Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn gymwys i Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig yng Nghymru. Gweinidogion Cymru yw'r Awdurdod Rheoleiddio i Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig o dan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984 (‘y Ddeddf’). Mae'r rheolau ymddygiad proffesiynol yn cael eu paratoi a'u cyhoeddi yn unol ag adran 58R o'r Ddeddf.

Mae'r rheolau ymddygiad proffesiynol yn nodi safonau ac arferion ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig. Mae iddynt le canolog yn y proffesiwn rheoli adeiladu a reoleiddir – lle mae'n ofynnol i chi ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol am eich penderfyniadau, eich gweithredoedd, a'ch ymddygiad. 

Gall torri'r rheolau ymddygiad proffesiynol arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diddymu'ch cofrestriad fel Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig.

Mae'n hanfodol eich bod yn darllen y rheolau ymddygiad proffesiynol yn llawn a'ch bod yn deall yr egwyddorion a'r safonau y mae'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw. Mae'r rheolau ymddygiad proffesiynol yn ychwanegol at y rheolau safonau gweithredol sy'n gymwys o dan adran 58Z o'r Ddeddf. Gellir diwygio'r rheolau ymddygiad proffesiynol ar unrhyw adeg ac mae'n rhaid iddynt gael eu cyhoeddi ar ôl eu diwygio.

Yr egwyddorion

Yr egwyddorion yw'r darpariaethau allweddol sy'n sail i bob cam gorfodi. Mae'r safonau yn disodli'r egwyddorion ac yn dangos yr ymddygiad a ddisgwylir gan Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig. Yr egwyddorion a'r safonau yw'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol i Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru). 
 
Mae'n rhaid ichi:

  1. Ymddwyn gyda gonestrwydd 
  2. Ymddwyn gydag uniondeb 
  3. Cynnal cymhwysedd proffesiynol 
  4. Darparu gwasanaethau â sgìl a gofal proffesiynol 
  5. Cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gwasanaethau a ddarperir ac yn y proffesiwn
  6. Annog a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Safon 1: Cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a phroffesiynol

1.1    Mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol:

a)    wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith
b)    mewn perthynas â gorfodi cydymffurfiaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith yn y proffesiwn; 
c)    sy'n gymwys i'r ffordd rydych yn cynnal eich gweithgareddau busnes, er enghraifft atal gwyngalchu arian, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, diogelu data a Deddf Cydraddoldeb 2010.

1.2    Mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau i'r awdurdod rheoleiddio o dan y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, fel y'i nodir yn Atodiad 1 ac unrhyw rwymedigaethau i awdurdodau rheoleiddio eraill, awdurdodau lleol neu gyrff proffesiynol. 

1.3    Dylech gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac ystyried arferion gorau lle y bo'n briodol. 

1.4    Mae'n rhaid ichi gynnal annibyniaeth a didueddrwyd proffesiynol wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith.

1.5    Mae'n rhaid ichi beidio â gweithredu mewn modd sy'n debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheoli adeiladu. 

1.6    Mae'n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod gweithgareddau y mae unigolion yn ymgymryd â nhw o dan eich goruchwyliaeth yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol. 

1.7    Pan fyddwch yn dod yn ymwybodol o achos o fynd yn groes i Ddeddf Adeiladu 1984 (fel y’i diwygiwyd), neu ddeddfwriaeth gysylltiedig, mae'n rhaid ichi ddefnyddio'ch pwerau rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth. Os na allwch sicrhau cydymffurfiaeth o fewn terfyn amser rhesymol, mae'n rhaid ichi hysbysu'r Awdurdod Lleol perthnasol am waith nad yw'n cydymffurfio.

1.8    Mae'n rhaid ichi weithio mewn ffordd gydweithredol gyda gwasanaethau tân ac achub, ymgymerwyr statudol, a sefydliadau tebyg.

1.9    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod y termau 'cymeradwywr rheoli adeiladu cofrestredig’, ‘RBCA’, ‘arolygydd adeiladu cofrestredig’ a ‘RBI’ yn cael eu defnyddio'n gywir a chydymffurfio â thelerau'ch cofrestriad â'r awdurdod rheoleiddio.

