’ch polisïau yswiriant, p’un bynnag sydd hiraf.

Atodiad 1: Rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol hyn

1.1       Rhaid ichi gydweithredu â’r awdurdod rheoleiddio. Rhaid ichi ddarparu gwybodaeth pan ofynnir amdani gan yr awdurdod rheoleiddio yn unol â’r amserlenni statudol perthnasol.

1.2       Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i’r awdurdod rheoleiddio ddangos yn glir:

  • sut mae penderfyniadau wedi’u gwneud
  • sut y daethpwyd i’r farn, a
  • bod yn addas at ddibenion archwilio, sicrhau ansawdd a rheoleiddio

1.3       Rhaid ichi gydymffurfio â'r rheolau cofrestru ac unrhyw amodau cofrestru sy’n gymhwysol i'ch cofrestriad gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.4       Rhaid ichi gynnal eich yswiriant a darparu copi o’ch tystysgrif yswiriant i’r awdurdod rheoleiddio pryd bynnag y gofynnir amdano.

1.5       Rhaid ichi roi sylw priodol i ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.6       Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio o fewn 3 diwrnod gwaith am unrhyw ymddygiad gan eich sefydliad chi’ch hun yr ydych yn ymwybodol ohono neu’n dod yn ymwybodol ohono a allai fod:

  • yn groes i’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol
  • yn gamymddygiad proffesiynol o dan y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu 
  • yn debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu
  • yn groes i’r Rheolau Safonau Gweithredol

1.7       Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio yn ddi-oed:

  • os bydd Llys, Tribiwnlys neu awdurdod rheoleiddio yn barnu eich bod chi neu bersonau perthnasol wedi gweithredu’n groes i rwymedigaeth gyfreithiol berthnasol neu wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol berthnasol wrth gynnal gweithgareddau eich gwaith neu’ch busnes
  • os cewch chi neu bersonau perthnasol eich euogfarnu o drosedd neu dramgwydd o dan Ran 2A o’r Ddeddf
  • yn dod yn destun erlyniad troseddol arfaethedig

1.8       Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio yn ddi-oed am achosion o amhriodoldeb ariannol yr ydych yn ymwybodol ohonynt neu’n dod yn ymwybodol ohonynt, er enghraifft methiant i gadw at ofynion mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal gwyngalchu arian
  • ariannu terfysgaeth
  • atal llygredigaeth a llwgrwobrwyo
  • efadu treth
  • pennu prisiau penodol 
  • arferion gwrth-gystadleuol
  • codi gormod o dâl

1.9       Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio o fewn 14 diwrnod ar ôl unrhyw ganfyddiadau ynglŷn â chaethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol.

1.10     Mae personau perthnasol yn cynnwys cyflogeion, y rhai sy’n ymgymryd â gwaith ar ran y CCRhA, cyfarwyddwyr neu gyflogeion cyfarwyddwyr. Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio’n ddi-oed os ydych chi neu bersonau perthnasol (sy’n dal rheolaethau ariannol):

  • yn gwneud trefniant gwirfoddol cwmni neu drefniant gwirfoddol unigol
  • yn cael eich rhoi yn nwylo’r gweinyddwr neu’n cael eich dirwyn i ben
  • yn dod yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu orchymyn gweinyddu
  • yn cael eich datgan yn fethdalwr
  • yn cael eich gwahardd fel cyfarwyddwr

1.11     Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio’n ddi-oed os byddwch chi neu bersonau perthnasol yn destun canfyddiadau disgyblu gan reoleiddiwr neu gorff proffesiynol arall

1.12     Rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio o fewn 14 diwrnod am unrhyw ganfyddiadau anffurfiol neu ffurfiol o gamymddwyn o dan bolisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad ynglŷn ag ymddygiad staff.

Atodiad 2: Darparu gwybodaeth i geisyddion neu asiantau

Er mwyn cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau o dan Safon 5, rhaid ichi roi llythyr telerau ymgysylltu i bob ceisydd neu asiant, a hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn: 

  • crynodeb clir o’r gwasanaethau y byddwch yn eu darparu
  • enw’r ACA sy’n gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith (gan bennu a allai hyn newid)
  • unrhyw amodau ar eich cofrestriad chi, neu ar gofrestriad yr ACA sy’n gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith
  • amcangyfrif o’r amser y bydd ei angen er mwyn ichi gwblhau’r gwaith neu, os yw’n cael ei wneud fesul cyfnod, yr amcangyfrif ar gyfer pryd y caiff gwaith ei wneud mewn perthynas â phob cyfnod (gan bennu a allai hyn newid)
  • disgrifiad clir a thryloyw o’ch ffioedd a’ch taliadau
  • manylion unrhyw ffioedd atgyfeirio perthnasol y byddwch chi’n eu talu neu’n eu derbyn
  • amcangyfrif o gyfanswm cost cwblhau’ch gwaith
  • disgrifiad o sut y bydd gwybodaeth y cleient yn cael ei defnyddio a chyfeiriad at sut y gall y cleient gael eich polisi diogelu data
  • manylion eich polisi cwynion a sut y gallant godi cwyn
  • manylion yr yswiriant neu’r yswiriant indemniad proffesiynol perthnasol sydd gennych chi a/neu eich cyflogeion
  • datganiad clir eich bod yn cael eich rheoleiddio gan yr awdurdod rheoleiddio

Atodiad 3: Rheolau cofrestru

1.1 Mae'r rheolau hyn yn cael eu gosod gan yr awdurdod rheoleiddio ac maent yn berthnasol i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru’n CCRhA.

