Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

O fis Ebrill 2026, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (a elwir bellach yn Medr) yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am oruchwylio a chyllido gwaith arolygu craidd Estyn, a'i adolygiadau thematig o'r addysg bellach a'r hyfforddiant a nodir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Bydd Estyn o dan ddyletswydd hefyd i ddarparu cyngor ac arweiniad ynghylch arolygu ac ansawdd addysg bellach a hyfforddiant ôl-orfodol (gan gynnwys chweched dosbarth ysgolion). 

Rydym yn ymgynghori ar Reoliadau drafft Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2026 ('Rheoliadau 2026') a fydd yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 ('Rheoliadau 2001') (fel y'u diwygiwyd yn fwyaf diweddar gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020). Mae Rheoliadau 2001 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal arolygiadau addysg bellach a hyfforddiant o fewn ysbeidiau amser penodedig, ac yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau arolygu a chynlluniau gweithredu gael eu cwblhau o fewn cyfnod penodedig. 

Nod Rheoliadau 2026 yw sicrhau bod yr ysbeidiau rhwng arolygiadau a'r cyfnod penodedig ar gyfer cwblhau adroddiadau yn rhoi digon o hyblygrwydd i Estyn arfer ei ddyletswyddau yn effeithiol ac yn amserol. 

Er nad oes cynllun i newid bwriad y polisi mewn perthynas â'r ysbeidiau rhwng arolygiadau, fel sydd wedi'i nodi yn Rheoliadau 2001, rydym yn ymgynghori ar newid arfaethedig i'r cyfnod adrodd ar gyfer arolygiadau Estyn o addysg bellach a hyfforddiant. Mae Rheoliadau 2001 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad gael ei gyhoeddi o fewn 70 diwrnod gwaith i ddyddiad cwblhau'r arolygiad. Rydym yn cynnig lleihau'r cyfnod hwnnw i 35 diwrnod gwaith, gan ddechrau y diwrnod gwaith ar ôl diwrnod cwblhau'r arolygiad, er mwyn sicrhau bod y sector yn cyd-fynd ag arolygiadau ysgolion Estyn.

Ble rydyn ni arni nawr

Mae'r fframwaith ar gyfer arolygiadau addysg a hyfforddiant wedi'i nodi ar hyn o bryd o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 ("Deddf 2000"). Yn rhinwedd adran 73 o Ddeddf 2000, mae'r cyfrifoldeb dros arolygu ysgolion yn perthyn i Brif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), ac mae adran 75 yn ymestyn y cylch gwaith i gwmpasu addysg bellach a hyfforddiant. 

Mae Rhan IV o Ddeddf 2000 yn darparu bod yn rhaid cynnal arolygiadau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant penodol a ddygwyd o fewn cylch gwaith Estyn gan y Rhan honno, ac yn darparu dyletswyddau a phwerau i Estyn gynnal arolygiadau ardal. 

Mae Rheoliadau 2001 yn manylu ar yr ysbeidiau rhwng arolygiadau a'r cyfnodau adrodd cyfredol sy'n berthnasol i Estyn. Maent hefyd yn amlinellu'r gofyniad bod yn rhaid i'r corff dan sylw gyhoeddi cynllun gweithredu o fewn cyfnod penodol o amser, a gofynion cyhoeddi pellach ar gyfer cynlluniau gweithredu. 

Mae Rheoliadau 2001 (fel y'u diwygiwyd yn fwyaf diweddar gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020) yn ei gwneud yn ofynnol:

  • yn dilyn y cyfnod arolygu wyth mlynedd blaenorol a ddaeth i ben ar 31 Awst 2024, bod arolygiadau yn cael eu cynnal o leiaf unwaith bob chwe blynedd
  • bod yn rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 70 diwrnod gwaith i'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau
  • bod yn rhaid cyhoeddi cynlluniau gweithredu o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd y corff dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Derbyniodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ("Deddf 2022") Gydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022. Roedd Deddf 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu Medr a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ("CCAUC"). Sefydlwyd Medr fel endid cyfreithiol ar 15 Rhagfyr 2022 ac roedd yn weithredol o 1 Awst 2024, sef y dyddiad pan ddiddymwyd CCAUC. . 

Yn dilyn cychwyn yr holl ddarpariaeth berthnasol o fewn Deddf 2022, bydd Medr yn gyfrifol am strategaeth a chyllid y sectorau canlynol, ac am eu goruchwylio: 

  • Addysg bellach, gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion.
  • Addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi.
  • Addysg oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned.
  • Prentisiaethau a hyfforddiant.

Mae adrannau 57 i 68 o Ddeddf 2022 yn cynnwys swyddogaethau Estyn, a nodwyd yn flaenorol yn Rhan 4 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, mewn perthynas ag arolygu addysg a hyfforddiant ôl-16, ac yn nodi'r gofynion gan Medr mewn perthynas â'i rôl yn goruchwylio a chyllido'r gwaith o arolygu addysg bellach a hyfforddiant yn strategol, ynghyd â dyletswyddau'r sawl sy'n gyfrifol am ddarparu'r addysg sy'n cael ei harolygu. 