1.10     Mae'n rhaid ichi beidio â rhoi cyngor dylunio, na gweithredu fel prif ddylunydd, yn rhinwedd eich rôl broffesiynol fel Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig.

Safon 2: Gofynion busnes

Gofynion yswiriant

2.1    Dim ond gwaith rydych chi, ac unrhyw bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan, wedi'ch yswirio ac wedi'u hyswirio yn addas ar ei gyfer y caniateir i chi ei wneud. 

2.2    Mae'n rhaid ichi gydymffurfio'n llawn â gofynion eich polisi yswiriant, gan gynnwys eich dyletswydd i roi gwybod i'ch darparwr yswiriant am unrhyw gwynion a hawliadau yn unol â'r terfynau amser a bennir yn eich polisi.


Priodoldeb ariannol  

2.3    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod materion ariannol proffesiynol yn cael eu rheoli mewn ffordd gyfrifol.

2.4    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych reolaethau cyfrifyddu priodol.

2.5    Mae'n rhaid ichi roi gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau y cydymffurfir â'r rheolaethau cyfrifyddu.

2.6    Mae'n rhaid i chi beidio â hwyluso troseddau ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian, cyllido terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth neu osgoi trethi.

2.7    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych brosesau priodol ar waith i atal hwyluso troseddau ariannol.

2.8    Mae'n rhaid ichi beidio â gosod prisiau ar y cyd ag eraill na chymryd rhan mewn arferion gwrthgystadleuaeth.

2.9    Mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich costau proffesiynol yn deg ac yn gymesur.

Polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig 

2.10     Mae'n rhaid bod gennych bolisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig clir a hygyrch mewn perthynas â'r canlynol:

  • Gwrthdaro buddiannau 
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Iechyd, diogelwch a llesiant 
  • Atal gwyngalchu arian a chyllido terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • Diogelu data
  • Chwythu'r chwiban
  • Ymdrin â chwynion
  • Dysgu a Datblygu 
  • Ymddygiad staff 

2.11    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn gyfredol ac yn adlewyrchu gofynion a chanllawiau deddfwriaethol cyfredol (lle y bo'n briodol).

2.12     Mae'n rhaid ichi sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn cael eu darparu i bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.13     Mae'n rhaid bod gennych brosesau clir a hygyrch sy'n galluogi personau i godi pryderon o dan y cyfryw bolisïau ag y cyfeirir atynt yn Safon 2.10. 

2.14    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod gennych brosesau a gweithdrefnau ar waith i ymdrin â phryderon o'r fath yn briodol a'u datrys mewn modd amserol.  
 

Gwrthdaro buddiannau  

2.15    Mae'n rhaid bod gennych brosesau ar waith i nodi achosion o wrthdaro buddiannau, ac achosion posibl o wrthdaro buddiannau, cyn cychwyn gweithgaredd gwaith ac yn ystod gweithgaredd gwaith.

2.16    Mae'n rhaid ichi gytuno i beidio ag ymgymryd â gwaith, na pharhau i ymgymryd â gwaith, pan nodir achos o wrthdaro buddiannau.

2.17    Pan nodir achos o wrthdaro buddiannau, mae'n rhaid ichi hysbysu'r cleient â pheidio â gweithredu.

2.18    Mae'n rhaid ichi gyhoeddi'ch polisi ynglŷn â gwrthdaro buddiannau a sicrhau ei fod yn hygyrch.  

Defnyddio technoleg a rheoli data 

2.19    Mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod wedi cymryd camau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau mewn perthynas â defnyddio technoleg berthnasol i'ch helpu i gyflawni'ch gwaith.

2.20     Yn ogystal â chydymffurfio â gofynion diogelu data, mae'n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod data masnachol yn cael eu storio'n briodol.  