1.2 Rhaid i'r prif gyswllt ar gyfer CCRhA fod yn unig fasnachwr, yn bartner neu’n gyflogai i'r CCRhA o lefel ac awdurdod digonol i allu cynrychioli'r CCRhA wrth ymdrin â'r awdurdod rheoleiddio, er enghraifft at ddibenion hysbysu a chysylltu ynghylch archwiliadau, ymchwilio a sancsiynau, a chynnal eu manylion cofrestru.

1.3 Rhaid i'r person sicrhau bod ei fanylion cofrestru yn cael eu cynnal a'u diweddaru'n gywir gydag unrhyw newidiadau perthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion am sut i wneud hyn yn y canllawiau cofrestru ar gyfer CCRhA.

1.4 Cyfrifoldeb y person yw sicrhau bod gan yr awdurdod rheoleiddio gofnodion cywir mewn perthynas â'u cofrestriad.

1.5 Rhaid i'r person hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 28 diwrnod os bydd unrhyw newidiadau i wybodaeth sy'n berthnasol i'w gofrestriad.

1.6 Rhaid i'r person beidio â throsglwyddo "cofrestriad" o un endid cyfreithiol i'r llall (ee busnes sydd â rhif cofrestru gwahanol i Dŷ'r Cwmnïau).

1.7 Rhaid i'r person hysbysu'r Awdurdod Rheoleiddio am unrhyw newidiadau i wybodaeth sy'n berthnasol i gofrestriad y busnes, gan gynnwys y canlynol:

  • Newid strwythur rheoli
  • Newid gyfarwyddwr neu bartner
  • Newid perchnogaeth
  • Newid i'r prif gyswllt ar gyfer CCRhA
  • Unrhyw sancsiynau proffesiynol gan gyrff eraill
  • Unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol, naill ai ar gyfer y busnes neu uwch bersonél
  • Os yw'r person mewn perygl o fod yn destun datodiad neu os bydd yn rhoi'r gorau i fasnachu am unrhyw reswm
  • Os nad yw'r person bellach yn dymuno bod ar y gofrestr CCRhA

Atodiad 4: Amodau cofrestru

1.1 Mae gan yr awdurdod rheoleiddio y pŵer i osod amodau ar gofrestriad person o dan Adran 58O o Ddeddf Adeiladu 1984.

1.2 Gellir gosod amodau wrth gofrestru a/neu yn ystod y cyfnod cofrestru.

1.3 Mae dau fath o amod:

  • amodau safonol, sy'n berthnasol i bob person sy'n cofrestru’n CCRhA
  • amodau ansafonol, sy'n berthnasol i berson penodol, yn seiliedig ar ei amgylchiadau penodol

1.4 Gall amodau gynnwys cyfyngiadau ar y math o waith y gall person ymgymryd ag ef, neu ofynion i gefnogi enw da'r proffesiwn.

1.5 Bydd amodau yn cael eu cymhwyso a'u dileu yn ôl disgresiwn awdurdod rheoleiddio yn unig.

1.6 Rhaid i'r person gydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir gan yr awdurdod rheoleiddio wrth iddo gofrestru. Gall methu â chydymffurfio ag amod arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau gorfodi a gallai effeithio ar eich cofrestriad.

1.7 Yr amodau safonol y bydd yr awdurdod rheoleiddio yn eu gosod ar bob CCRhA yw:

  • rhaid i'r person sicrhau bod system TG wrth gefn briodol ar waith i'w galluogi i storio, cynnal a throsglwyddo unrhyw un o’i gofnodion prosiectau adeiladu yn electronig i awdurdod lleol neu CCRhA arall, os na fydd y person yn gallu parhau â'i brosiectau adeiladu mwyach.

1.8 Gall amodau ansafonol, er enghraifft, gynnwys gofynion i ddiwygio polisïau a gweithdrefnau, neu gyfyngiadau ar y gwaith rheoli adeiladu y gall person ei wneud.

Atodiad 5: Gweithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad

1.1 Er mwyn cydymffurfio â safonau 3.1 a 3.2 o'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i chi sicrhau eich bod ond yn defnyddio ACA sydd â'r "cwmpas cofrestru" priodol ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud.

1.2 Mae cwmpas cofrestru ACA yn cynnwys y dosbarth, y categorïau gwaith a'r gweithgareddau cyfyngedig y maent wedi'u cofrestru i'w cyflawni.

1.3 Caiff gweithgareddau cyfyngedig eu diffinio yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 ac fe'u diffinnir yn fras fel asesu ac arolygu cynlluniau.

1.4 Ni all ACA ymgymryd â gwaith y tu allan i gwmpas ei gofrestriad oni bai ei fod o dan oruchwyliaeth, fel y nodir yn safon 3.2 a 3.3 o'r Cod Ymddygiad.