Mae adran 57(4) o Ddeddf 2022 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol cynnal arolygiadau o addysg a hyfforddiant penodol o fewn ysbeidiau amser penodedig, ac ynghylch y cyfnod pan fydd yn ofynnol cyflwyno adroddiadau ar arolygiadau o'r fath. 

Mae adran 57(5) o Ddeddf 2022 yn nodi'r gofyniad i Weinidogion Cymru ymgynghori â Medr (ac Estyn cyn gwneud y Rheoliadau hyn). 

Mae adran 62 o Ddeddf 2022 yn amlinellu'r gofynion ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant sy'n destun adroddiad: rhaid i'r person sy'n gyfrifol am reoli'r darparwr lunio a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'r person yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad ac o fewn pa gyfnod y mae'n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny.

Mae adran 63(9)(b) o Ddeddf 2022 yn darparu'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu o fewn pa gyfnod y mae'n ofynnol cyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau ardal.

Pa newidiadau ydyn ni’n eu cynnig

Nid yw polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ysbeidiau rhwng arolygiadau, o ran arolygiadau o addysg bellach neu hyfforddiant penodol (o dan adran 57(1) o'r Ddeddf) ac arolygiadau ardal (o dan adran 63 o'r Ddeddf), wedi newid a bydd yn parhau i fod yn berthnasol i gylch cyllido a chynllunio Estyn yn y blynyddoedd i ddod. 

Ni fydd rheoliadau 2026, os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd, yn newid y gofynion mewn perthynas ag ysbeidiau rhwng arolygiadau fel y'u nodir ar hyn o bryd yn Rheoliadau 2001 (fel y'u diwygiwyd), ond byddant yn cadarnhau y bydd y trefniadau presennol mewn perthynas ag ysbeidiau chwe blynedd rhwng arolygiadau yn parhau, yn dilyn cychwyn y swyddogaethau perthnasol sy'n ymwneud ag ansawdd addysg bellach a hyfforddiant fel y'u nodir yn Neddf 2022.

Er mwyn sicrhau nad oes bwlch yn y cylch arolygu addysg bellach a hyfforddiant, mae Rheoliadau 2026 yn darparu ar gyfer nifer o senarios:

  • Os nad yw'r addysg neu'r hyfforddiant wedi cael ei arolygu o dan adran 77 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, neu adran 57 o Ddeddf 2022, rhaid cwblhau arolygiad o fewn chwe blynedd ar ôl rhoi dyletswydd ar Estyn i arolygu'r addysg neu'r hyfforddiant o dan yr adrannau hynny,
  • Os yw'r addysg neu'r hyfforddiant wedi cael ei arolygu o dan adran 77 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, ond na ddigwyddodd yr arolygiad hwnnw rhwng 1 Medi 2024 a 31 Mawrth 2026, rhaid cwblhau arolygiad o leiaf unwaith rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Awst 2030,
  • Ym mob achos arall, rhaid cwblhau arolygiad o leiaf unwaith o fewn y cyfnod chwe blynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2030, ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o chwe blynedd, gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod blaenorol.

Mae polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag amseru adroddiadau arolygu, o ran arolygiadau addysg bellach a hyfforddiant, wedi newid. 

Bydd y newid arfaethedig yn lleihau cyfnod adrodd Estyn o 70 i 35 diwrnod gwaith, o'r diwrnod gwaith ar ôl diwrnod cwblhau'r arolygiad. 

Byddai hyn yn sicrhau bod amseru adroddiadau arolygu addysg bellach a hyfforddiant yn cyd-fynd â'r cyfnod adrodd ar gyfer ysgolion, gan gynyddu cysondeb ar draws y gwahanol sectorau addysgol, a galluogi darparwyr addysg bellach a hyfforddiant i weithredu ar argymhellion Estyn yn gyflymach nag y mae'r Rheoliadau cyfredol yn ei ganiatáu.

Wrth ddatblygu'r cynnig polisi hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â Medr ac Estyn, ac mae'r ddau sefydliad yn cytuno â'r newid arfaethedig.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r cynnig i ddirymu a disodli Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 i gydgrynhoi ac adlewyrchu rôl statudol y Comisiwn wrth arfer ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau statudol fel y nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022? 

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno â'r trefniadau pontio sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau drafft, fel y'u nodir yn y tabl yn rheoliad 2, sy'n sicrhau parhad y cyfnod arolygu 6 blynedd presennol a ddechreuodd o dan Reoliadau 2001?

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno y dylid diwygio'r amserlen ar gyfer gwneud adroddiadau arolygu addysg bellach a hyfforddiant, o 70 diwrnod gwaith i 35 diwrnod gwaith, yn unol ag arolygiadau eraill a gynhelir gan Estyn?

Cwestiwn 4

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r ddeddfwriaeth er mwyn:

  • sicrhau eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i ateb y cwestiynau uchod.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico website

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Caiff eich manylion, os cânt eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.