Chwythu'r chwiban 

2.21     Mae'n rhaid ichi gyhoeddi polisi ‘codi llais’ neu chwythu'r chwiban

  • sy'n galluogi gweithwyr i godi pryderon yn gyfrinachol 
  • sy'n hygyrch.
  • sy'n cael ei gefnogi'n weladwy ar y lefel uchaf yn y sefydliad;  
  • sy'n cael ei hyrwyddo'n weithredol yn eich sefydliad.

2.22     Mae'n rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd sy'n atal unigolyn rhag chwythu'r chwiban neu sy'n peri i unigolyn fod yn amharod i chwythu'r chwiban. 

2.23    Mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli a datrys pryderon a godir o dan y polisi chwythu'r chwiban.

2.24    Mae'n rhaid ichi ystyried pryderon chwythu'r chwiban a gyflwynir i chi mewn ffordd deg a chadw cofnodion am o leiaf 5 mlynedd o ddyddiad y rhoddir gwybod am bryder. 

Ymdrin â chwynion 

2.25     Mae'n rhaid ichi gyhoeddi'ch polisi ynglŷn ag ymdrin â chwynion a sicrhau ei fod yn hygyrch i bersonau perthnasol [1].

2.26    Mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i ymdrin â chwynion a'u datrys mewn modd amserol

2.27     Mae'n rhaid ichi roi mesurau ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich gweithdrefnau ymdrin â chwynion. 

Diwylliant, ymddygiad staff ac ymddygiad personau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan

2.28     Mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i fynd i'r afael yn effeithiol â phryderon mewn perthynas ag ymddygiad staff.

2.29    Mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i fynd i'r afael yn effeithiol â phryderon a godir mewn perthynas ag ymddygiad personau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan. 

2.30    Mae'n rhaid ichi ddarparu gwybodaeth briodol ynglŷn â sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sy'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol i bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.31     Dylech gymryd camau i gefnogi diwylliant cynhwysol.
 

Dysgu a datblygu 

2.32    Yn ogystal â'r darpariaethau a geir yn Safon 3, mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn darparu gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus rheolaidd a chyfredol ar gyfer pob cyflogai: 

  • gofynion diogelu data
  • Atal gwyngalchu arian a chyllido terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

 [1] Personau perthnasol: unrhyw bersonau sydd ag angen dilys i weld polisïau o'r fath.

Safon 3: Cymhwysedd proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus

3.1    Yn ddarostyngedig i Safon 3.5 isod, dim ond gwaith rydych chi (a chyflogeion perthnasol) wedi'ch cofrestru i ymgymryd ag ef ac y mae gennych y cymhwysedd angenrheidiol i ymgymryd ag ef y caniateir i chi ei wneud.

3.2    Yn ddarostyngedig i Safon 3.5 isod, mae'n rhaid ichi sicrhau bod unrhyw berson sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan wedi'i gofrestru (lle y bo hynny'n ofynnol) ac y mae ganddo'r cymhwysedd angenrheidiol.

3.3    Mae'n rhaid ichi beidio ag ymgymryd â rôl rheoli neu gydymffurfio na goruchwylio gwaith eraill oni bai bod gennych y cymhwysedd angenrheidiol. 

3.4    Mae'n rhaid ichi beidio â derbyn gwaith os na allwch gydymffurfio â'r Rheolau Safonau Gweithredol na bodloni'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol. 

3.5    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod unrhyw bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan sy'n datblygu eu cymhwysedd ym maes rheoli adeiladu, yn cael eu goruchwylio'n uniongyrchol gan Arolygydd Adeiladu Cofrestredig â chymhwysedd addas.

