Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2023

Camau i'w cymryd: Ymatebion erbyn 24 Ebrill 2023

 

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol arfaethedig ar gyfer Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru). Mae'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn nodi egwyddorion a safonau ymddygiad y bydd angen i gymeradwywyr rheoli adeiladu yn eu dilyn.

Sut i ymateb

Gallwch anfon eich ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn drwy e-bost i: enquiries.brconstruction@llyw.cymru  

Os ydych yn ymateb yn ysgrifenedig, nodwch yn glir eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y canlynol: 

“Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru)” 

Dylid anfon ymatebion ysgrifenedig i: 

Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru) 
Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Wrth ymateb, byddai'n ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu'n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad a chynnwys y canlynol: 

  • eich enw,
  • eich swydd (os yw'n gymwys), 
  • enw'r sefydliad (os yw'n gymwys),
  • cyfeiriad (gan gynnwys cod post),
  • cyfeiriad e-bost, 
  • rhif ffôn cyswllt

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â thîm Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost i: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth:

Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 062 8144

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cyflwyniad

  1. Unwaith y bydd y darpariaethau perthnasol wedi cychwyn, bydd Deddf Adeiladu 1984 (“y Ddeddf”) fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 (“Deddf 2022”) yn darparu ar gyfer gwella lefelau cymhwysedd ac atebolrwydd yn y sector rheoli adeiladu drwy greu strwythur proffesiynol a rheoleiddiol newydd ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu. 
  2. Fel rhan o'r darpariaethau hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cofrestr o arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheoli adeiladu. 
  3. O dan y Ddeddf, gall Gweinidogion Cymru ddirprwyo i gorff arall ymgymryd â rhai o'u swyddogaethau cofrestru neu bob un ohonynt. Mae ffyrdd eraill ar gael iddynt hefyd i alluogi corff i weithredu ar eu rhan. Yn y papur ymgynghori hwn, dylid darllen “Awdurdod rheoleiddio” fel petai'n cynnwys y posibilrwydd y caiff y swyddogaethau eu harfer gan Weinidogion Cymru neu gan gorff arall ar eu rhan.
  4. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o gyfres o ymgyngoriadau ar safonau sy'n cael eu datblygu i reoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladu. Mae'r gyfres yn cynnwys y Rheolau Safonau Gweithredu a'r Y Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu (FfCAA) rydym eisoes wedi ymgynghori arnynt a'r Cod Ymddygiad i Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig y cynhelir ymgynghoriad arno ar yr un pryd â'r ymgynghoriad hwn.

Cynigion

  1. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys tair dogfen, sef:
  • y ddogfen ymgynghori hon, sy'n rhoi cyflwyniad i bob dogfen;
  • y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol drafft ar gyfer Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig – sy'n nodi egwyddorion a safonau ymddygiad gorfodol sy'n gymwys i bawb sydd am gofrestru'n Gymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig. 
  • y Ffurflen ymateb i'r Ymgynghoriad sy'n rhoi cwestiynau'r ymgynghoriad. 
  1. Rydym yn ymwybodol y gall rhai Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig ddewis gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Wrth inni gyflwyno'r system gofrestru newydd mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw broblemau a all godi pe bai gwahaniaethau yn y safonau rhwng y gwledydd h.y. rhwng Cymru a Lloegr. Ymdrinnir â hyn yng nghwestiynau 1 a 2.

Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru)

  1. Bydd yn rhaid i weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu gofrestru â'r awdurdod rheoleiddio i ymgymryd â gwaith rheoli adeiladu yng Nghymru. Mae'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn nodi safonau ac arferion ymddygiad proffesiynol y disgwylir i Gymeradwywyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig gydymffurfio â nhw. Bydd iddynt le canolog mewn proffesiwn rheoli adeiladu newydd ei reoleiddio – lle mae'n ofynnol i weithwyr proffesiynol ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am eu penderfyniadau, eu gweithredoedd a'u hymddygiad.
  2. Mae'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn egwyddorion ymddygiad ac yn safonau sy'n gymwys i bob Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig yng Nghymru. Gall torri'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diddymu cofrestriad Cymeradwywr Rheoli Adeiladu Cofrestredig. 
  3. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein hymgynghoriad ac mae'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau penodol i ymgyngoreion. 
  4. Gellir gweld y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol drafft drwy sgrolio i waelod tudalen lanio'r cyflwyniad i'r ymgynghoriad. Darllenwch y ddogfen yn llawn cyn cwblhau'r arolwg. Efallai y bydd angen ichi gyfeirio at y ddogfen wrth gwblhau'ch ymateb. Gallwch roi sylwadau ychwanegol mewn blwch testun rhydd ar y diwedd. 
  5. Caiff y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. 
  6. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i anelu'n benodol at y cyrff rheoli adeiladu sy'n ei gwneud yn bosibl i'r system rheoli adeiladu weithredu ac at y rhai sy'n gweithio gyda nhw, megis adeiladwyr, datblygwyr, dylunwyr ac ati. Efallai y bydd rhai elfennau o ddiddordeb i'r cyhoedd.

Y camau nesaf

  1. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am wyth wythnos. Gan fod cwmpas yr ymgynghoriad yn gymharol gul rydym yn hyderus y bydd hyn yn rhoi digon o amser i ymgyngoreion fwrw golwg dros y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol drafft ac ymateb. Rydym yn croesawu ymatebion gan bawb sydd â diddordeb yn nhestun yr ymgynghoriad ond rydym yn tybio mai gan y rhai sy'n gweithio yn y proffesiwn rheoli adeiladu neu gydag ef y bydd y mwyafrif o'r ymatebion. Rydym yn awyddus i ganlyniadau'r ymgynghoriad fod ar gael mor fuan â phosibl er mwyn llywio'r broses o ddatblygu polisïau ac fel y bydd modd cyhoeddi fersiwn derfynol o'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, er mwyn i'r rhai y maent yn effeithio arnynt gael amser i ymgyfarwyddo â'r gyfundrefn reoleiddio newydd a pharatoi ar ei chyfer. 
  2. Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 24 Ebrill 2023.