Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Er mwyn sicrhau bod cwmnïau dŵr yn rheoli ac yn gweithredu eu rhwydwaith o garthffosydd yn effeithiol, mae angen newidiadau i ddulliau rheoleiddio presennol ac atgyfnerthu rheoleiddio amgylcheddol.

Mae CNC yn adolygu ac yn gweithredu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio presennol lle bo'n briodol er mwyn sicrhau bod canllawiau, prosesau ac adnoddau rheoleiddio clir ar waith i wella asedau sy'n perfformio'n wael i sicrhau bod gorlifoedd storm yn gweithredu o fewn paramedau eu trwydded.

Byddwn yn sicrhau bod  data gorlifoedd storm ar gael yn rhwydd ac yn ddealladwy i ystod eang o randdeiliaid a'r cyhoedd, gan adeiladu ar y dulliau presennol o adrodd data.

Ein hymrwymiadau

Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon i gyd yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru  2021-26 a’r nodau'r canlynol:

  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau'r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.

Fel rhan o'r cynllun gweithredu ynghylch rheoleiddio, cydnabyddir y gall fod achosion lle bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth neu gyfarwyddyd cyfredol gan Lywodraeth Cymru. Bydd unrhyw newidiadau i'r gofynion presennol yn cael eu trafod a'u datblygu drwy'r tasglu 'Gwell Ansawdd Dŵr'