3.6     Mae'n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod cyflogeion sy'n ymgymryd â gwaith (gan gynnwys y rhai o dan eich goruchwyliaeth) yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion o ran Datblygiad Proffesiynol Parhaus a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.7    Yn unol â Rheol 3.6, mae'n rhaid ichi sicrhau eich bod yn darparu'r canlynol i gyflogeion sy'n ymgymryd â gwaith (gan gynnwys y rhai o dan eich goruchwyliaeth):

  • hyfforddiant ac arweiniad cyfredol perthnasol. 
  • goruchwyliaeth a chyngor. 
  • rhaglen strwythuredig o ddysgu a datblygu, gan gynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol â gofynion a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio.
  • digon o amser i fyfyrio ar eu hanghenion datblygu yn ffurfiol a digon o amser i gofnodi'r canfyddiadau a'r camau gweithredu arfaethedig i ddiwallu'r anghenion hyn yn unol â'r gofynion ynglŷn â Datblygiad Proffesiynol Parhaus.  

3.8     Mae'n rhaid ichi fonitro effeithiolrwydd prosesau a gweithdrefnau mewn perthynas â dysgu a datblygu, cymhwysedd, a Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gan gynnwys cyfraddau cymryd rhan. 

3.9     Mae'n rhaid ichi roi prosesau ar waith sy'n sicrhau bod cofnodion o weithgareddau dysgu a datblygu, cymhwysedd a Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn yr ymgymerir â nhw yn cael eu cadw am o leiaf 5 mlynedd.

3.10    Mae'n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio â gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio. 

3.11    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod systemau ar waith i alluogi cyflogeion (a phersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan lle y bo'n berthnasol) i loywi eu gwybodaeth am y polisïau canlynol yn rheolaidd:

  • Gwrthdaro buddiannau 
  • Trefniadau yswiriant
  • Polisi ymdrin â chwynion
  • Polisi iechyd, diogelwch a llesiant 
  • Polisïau ynglŷn ag atal gwyngalchu arian a chyllido terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • Polisi diogelu data
  • Polisi chwythu'r chwiban 
  • Polisi ymddygiad staff
  • Polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Safon 4: Safon gwasanaeth

4.1    Wrth ymgymryd â'ch gwaith, mae'n rhaid ichi weithredu: 

(a)    mewn ffordd deg a gwrthrychol
(b)    yn ddiwyd
(c)    yn gydwybodol;  
(d)    er budd pennaf y proffesiwn wrth ymdrin ag unigolion, 
proffesiynau eraill neu'r cyhoedd

4.2    Wrth ymgymryd â'ch gwaith, mae'n rhaid ichi:

(a)    cymhwyso trefniadau llywodraethu effeithiol
(b)    bod yn atebol am eich penderfyniadau.
(c)    bod yn atebol am y dyletswyddau a'r tasgau rydych yn eu dirprwyo i bersonau yn eich sefydliad neu sy'n cael eu contractio gan eich sefydliad sydd wedi'u cynnwys yn y trefniadau llywodraethu; 
(d)    bod yn atebol am waith yr ymgymerir ag ef o dan eich goruchwyliaeth.

4.3    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod mesurau priodol ar waith i reoli gweithgareddau gwaith yn weithredol, sicrhau eu hansawdd a'u goruchwylio.

4.4    Mae'n rhaid ichi sicrhau bod personau sy'n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn deall:

  • y rolau a neilltuir iddynt  
  • eu cyfrifoldebau; 
  • unrhyw gyfyngiadau sy'n gymwys iddynt.

4.5    Mae'n rhaid ichi sicrhau na fydd buddiannau personol, rhagfarn, tuedd nac agenda bersonol yn cael dylanwad amhriodol ar gyngor na phenderfyniadau proffesiynol. 

4.6    Mae'n rhaid ichi beidio â chytuno i ymgymryd â gwaith nad oes gennych yr amser na'r adnoddau i'w gwblhau. 

4.7    Mae'n rhaid ichi beidio â chytuno i ymgymryd â gwaith os na allwch gydymffurfio â'r Rheolau Safonau Gweithredol na bodloni'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol. 

Safon 5: Ymgysylltu â chleientiaid

5.1     Mae'n rhaid ichi gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich gwasanaethau yn hygyrch. 

5.2    Mae'n rhaid i chi gadarnhau pwy yw eich cleient a sicrhau eich bod yn cofnodi'r gwasanaethau y gofynnir amdanynt ac yn esbonio'r gwasanaethau y gallwch eu darparu.