Sefydliad Arweiniol     Gweithred     Pam?   Erbyn Pryd Diweddariad Hydref 2023
CCW – llais defnyddwyr dŵr Byddwn yn cyfrannu at gynllunio a gweithredu un cynllun cymorth sy'n targedu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ariannol i helpu i sicrhau lle ar gyfer buddsoddiad mewn gwytnwch amgylcheddol. Cymorth mwy effeithiol i’r cwsmeriaid hynny sy’n ei chael yn anodd talu. Gallai hyn olygu y byddai buddsoddiad pellach a chynt yn dderbyniol gan y byddai’r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed o safbwynt ariannol yn cael eu diogelu ymhellach.   Parhaus Mae ymgynghoriad ar dariffau cymdeithasol y llywodraeth a chyhoeddi adroddiadau ychwanegol wedi'u gohirio. Byddwn yn parhau i gefnogi a hyrwyddo atebion i filiau dŵr fforddiadwy a buddsoddiad sy'n mynd i'r afael â'r problemau amgylcheddol mae cwsmeriaid yn dweud wrthym sy’n bwysig iddyn nhw. Mae cyngor strategol Fforwm Adolygu Prisiau (PR24) Cymru i gwmnïau yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddiad amgylcheddol a chadernid hinsawdd law yn llaw â chydweithio a bod yn agored i ddulliau ateb fforddiadwyedd newydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru     Byddwn yn adolygu ein defnydd presennol o ddata, offer asesu a chanllawiau mewnol i sicrhau bod ein swyddogion yn gallu cynnal gwiriadau rheoleiddio a chamau gweithredu ar gyfer gorlifoedd storm. Rydym yn cydnabod bod angen adfer yr hyder sydd gan eraill yn CNC i gyflawni ei ddyletswydd rheoleiddio.  Byddwn yn dangos ein hymateb drwy'r camau gweithredu mewn ymateb i orlifoedd storm.   Rhagfyr 2023 Bydd canfyddiadau'r adolygiad tystiolaeth yn cael eu defnyddio i nodi adnoddau a dulliau addas ar gyfer arddangos perfformiad gorlif stormydd cyfunol.
Cyfoeth Naturiol Cymru     Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i'n dulliau rheoleiddio a'n canllawiau i wella ein hymateb rheoleiddiol. Rydym yn cydnabod bod angen adfer yr hyder sydd gan eraill yn CNC i gyflawni ei ddyletswydd reoleiddio. Byddwn yn dangos ein hymateb drwy'r camau gweithredu mewn ymateb i reoli gorlifoedd storm.   Hydref 2023 Mae canllawiau wedi'u llunio ac yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023.
Cyfoeth Naturiol Cymru     Byddwn yn cwblhau ein rhaglen waith i sicrhau bod yr holl asedau sydd heb eu trwyddedu yn dod o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Rydym ni wedi adnabod a chyflwyno proses ar gyfer dod ag asedau sydd heb eu trwyddedu o dan ein rheolaeth. Rydym ni’n gweithio gyda chwmnïau dŵr i sicrhau nad yw’r asedau hyn yn achosi niwed i’r amgylchedd.     Hydref 2023 Cynhyrchwyd canllawiau ar gyngor cyn ymgeisio ar gyfer gorlifoedd storm heb eu trwyddedu ac maen nhw'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023.
Ofwat   Bydd Ofwat yn parhau ac yn cwblhau ei ymchwiliad i weithredoedd pob Cwmni Dŵr a Charthffosiaeth yng Nghymru (a Lloegr). Ar hyn o bryd mae Ofwat yn ymchwilio i bryderon ynghylch rheoli a gweithredu rhwydwaith dŵr gwastraff a gweithfeydd trin dŵr y cwmnïau dŵr.   Parhaus  Mae Ofwat yn parhau i weithio'n fewnol a gyda chwmnïau dŵr a chyd-reoleiddwyr ar fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.
Ofwat   Bydd Ofwat yn ystyried cydnerthedd hirdymor wrth asesu'r cynlluniau busnes yn 2024. Mae'r tasglu'n cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd a'r boblogaeth yn sbardun pellach i gwmnïau flaenoriaethu atebion a buddsoddiad hirdymor.   Rhagfyr 2024 Mae Ofwat wedi rhyddhau ymgynghoriadau ar gyfer PR24 sy’n cwmpasu cadernid hefyd, ac mae gweithgor y diwydiant yn edrych ar gadernid fel rhan o'r broses PR24 hefyd.
Ofwat     Bydd Ofwat yn ystyried yr amgylchiadau penodol yng Nghymru wrth asesu'r cynlluniau busnes o 2024 a thu hwnt. Bydd Ofwat yn ystyried yr amgylchiadau penodol hyn wrth benderfynu ar y camau mwyaf priodol a fforddiadwy.   Er mwyn sicrhau bod yr amgylchiadau penodol yng Nghymru yn cael eu hystyried.  Bydd hyn yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).    Bydd Ofwat yn annog cwmnïau dŵr Cymru i gynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid ehangach wrth gyd-greu eu hatebion a bydd yn blaenoriaethu atebion sy'n seiliedig ar natur lle bo'n briodol.     Rhagfyr 2024 ac adolygiadau prisiau dilynol (bob 5 mlynedd ar hyn o bryd)  
CCW – llais defnyddwyr dŵr Byddwn yn parhau i ofyn i reoleiddwyr a chwmnïau ystyried tystiolaeth CCW, cwmnïau a chwsmeriaid eraill i lywio’r ymateb i orlifoedd storm/camau rheoleiddio a buddsoddiad yn y dyfodol.  Mae cwsmeriaid (a dinasyddion yn gyffredinol, nid y rhai sy’n talu biliau yn unig) yn helpu i lunio ymateb rheoleiddiol, Rhaglen Amgylcheddol Genedlaethol Cymru a phenderfyniadau Ofwat yn y dyfodol fel y gall y rhain sicrhau’r gwelliannau amgylcheddol y maent yn eu disgwyl. 
Mae ymchwil Amgylchedd 2021 CCW yn dangos bod cwsmeriaid dŵr yn cydnabod yr angen i ofalu am yr amgylchedd ac yn disgwyl i gwmnïau dŵr gymryd camau ystyrlon. 
Cwblhawyd Cyhoeddwyd y targedau ym mis Ebrill 2023.  
Cyfoeth Naturiol Cymru   Byddwn yn adolygu ac yn cynyddu ein gweithgareddau archwilio mewn perthynas ag Asesiadau Rheoli Gweithredwyr a hunan fonitro gan Weithredwyr.   Mae sicrhau bod y cwmnïau dŵr yn cynnal asedau yn allweddol i warchod rhag gweithredu gwael. Yn yr un modd , mae sicrhau bod gweithdrefnau rheoli cwmnïau dŵr ar waith a'u harchwilio  yn rhan o feithrin ymddiriedaeth gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid     Cwblhawyd Mae rhaglen arolygu rheoleiddiol CNC ar gyfer cyfnod ariannol 23/24 wedi'i chyhoeddi. Asesiadau Rheoli Gweithredwyr ar y gweill ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr 2023. 
Cyfoeth Naturiol Cymru   Bydd CNC yn  ceisio integreiddio setiau data rheoleiddio a sicrhau bod gwybodaeth am orlifoedd storm a gollyngiadau ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd a rhanddeiliaid.  Rydym yn cydnabod yr angen i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y data a ddarperir fel rhan o ofynion trwyddedau. Byddwn yn sicrhau bod y data a ddarperir yn gywir ac yn amserol ar gyfer pob defnyddiwr  Cwblhawyd Bydd trosolwg o berfformiad gorlifoedd storm yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cwmni Dŵr, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2023. Bydd asesiadau'r dyfodol yn cael eu cynnwys mewn adroddiad annibynnol blynyddol ar orlifoedd stormydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru   Byddwn yn darparu adroddiad blynyddol ar berfformiad a rheoleiddio gorlifoedd storm. Gan ymateb i bryderon gan randdeiliaid a'r cyhoedd, byddwn yn cynhyrchu adroddiad ar berfformiad gorlifoedd storm ac unrhyw gamau cysylltiedig i'w gwella, gan gynnwys unrhyw ymateb gorfodi lle bo hynny'n berthnasol. Cwblhawyd Cyhoeddwyd yr adroddiad annibynnol cyntaf ar orlifoedd stormydd ym mis Awst 2023. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn.  
Tasglu     Adroddiad Llywodraeth Cymru ar orlifoedd storm.  Bydd y tasglu yn adolygu allbynnau'r astudiaeth annibynnol (a fydd yn cael ei chynnal yn haf 2022) i osod targedau tymor byr, canolig a hirdymor cyraeddadwy a fforddiadwy ar gyfer atal niwed ecolegol i'n dyfroedd afonol. Bydd targedau y cytunwyd arnynt yna’n cael eu cyhoeddi o fewn y Cynllun Gweithredu Rheoleiddio    Rydym ni’n cydnabod bod angen rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau nad oes unrhyw orlifoedd storm yn  achosi niwed amgylcheddol i statws ecolegol ein hafonydd     Cwblhawyd I'w gyhoeddi yn hydref 2023.