5.3     Mae'n rhaid ichi gadarnhau unrhyw gyfyngiadau sy'n gymwys i'ch cofrestriad fel Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig a'u nodi.

5.4     Mae'n rhaid ichi beidio ag ymgymryd ag unrhyw waith nes bod y cleient wedi cael y llythyr sy'n amlinellu'r telerau penodi, fel y'i nodir yn Atodiad 2, ac wedi cytuno'n ysgrifenedig i'w ddarpariaethau.


5.5     Mae'n rhaid ichi hysbysu eich cleient os bydd unrhyw newidiadau i'r telerau mewn perthynas â'i waith, gan gynnwys amcangyfrifon o gostau neu amser. 

5.6     Mae'n rhaid ichi fod yn glir ac yn dryloyw yn eich polisïau a'ch gweithdrefnau ac wrth esbonio'r polisïau a'r gweithdrefnau hynny o ran sut yr ymgymerir â'ch gwaith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi esbonio: 

  • sut mae eich penderfyniadau wedi cael eu gwneud;
  • sut y gellir eu herio;  
  • y broses a ddefnyddir i ddatrys problemau.

5.7     Mae'n rhaid ichi drin gwybodaeth gan y cleient yn gyfrinachol a dim ond os bydd un neu fwy o'r canlynol yn gymwys y bydd modd ichi ei datgelu: 

(a)    Wrth erlyn neu amddiffyn gweithrediadau cyfreithiol
(b)    Gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y cleient 
(c)    Pan fo'n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith neu pan fyddwch wedi'ch awdurdodi i wneud hynny yn ôl y gyfraith
(d)    Rhoi gwybod am drosedd neu dorri rheoliadau rheoli adeiladu

5.8    Mae'n rhaid ichi hysbysu'r cleient y bydd yn ofynnol ichi o bosibl ddatgelu gwybodaeth i'r awdurdod rheoleiddio, awdurdodau lleol ac awdurdodau rheoleiddio eraill.

5.9    Yn ddarostyngedig i unrhyw hawl i'w cadw tra byddwch yn aros am daliad, mae'n rhaid ichi ddarparu'r holl wybodaeth berthnasol a chopi o'i ffeil i'r cleient ar gais. Nid yw'r safon hon yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth na ellir ei datgelu'n gyfreithlon. 

5.10    Mae'n rhaid ichi gadw:

  • Pob darn o dystiolaeth
  • Pob cyfarwyddyd
  • Pob darn o gyngor;  
  • Pob barn a phenderfyniad proffesiynol am 5 mlynedd o'r dyddiad cyfarwyddo. 

Atodiad 1: Rhwymedigaethau i'r awdurdod rheoleiddio o dan y rheolau ymddygiad proffesiynol

1.1     Mae'n rhaid ichi gydweithredu â'r awdurdod rheoleiddio wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddio ac arfer ei bwerau statudol, mae'n rhaid ichi ddarparu gwybodaeth pan fydd yr awdurdod rheoleiddio yn gofyn amdani a hynny:

  • yn unol â therfynau amser statudol perthnasol; neu 
  • pan na fydd y cais yn unol ag arfer pwerau statudol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. 

1.2    Dylai gwybodaeth a roddir i'r awdurdod rheoleiddio ddangos yn glir sut mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud/barn wedi'i llunio a bod yn addas at ddibenion archwilio, sicrhau ansawdd a rheoleiddio.  

1.3     Wrth geisio newid neu adnewyddu eich cofrestriad fel Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig, mae'n rhaid ichi roi'r wybodaeth a nodir yn yr amodau cofrestru i'r awdurdod rheoleiddio. 

1.4    Mae'n rhaid i chi gynnal eich yswiriant a rhoi copi o'ch tystiolaeth yswiriant i'r awdurdod rheoleiddio pryd bynnag y bydd yn gofyn amdani 

1.5     Mae'n rhaid ichi dalu sylw priodol i arweiniad a roddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.6     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 3 diwrnod gwaith am unrhyw ymddygiad rydych yn ymwybodol ohono/dod yn ymwybodol ohono a all o bosibl:

(a)    torri'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol hyn; 
(b)    torri'r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (Cymru); neu 
(c)    fod yn debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheoli adeiladu. 

1.7     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon os yw'r canlynol yn gymwys i chi neu bersonau perthnasol [2]:

(a)    mae Llys, Tribiwnlys neu awdurdod rheoleiddio yn tybio eich bod chi neu eu bod nhw wedi gweithredu'n groes i rwymedigaeth gyfreithiol neu wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol wrth gynnal eich gwaith/eu gwaith neu eich gweithgareddau busnes/eu gweithgareddau busnes; neu  
(b)    rydych chi neu maent hwy wedi cael eich euogfarnu/eu heuogfarnu o drosedd o dan gyfraith trosedd neu drosedd reoleiddiol.

1.8     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon am achosion o amhriodoldeb ariannol rydych yn ymwybodol /rydych yn dod yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig ond heb fod yn gyfyngedig i fethiant i gadw at ofynion mewn perthynas ag atal gwyngalchu arian a chyllido terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, osgoi trethi neu godi gormod o dâl.

1.9     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 14 diwrnod i unrhyw ganfyddiadau o gaethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol. 

1.10     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon os ydych chi neu bersonau perthnasol:  

(a)    yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol cwmni neu drefniant gwirfoddol unigol. 
(b)    yn cael eich/eu rhoi yn nwylo gweinyddwr neu eich/eu dirwyn i ben. 
(c)    dod yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu weinyddu. 
(d)    yn cael eich/eu datgan yn fethdalwr; neu
(e)    yn cael eich/eu datgymhwyso fel Cyfarwyddwr.

1.11     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon os ydych chi neu bersonau perthnasol yn destun canfyddiadau disgyblu gan awdurdod rheoleiddio neu gorff proffesiynol arall.

1.12     Mae'n rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 14 diwrnod am unrhyw ganfyddiadau anffurfiol neu ffurfiol o gamymddwyn o dan bolisïau a gweithdrefnau ymddygiad staff eich sefydliad.

[2] Mae personau perthnasol yn cynnwys cyflogeion, y rhai sy'n ymgymryd â gwaith ar ran y Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig, cyfarwyddwyr, cyflogeion cyfarwyddwyr

Atodiad 2: Darparu gwybodaeth i gleientiaid

Er mwyn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan Safon 5.4, mae'n rhaid ichi roi llythyr telerau penodi sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol i bob cleient:

  • Crynodeb clir o'r gwasanaethau y byddwch yn eu darparu. 
  • Enw'r Arolygydd Adeiladu Cofrestredig a fydd yn gyfrifol am oruchwylio neu gynnal y gwaith. 
  • Unrhyw amodau ar eich cofrestriad, neu gofrestriad yr Arolygydd Adeiladu Cofrestredig a fydd yn gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni'r gwaith.
  • Amcangyfrif o faint o amser y bydd ei angen arnoch i gwblhau'r gwaith, neu os bydd yn cael ei wneud mewn camau, amcangyfrif o bryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â phob cam. 
  • Disgrifiad clir a thryloyw o'ch ffioedd a'r taliadau a godir gennych. 
  • Manylion am unrhyw ffioedd atgyfeirio perthnasol rydych yn eu talu neu'n eu derbyn.
  • Amcangyfrif o gyfanswm y gost am gwblhau'ch gwaith. 
  • Disgrifiad o'r ffordd y bydd gwybodaeth y cleient yn cael ei defnyddio a chyfeiriad at sut y gall gael gafael ar eich polisi diogelu data.
  • Manylion am eich polisi cwyno a sut y gall godi cwyn. 
  • Manylion am yr yswiriant perthnasol a ddelir gennych chi a/neu'ch cyflogeion. 
  • Datganiad clir eich bod yn cael eich rheoleiddio gan yr awdurdod rheoleiddio.